Gwasanaethu ac atgyweirio cyfarpar torri a thorri glaswellt
URN: LANLEO17
Sectorau Busnes (Cyfresi): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnws gwasanaethu ac atgyweirio cyfapar torri a thorri glaswellt yn cynnwys gwybodaeth a dealltwriaeth o osod a gweithredu’r cyfarpar a’r teclynnau.
Mae’n cynnwys adnabod namau, dulliau atgyweirio, graddnodi, a dilysu perfformiad. Mae’r cyfarpar sydd yn cael eu cynnwys i’w cael yn un neu fwy o’r sectorau cysylltiedig canlynol o beirianneg ar y tir, e.e. amaethyddiaeth, garddwriaeth, amwynderau, gofal daear, coedyddiaeth a choedwigaeth.
Mae’r safon hefyd yn cynnwys yr egwyddorion torri sydd yn cynnwys offer llonydd/sy’n symud, torri trwy gylchdroi, llafnau llif ac offer llaw.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid bod dadrymuso’n cael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol posibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogiad a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
- pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
- symud ac amnewid cydrannau ar gyfarpar torri/torri glaswellt ar y tir
- datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar ac offer torri/torri glaswellt yn unol â manyleb y cynhyrchydd
- symud ac adnewyddu cydrannau wedi treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- hogi mecanweithiau torri er mwyn perfformio o fewn manylebau’r cynhyrchydd
- gosod mecanweithiau torri i berfformio o fewn manylebau’r cynhyrchydd a gofynion y cwsmer
- nodi ac unioni perfformiad torri gwael
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â manyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u chadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
- y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
- y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni sydd wedi ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda chyfarpar torri a thorri glaswellt ac adnabod yr achos sylfaenol
- diffygion a namau arferol sydd yn digwydd gyda chyfarpar torri a thorri glaswellt ar y tir a’r ffordd y gellir eu hadnabod
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth cyflawni’r gwasanaethu a’r atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o’r bywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael yr amnewidiadau hyn
- sut i symud ac amnewid cydrannau o gyfarpar torri a thorri glaswellt ar y tir
- sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cyfarpar torri a thorri glaswellt yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
- egwyddorion gweithredu a chymwysiadau cyfarpar torri a/neu dorri glaswellt
- y dulliau o hogi a gosod mecanweithiau a chydrannau torri
- effaith y math o gnwd ac amodau ar y broses dorri a/neu dorri glaswellt
- y ffordd y mae addasiadau a gosodiadau’n effeithio ar berfformiad cyfarpar torri a/neu dorri glaswellt a’r pŵer sydd ei angen i’w gyrru
- sut i ddefnyddio data i osod ac addasu cyfarpar torri a/neu dorri glaswellt i gael y perfformiad gorau posibl
- y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau’r gwaith i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth sydd angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarpar torri a/neu dorri glaswellt a’u cydrannau e.e. torwyr lawntiau a thorwyr tyweirch proffesiynol, cyfarpar torri glaswellt robotig, teclynnau wedi eu pweru â batris a theclynnau llaw, tocwyr perthi, torwyr cnwd gwyrdd a thorwyr arwynebol, mecanweithiau torri cynaeafwr, llifiau, asglodwyr ac offer llaw
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
• tanwydd
• olewau
• hylifau
• nwyon
• llwch
• aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• Cyfarwyddiadau cynhyrchwyr
• gofynion cwsmeriaid
• cyfarwyddiadau llafar
Dulliau diagnosis:
• archwiliadau gweledol
• profion ymarferol a gweithredol
• cyfarpar diagnostig
• systemau rheoli a monitro electronig o bell
• adolygu data technegol
Gosod mecanweithiau torri e.e. cydbwyso, clirio llafnau, uchder torri, hyd torri
Hogi mecanweithiau torri e.e. llafnau a chadwyni llifiau, cyllyll llonydd ac sy’n cylchdroi, silindrau/riliau, ffustiau ac offer llaw
Ynni wedi ei storio:
• sbringiau
• tyndra strap
• pwysedd hydrolig
• gollyngiad trydanol
• gollyngiad cronnwr
Dolenni I NOS Eraill
Gweler LANLEO1 Adnabod a lleihau peryglon yn yr ardal waith peirianneg ar y tir, am arweiniad ar arferion gweithio diogel.
Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – egwyddorion mecanyddol, am arweiniad yn ymwneud ag egwyddorion ac arferion sylfaenol peirianneg.
Gweler LANLEO29 Monitro trosglwyddo a gosod cyfarpar ar y tir am arweiniad yn ymwneud â gofynion gweithredol.
Gweler LANLEO2 Gweithredu gweithdrefnau sefydliadol mewn peirianneg ar y tir am arweiniad yn ymwneud â chofnodi gweithdrefnol neu weinyddol ac arferion adrodd.
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO17
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
torri; torri glaswellt; cyfarpar; ar y tir; peiriannau