Gwasanaethu ac atgyweirio olwynion a thraciau ar gyfarpar ar y tir
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio olwynion a thraciau ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys deall y mathau, adeiladwaith, swyddogaeth a gweithrediad cyfarpar ar y tir sy’n defnyddio olwynion a thraciau i drosglwyddo pŵer i’r ddaear, (e.e. systemau traciau, olwynion a theiars neu systemau gyriant daear).
Mae’r safon hon yn cynnwys tyniant a throsglwyddo pŵer tyniannol o gerbyd â phŵer ar y tir i’r ddaear trwy deiars neu draciau gan ddefnyddio tyniant a chymhorthion tyniannol, (e.e. balast, trosglwyddo pwysau, olwynion cawell deuol, mathau a nodweddion adeiladwaith rheolaeth llithro neu drac teiars). Yr ardaloedd sydd yn cael eu harchwilio yw cynnal a chadw ac atgyweirio adeiladu teiars a thraciau, galluoedd a chyfyngiadau pob un a’r ffordd y gellir gwella tyniant.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
 - bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
 - dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
 - dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i wneud y gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
 - sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi ac wedi ei ynysu o’r ffynonellau pŵer lle bo angen
 - cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
 - defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
 - pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
 - nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd eu hangen ar gyfer y gweithgaredd
 - symud ac amnewid cydosodiadau olwynion/traciau a’u cydrannau cysylltiedig ar gyfarpar ar y tir
 - datgymalu, asesu ac ailgydosod systemau olwynion/traciau a’u hoffer rhedeg am ddefnyddioldeb yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
 - tynnu ac amnewid cydrannau sydd wedi treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
 - gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau olwynion/traciau ar gyfarpar ar y tir
 - addasu, cysylltu neu symud cymhorthion i gyflawni sefydlogrwydd a mwy o ymdrech tyniannol
 - adnabod ac unioni namau’n ymwneud ag olwynion, teiars, traciau a thyniant
 - cadarnhau bod cyfarpar wedi ei osod neu ei raddnodi’n gywir ar ôl ei wasanaethu a’i atgyweirio
 - defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
 - ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
 - cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
 
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
 - y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
 - yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i wneud y gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
 - y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
 - y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
 - y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni wedi ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
 - y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
 - y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gydag olwynion a thraciau ar gyfarpar ar y tir a nodi’r achos sylfaenol
 - diffygion arferol a namau sydd yn digwydd gydag olwynion a thraciau ar gyfarpar ar y tir
 - y ffactorau sy’n effeithio ar werth cyflawni’r gwasanaethu a’r atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
 - y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael rhai yn eu lle
 - mathau, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu systemau olwynion a/neu draciau a’u hoffer rhedeg
 - y dulliau o ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac ailgydosod systemau olwynion a/neu draciau a’u hoffer rhedeg
 - mathau, adeiladwaith a chymwysiadau olwynion, traciau teiars a chymhorthion tyniannol
 - goblygiadau dosbarthiad/trosglwyddiad/balast pwysau, ar berfformiad tyniannol
 - goblygiadau cyfrifoldebau deddfwriaethol a chyfreithiol ar gyfarpar olwynion neu draciau
 - y berthynas rhwng arweiniad echel flaen a phŵer tyniannol a sut i gyfrifo arweiniad echel flaen
 - sut i gynnal gwiriadau ffisegol i gadarnhau cymarebau mecanyddol rhyng-echel ac addasrwydd cyfuniadau teiars
 - y dulliau ar gyfer gosod neu raddnodi cyfarpar ar ôl ei gynnal a’i gadw neu ei atgyweirio
 - y berthynas rhwng pwysedd teiars, gallu i gario pwysau a phwysedd daear
 - y dulliau o brofi cyfarpar wrth gwblhau gwaith i gadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei ddychwelyd at y cwsmer
 - sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a’r cwmni
 - yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
 - y wybodaeth sydd angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
 
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cymhorthion i gyflawni sefydlogrwydd a mwy o ymdrech dyniannol e.e. pwysedd teiars, olwynion deuol, olwynion cawell, balast a phwysau hylifol, rheolaeth pwysedd teiars a systemau rhoi gwynt mewn teiars
Namau yn ymwneud â theiars, traciau a thyniant e.e weindio trorym, ymgripiad ymyl/teiar, cydymffurfiad ymyl, llithriant, dirgryniad a sboncio, tyllau
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
- tanwydd
 - olewau
 - hylifau
 - nwyon
 - llwch
 - aer cywasgedig
 
Goblygiadau dosbarthiad/trosglwyddiad/balast pwysau, ar berfformiad tyniannol e.e. llithro gormodol, rheolaeth llithro, pwysedd daear, sefydlogrwydd, pwysedd teiars deuol, olwynion cawell, balastau hylifol, pwysau a llwythi amrywiol (lledaenwr gwrtaith, breichiau’n ymestyn, tanceri)
Cyfarwyddiadau a manylebau:
- darluniau/cynlluniau
 - amserlenni
 - datganiadau dull
 - Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
 - cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
 - gofynion y cwsmer
 - cyfarwyddiadau llafar
 
Cyfrifoldebau deddfwriaethol a/neu gyfreithiol e.e. llwythau echel/teiars/crynswth, cerbydau tywys, hysbysiad yr heddlu a chyfyngiadau ffordd neu bont
Dulliau diagnosis:
- archwiliadau gweledol
 - profion ymarferol a gweithredol
 - cyfarpar diagnostig
 - systemau rheoli a monitro electronig o bell
 - adolygu data technegol
 
Perthynas rhwng echelau sydd yn cael eu gyrru a phŵer tyniannol e.e. echelau PTO sydd yn cael eu gyrru, gyriant tir, cymarebau rhyng-echel a chyfuniadau cywir teiars ar gyfer cerbydau gyriant 4 olwyn gydag olwynion gyriant o feintiau anghyfartal
Ynni wedi ei storio:
- sbringiau
 - tyndra strap
 - pwysedd hydrolig
 - gollyngiad trydanol
 - gollyngiad cronnwr
 
Mathau, adeiladwaith a chymwysiadau olwynion, traciau teiars a chymhorthion tyniannol e.e. maint, gradd plyg, mynegai llwyth, gradd cyflymder, cyfeiriadedd, pwysedd/tyndra, balastio, defnydd o diwbiau mewnol