Gwasanaethu ac atgyweirio systemau llywio cledrau ac olwynion ar gyfarpar ar y tir

URN: LANLEO15
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2022

Trosolwg


Mae’r safon hon yn cynnws y gwasanaethu ac atgyweirio systemau llywio cledrau ac olwynion ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys deall y mathau, adeiladwaith, swyddogaeth a gweithrediad systemau llywio olwynion a chledrau a’u cydrannau a geir yn y sector ar y tir, yn cynnwys rhai mecanyddol, gyda chymorth pŵer a hydrostatig.

Mae systemau llywio’n cyfeirio at reoli llwybr teithio cerbyd neu beiriant (e.e. echel lywio unigol, colynnu, mynd wysg ei ochr, troi, sgid-lywio neu droead sero). Mae adnabod ac unioni problemau sydd yn gysylltiedig â llywio yn bwysig yn y safon hon (e.e. tynfa’r llyw, sigl/cryndod olwyn, llywio diog/trwm, colli effaith hunanganoli, gwaith olwyn llywio gormodol, pwysedd anghywir teiars, cydbwyso/llwytho/cymhwyso cyfarpar neu fudiad yr olwyn lywio, cywiro mudo/cywiro parhaus [systemau hydrolig]).

Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi ei hyfforddi yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn perianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:


  1. bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risg uchel sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
  2. bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  3. dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
  4. dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  5. sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o’r ffynonellau pŵer lle bo angen
  6. cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
  7. defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi achos namau system lywio ar systemau llywio olwynion a chledrau ar gyfarpar ar y tir
  8. pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
  9. nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd yn ofynnol ar gyfer y gweithgaredd
  10. symud a disodli systemau llywio olwynion a chledrau a’u cydrannau perthnasol
  11. datgymalu ac ailgydosod systemau llywio olwynion a chledrau a’u cydrannau yn unol â manyleb a safonau’r cynhyrchydd
  12. gwasanaethu ac atgyweirio systemau llywio olwynion a chledrau yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
  13. symud a disodli cydrannau wedi treulio a’u niweidio yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
  14. gosod cydrannau llywio yn unol â manylebau’r cynhyrchwyr
  15. gwirio ac addasu geometreg llywio
  16. defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  17. ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  18. cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion y warant a gweithdrefnau’r cwmni


Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


  1. gwybod sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir 
  2. y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
  4. y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
  5. y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
  6. y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni wedi ei storio a’r ffordd y dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi 
  7. y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw 
  8. y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda systemau llywio ar gyfarpar ar y tir ac adnabod yr achos sylfaenol  
  9. symptomau, nodweddion ac achosion namau cyffredin mewn system lywio
  10. y ffactorau sydd yn effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gwaith, yr angen uniongyrchol am y cyfarpar
  11. y cydrannau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael rhai newydd 
  12. egwyddorion gweithredol systemau llywio mecanyddol, cymorth pŵer a hydrostatig a’u cymhwysiad
  13. y ffordd y gall cydbwysedd, llwytho a chymhwyso cyfarpar ddylanwadu ar berfformiad llywio
  14. egwyddorion gweithredu sylfaenol systemau awto-lywio ac arwain a ddefnyddir mewn cyfarpar ar y tir
  15. mathau, adeiladwaith a gweithrediad cydrannau system lywio ar systemau llywio olwynion a chledrau
  16. egwyddorion geometreg systemau llywio yn cynnwys: Ackermann, onglau caster a camber, gogwydd ‘king pin’, mewndro ac alldro (2wd/4wd)
  17. sut i symud, datgymalu, ailgydosod a disodli systemau llywio olwynion a chledrau a’u cydrannau yn unol â manyleb a safonau’r cynhyrchydd
  18. y dulliau o wirio ac addasu geometreg llywio
  19. y dulliau o brofi systemau llywio wrth gwblhau gwaith i gadarnhau eu bod yn perfformio yn unol â manyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
  20. sut i ailgylchu neu waredu mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni 
  21. yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
  22. y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data


Cwmpas/ystod


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Cydrannau e.e. 
blychau llywio
rac a phiniwn
cysyllteddau llywio
cynhalwyr colyn hyb llywio
‘king pin end-float’
cychwyniad llywio cymorth pŵer
cydrannau echel lywio
unedau brêc system lywio (annibynnol, ar gledrau a radiws troi o ddim)
uned rheoli llywio hydrolig (Orbitrol) 
uned llywio electro-hydrolig (Autosteer)

Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
tanwydd
olew
hylifau
nwyon
llwch
aer cywasgedig

Cyfarwyddiadau a manylebau:
darluniau/cynlluniau
amserlenni
datganiadau dull
Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
gofynion cwsmeriaid
cyfarwyddiadau llafar

Dulliau diagnosis:
archwiliadau gweledol
profion ymarferol a gweithredol
cyfarpar diagnostig
systemau rheoli a monitro electronig o bell
adolygu data technegol

Geometreg llywio e.e. clo llywio, alldro wrth droi, mewndro, hyd rod cledr a chysylltwr llusg

Systemau llywio e.e. llywio echel blaen a/neu ôl, mynd ar wysg ei ochr, colynnu, troi, sgid-lywio neu droead sero

Namau system lywio e.e. tyniad llyw, sigl/cryndod olwyn, llywio diog/araf, llywio trwm, chwarae rhydd olwyn lywio, pwysedd a meintiau anghywir teiars

Ynni wedi ei storio:
sbringiau
tyndra strap
pwysedd hydrolig
gollyngiad trydanol
gollyngiad cronnwr  


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2027

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANLEO15

Galwedigaethau Perthnasol

Peirianneg ar y tir

Cod SOC

2129

Geiriau Allweddol

llywio; systemau, geometreg, cydrannau; ar y tir; cyfarpar; peiriannau