Gwasanaethu ac atgyweirio cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill ar gyfarpar ar y tir
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu ac atgyweirio cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys symud, datgymalu, atgyweirio ac ailgydosod trawsyriadau a’u cydrannau, a hefyd arferion profi, rhoi diagnosis ac atgyweirio sy’n ofynnol ar gyfer trawsyriadau syml a chymhleth.
Mae’r safon hefyd yn cynnwys y technegau a ddefnyddir i gysylltu a datgysylltu, gyrru a chyfyngu’r trorym rhag cael ei drawsyrru trwy’r llinellau gyrru.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i’r dadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gweithio ym maes peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle mae’n cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- sicrhau bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i atgyweirio yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu o ffynonellau pŵer lle bo angen, cyn bod y gwaith yn dechrau
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau’r perygl o halogi a pheryglon lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu gwybodaeth ddiagnostig i nodi diffygion a namau ac asesu rhesymau dros fethiant
- pennu’r gofynion ar gyfer gwasanaethu ac atgyweirio
- nodi a sefydlu argaeledd cydrannau amnewid sydd yn ofynnol ar gyfer y gweithgaredd hwn
- symud ac amnewid cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill ar gyfarpar ar y tir
- datgymalu, gwasanaethu/atgyweirio cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd lle bo angen
- symud a disodli cydrannau sydd wedi treulio ac wedi eu niweidio yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
- cadarnhau bod cyfarpar wedi ei osod neu ei raddnodi’n gywir ar ôl ei wasanaethu a’i atgyweirio
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailgydosod wrth gwblhau’r gwaith a chadarnhau ei fod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol a pholisi’r cwmni
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol, gofynion y warant a gweithdrefnau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu ac atgyweirio cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a chadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio cyfarpar gwaith
- y ffordd y dylid paratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer ei wasanaethu a’i atgyweirio
- y peryglon sydd yn cael eu creu gan egni sy’n cael ei storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- y dulliau gwahanol y gellir eu defnyddio ar gyfer asesu diffygion a namau gyda chydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill ac adnabod yr achos sylfaenol
- achosion a symptomau cyffredin methiant mewn cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill ar gyfarpar ar y tir
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwasanaethu ac atgyweirio, fel cost, amcangyfrif o fywyd gweithredol, angen brys am y cyfarpar
- y cydrannau sydd yn ofynnol ar gyfer y gwasanaethu a’r atgyweirio a gweithdrefn y cwmni ar gyfer cael amnewidiadau
- sut i symud ac amnewid cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill, yn cynnwys unedau wedi eu gosod yn fewnol ac yn allanol
- mathau, adeiladwaith, egwyddorion gweithio a chychwyniad cydwyr gwahanol a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill
- sut i ddatgymalu, atgyweirio, adnewyddu ac adfer cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
- dulliau dilyniant ymgysylltiad ac ymgymeriad cydiwr
- y dulliau o brofi cydwyr a dyfeisiadau rheoli trawsyrru eraill wrth gwblhau’r gwaith i gadarnhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol a pholisi’r cwmni
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y wybodaeth sydd angen ei chofnodi, gweithdrefn y cwmni ar gyfer cadw cofnodion a gofynion deddfwriaeth diogelu data
Cwmpas/ystod
Gweithio ar o leiaf tri o’r 6 grŵp canlynol o ddyfeisiadau:
- cydwyr sydd wedi gor-redeg, cydwyr ‘dog’, cydwyr sy’n cyfyngu trorym neu gydwyr llithro
- cydwyr unigol sych, deuol, platiau siocleddfu a chydrannau sy’n cyfyngu dirgryniad
- cydwyr plât gwlyb
- cylcholwynion hylif, trawsnewidwyr trorym
- cydwyr allgyrchol mecanyddol, cydwyr math côn
- cydwyr electrofagnetig
Cyflawni’r dulliau canlynol:
- profion pallu
- profion pwynt llithro cydwyr sy’n cyfyngu trorym
- profion pwysedd
- mesur cydrannau
Gwybod a deall mathau, adeiladwaith, egwyddorion gwaith a chychwyniad y dyfeisiadau canlynol a ddefnyddir i ymgysylltu a datgysylltu gyriant:
Dyfeisiadau mecanyddol:
- cydwyr wedi eu gor-redeg
- cydwyr sy’n cyfyngu trorym neu lithro
- unigol sych
- cydwyr deuol
- cydwyr math côn
- platiau siocleddfu a chydrannau sy’n cyfyngu dirgryniad
- cydwyr ‘dog’
- cydwyr allgyrchol mecanyddol
Dyfeisiadau hydrolig:
- cydwyr plât gwlyb
- cylcholwynion hylif a
- thrawsnewidwyr trorym
Dyfais wedi ei chychwyn yn drydanol:
- cydwyr electrofagnetig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
- tanwydd
- olewau
- hylifau
- nwyon
- llwch
- aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
- darluniau/cynlluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
- gofynion y cwsmer
- cyfarwyddiadau llafar
Dulliau diagnosis:
- archwiliadau gweledol
- profion ymarferol a gweithredol
- cyfarpar diagnostig
- systemau rheoli a monitro electronig o bell
- adolygu data technegol
Ynni wedi ei storio:
- sbringiau
- tyndra strap
- pwysedd hydrolig
- gollyngiad trydanol
- gollyngiad cronnwr
Dolenni I NOS Eraill
Gweler LANLEO4 Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir - mecanyddol egwyddorion ar gyfer gosod cynhalwyr a pherthynas gêrs a phiniynau â’i gilydd a’r dull o iro.