Gwasanaethu ac atgyweirio cydosodiadau trawsyrru mecanyddol ar gyfarpar ar y tir
URN: LANLEO13
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio cydosodiadau trawsyrru mecanyddol ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys tynnu, datgymalu, atgyweirio ac ailgydosod gerflychau, trawsyriadau a’u cydrannau (e.e. gafael lithro, gafael gyson, syncro-mesh), yr arferion profi, diagnosis ac atgyweirio sydd yn angenrheidiol ar gyfer trawsyriadau syml a chymhleth, yn ogystal â’r cydrannau trawsyrru sydd yn angenrheidiol i drawsyrru pŵer i olwynion gyriant a darnau peiriannau sydd yn symud, (e.e. cydosodiadau echel ôl, cydosodiadau echel flaen neu gydosodiadau echel yrru).
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw, a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau
- pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- gwerthuso defnyddioldeb rhannau trawsyrru mewn atgyweiriad
- nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd yn ofynnol ar gyfer y gweithgaredd
- symud ac amnewid cydosodiadau trawsyrru mecanyddol a’u cydrannau cysylltiedig o gyfarpar ar y tir
- symud halogiad o drawsyrru sydd wedi methu
- datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cydosodiadau mecanyddol a’u cydrannau yn unol â manyleb a safonau’r cynhyrchydd
- symud a disodli cydrannau sydd wedi treulio a’u niweidio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
- cadarnhau bod cyfarpar yn cael ei osod a’i raddnodi ar ôl ei wasanaethu a’i atgyweirio
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgyfosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnau ei bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn dychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion gwarant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y mathau o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd eu hangen i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
- y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
- y peryglon sydd yn cael eu creu gan ynni sydd wedi ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus allai fod yn bresennol a’r ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda chydosodiadau trawsyrru mecanyddol ac adnabod yr achosion sylfaenol
- diffygion a namau arferol sydd yn digwydd gyda chydosodiadau trawsyrru mecanyddol ar gyfarpar ar y tir
- y ffactorau sydd yn effeithio ar werth cyflawni’r gwasanaethu a’r atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gwasanaethau a’r atgyweirio a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
- sut i werthuso defnyddioldeb rhannau trawsyrru mewn atgyweiriad
- mathau, adeiladwaith, ac egwyddorion gweithredu gerflychau a’u cydrannau
- sut i symud a disodli cydosodiadau trawsyrru mecanyddol a’u cydrannau o gyfarpar ar y tir
- sut i symud halogiad o drawsyrru sydd wedi methu
- sut i ddatgymalu, gwasanaethu/atgyweirio ac adfer cydosodiadau trawsyrru mecanyddol a’u cydrannau i fanyleb a safonau’r cynhyrchydd
- sut i ddilyn y llwybr gyrru trwy gydosodiadau trawsyrru mecanyddol a’u cydrannau gan ddefnyddio darluniau systematig y cynhyrchydd
- mathau, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu echelau pŵer blaen ac ôl a’u cydrannau
- y berthynas rhwng pŵer, cyflymder a throrym, i gynnwys y berthynas â threfn trawsyrru, lleoliad brêcs, maint cydrannau
- y dulliau o osod cyfarpar a pheiriannau ar ôl gwasanaethu ac atgyweirio
- y dulliau o brofi cydosodiadau trawsyrru mecanyddol wrth gwblhau’r gwaith i gadarnhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth y mae angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Cyflawni’r gweithgareddau angenrheidiol ar gyfer isafswm o dri cydosodiad a chydran trawsyrru: mae’n rhaid i un ohonynt fod yn erflwch mecanyddol cymhleth ar gerbyd ar y tir:
gerflychau a’u cydrannau e.e:
1. gafael lithro
2. gafael gyson
3. syncro-mesh
4. blychau ystod a lleihau
5. symudiad ôl a blaen
6. gyriannau PTO
7. gerflychau symudiad robotig/hydrolig
echelau ôl a blaen a’u cydrannau e.e:
1. unedau lleihau echelau ôl a blaen
2. differol
3. cloeon differol
4. hanner symudiadau
5. cymalau cyflymdra parhaus
6. cymalau cyffredinol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
• tanwydd
• olewau
• hylifau
• nwyon
• llwch
• aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• Cyfarwyddiadau y cynhyrchydd
• gofynion cwsmeriaid
• cyfarwyddiadau llafar
Dull diagnosis:
• archwiliadau gweledol
• profion ymarferol a gweithredol
• cyfarpar diagnostig
• systemau rheoli a monitro electronig o bell
• adolygu data technegol
Ynni wedi ei storio:
• sbringiau
• tyndra strap
• pwysedd hydrolig
• gollyngiad trydanol
• gollyngiad cronnwr
Dolenni I NOS Eraill
Mae’r safon ar gyfer gosod cynhalwyr, perthynas gêrs a phiniynau â’i gilydd a’r dull o iro wedi eu cynnwys yn LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – egwyddorion mecanyddol.
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO3
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
peirianneg; ar y tir; gwasanaeth; atgyweirio; trawsyriadau; cyfarpar; peiriannau