Gwasanaethu ac atgyweirio systemau brecio ar gyfarpar ar y tir
URN: LANLEO14
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio systemau brecio ar gyfarpar ar y tir, yn cynnwys cerbydau a pheiriannau peirianneg ar y tir ar gledrau neu olwynion.
Mae’n cynnwys yr egwyddorion a’r arferion sydd yn ofynnol i gynnal a chadw ac atgyweirio systemau brecio i gyflwr diogel a gweithredol.
Mae systemau brecio’n cyfeirio at systemau a ddefnyddir i arafu cyflymder, i ddod â cherbydau a pheiriannau i stop, i arafu neu atal cylchdro cydrannol fel systemau llywio troi a sgidio ac i atal cerbydau rhag symud i ffwrdd pan fyddant wedi stopio. Mae’r safon hon yn cyfeirio at adeiladwaith, defnydd, gweithrediad, atgyfeirio ac adfer systemau brecio a’u cydrannau. Mae nodi namau mewn system frecio yn rhan bwysig o’r safon hon.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o’r peryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
- pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd
- symud a disodli cydrannau sydd wedi treulio ac wedi eu niweidio ar systemau brecio yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
- datgymalu ac ailgydosod systemau brecio a’u cydrannau
- glanhau halogiad o systemau brecio a chydrannau
- gwasanaethu/atgyweirio ac adfer systemau brecio a’u cydrannau i fanyleb a safonau’r cynhyrchydd
- addasu ac ailosod y cydrannau a ddefnyddir i gymhwyso mecanweithiau brecio
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system frecio sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn angenrheidiol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio’r cyfarpar gwaith
- dulliau ar gyfer paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
- y peryglon sydd yn cael eu creu gan egni wedi ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- adeiladwaith, swyddogaeth a gweithrediad dyluniadau gwahanol o systemau brecio hydrolig a niwmatig a geir ar gyfarpar ar y tir
- swyddogaeth a gweithrediad cydrannau a ddefnyddir mewn systemau brecio
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda pherfformiad system frecio ac adnabod yr achos sylfaenol
- sut i adnabod ac unioni namau mewn systemau brecio
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth cyflawni’r gwasanaethu a’r atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o’r bywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd eu hangen ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
- sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio, adfer, addasu ac ailosod systemau brecio a’u cydrannau yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd, er mwyn cyflawni lefelau derbyniol o berfformiad system
- yr effaith y mae gwres yn ei gael ar effeithlonrwydd brecio a chydrannau
- yr effaith y mae addasu teithio rhydd ysgogydd brecio yn ei gael ar berfformiad brecio ac amser ymateb y system
- rôl Falfiau Synhwyro Llwyth (LSV) cerbyd ar berfformiad brecio a’r dulliau addas a ddefnyddir i brofi, ailaddasu ac ailosod y cydrannau hyn i gyflawni’r perfformiad angenrheidiol
- sut a pham y mae cynyddu cyflymder cerbyd yn cynyddu llwyth y system frecio i raddau llawer mwy na chynyddu pwysau mas/crynswth cerbyd
- y ffordd y gall balast cerbyd, llwytho a throsglwyddo pwysau, ddylanwadu ar berfformiad a bywyd gweithredol system frecio
- gweithrediad system frecio ôl-gerbyd a’r perthnasoedd perfformiad gofynnol rhwng y cerbyd sydd yn llusgo a’r cerbyd sydd yn cael ei lusgo
- isafswm gofynion perfformiad system frecio, gwasanaeth a pharcio ar gyfer y cyfarpar, fel y nodir gan ddeddfwriaeth a rheoliadau perthnasol
- y dulliau a ddefnyddir i addasu, gwaedu neu gydbwyso systemau brecio
- y dulliau o brofi system frecio wrth gwblhau gwaith i gadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â manyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
systemau brecio e.e. Gwasanaeth, Parcio, Eilaidd, Brys/Methu’n ddiogel, annibynnol, 2wd, 4wd, ar gledrau, trawsyrru, breciau/cloeon parcio
cydrannau a ddefnyddir mewn systemau brecio, e.e. silindrau meistr a llafur, cysyllteddau, addaswyr brêc / llacio hunanaddasu a llaw, camiau gweithredu brêc Gwastad a math S, camsiafftiau, esgidiau brêc (arwain a dilyn, rhwymedig a rhybedog), bandiau brêc, disgiau plât unigol a lluosog, disgiau wedi eu trochi mewn olew a sych, cychwynwyr brêc (pistonau, gwasgedd hydrolig, siambrau aer cychwynwyr cyflenwad deuol a brêc sbring), cronfeydd brêc, pympiau hydrolig, cywasgwyr aer, falfiau rheoli brêc tractor-ôl-gerbyd, cyplysiadau hydrolig, niwmatig a thrydanol tractor-ôl-gerbyd, pibau, uniadau, systemau brecio ôl-gerbyd, Falfiau Synhwyro Llwyth a falfiau cymesurol, cymhorthion brecio (servo, cronnwr, dan bwysedd, systemau brecio gwrth-gloi [ABS])
adeiladwaith a swyddogaeth systemau brecio, e.e. drwm/band, disgiau gwlyb/sych, mynediad, pipell fwg, a brecio wedi gor-redeg wedi ei gymhwyso gan systemau mecanyddol, hydrolig (yn cynnwys systemau unigol a deulinellol), cychwyniad niwmatig neu hydro-niwmatig. Falfiau rheoli brêc tractor-ôl-gerbyd (cydamseru), falfiau rheoli brêc Cyfnewid / Brys / Methu diogel, systemau brecio grwth-gloi [ABS] falfiau Synhwyro Llwyth cerbyd
halogiad e.e. gwlybaniaeth, hylifau anghywir, deunydd dieithr
yr effeithiau y mae gwres yn eu cael ar effeithlonrwydd brecio a chydrannau e.e. gwydro, pylu brêc, traul, clo anwedd
yr effeithiau y mae manyleb system frecio anghywir yn eu cael ar berfformiad a/neu hirhoedledd system, e.e. traul gormodol, traul cyn pryd / methiant system frecio’r cerbyd sy’n llusgo, gwydro leinin ffrithiant brêc, amser ymateb gormodol system frecio cerbyd sy’n cael ei lusgo
namau mewn systemau brecio e.e. bachu, rhwymo, gogwydd, pyliau, pylu, methiant, meddal a phedal meddal brêcs, brecio anghyson, amser ymateb gwael (araf) system, perfformiad brecio gwael (teithio rhydd gormodol system, dirgryniad, sŵn, tyllu-crafu, halogiad, seliau’n gollwng, hylifau anghywir, traul gormodol), perfformiad brecio anghyson / wedi ei gam-baru rhwng y cerbyd sydd yn llusgo a’r cerbyd sydd yn cael ei lusgo
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys tanwydd, olewau, hylifau, nwyon, llwch, aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau e.e. darluniau/cynlluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP), cyfarwyddiadau’r Cynhyrchydd, gofynion y cwsmer, cyfarwyddiadau llafar
Dulliau diagnosis e.e. archwiliadau gweledol, profion ymarferol a gweithredol, cyfarpar diagnostig, systemau rheoli a monitro electronig o bell, adolygu data technegol
Ynni wedi ei storio e.e. sbringiau, tyndra strap, pwysedd hydrolig, gollyngiad trydanol, gollyngiad cronnwr
Gweithrediad system frecio ôl-gerbyd / cerbyd sydd yn cael ei lusgo e.e. systemau llinell unigol a deuol, symudiad brêc, dyfeisiadau methu diogel (brêc hydrolig, niwmatig a sbring), systemau Synhwyro Llwyth, siglad ôl-gerbyd, plygu yn hanner
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO14
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
systemau brecio; ar y tir; cyfarpar; peiriannau; ôl-gerbydau, teclynnau llusgo, cerbydau sy’n cael eu llusgo