Gwasanaethu a chynnal a chadw injanau ar gyfarpar ar y tir
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gwasanaethu a chynnal a chadw injanau ar gyfarpar ar y tir. Mae’n cynnwys adeiladu a gweithredu egwyddorion injanau cynnau gwreichionog a chynnau cywasgiad a’u cyfluniadau. Mae hefyd yn cynnwys nodi a gweithrediad cydrannau, symud a disodli cydosodiadau a chydrannau injan a dulliau a thechnegau datgymalu ac ailosod.
Mae’r safon hon yn cynnwys systemau a pherfformiad injanau, gan ymgorffori’r systemau a ddefnyddir i gyflenwi’r tanwydd (yn cynnwys systemau carbwradur a chwistrelliad) a’r aer a gyflenwir gan faniffoldau mewndwll neu systemau derbyn wedi ei wefru gan bwysedd, yn ogystal ag aer sydd ei angen mewn proses ymlosgiad injan, a’r mathau, adeiladwaith a swyddogaeth y cydrannau.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus/HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael ei hyfforddi yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol bosibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- gwirio bod y cyfarpar ar y tir sydd angen ei wasanaethu a’i gynnal a’i gadw yn ddiogel, wedi ei baratoi a’i ynysu oddi wrth ffynonellau pŵer lle bo angen, cyn bod y gwaith yn dechrau
- cymryd y rhagofalon angenrheidiol i atal cemegau, nwyon a sylweddau rhag dianc a lleihau peryglon halogiad a pherygl lle bo angen
- defnyddio amrywiaeth o ddulliau i gasglu data i nodi diffygion a namau
- cadarnhau’r gofynion ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw
- nodi a sefydlu argaeledd eitemau defnyddiol sydd yn angenrheidiol ar gyfer y gweithgaredd
- symud cydrannau system injanau o gyfarpar ar y tir er mwyn paratoi ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw
- amnewid cydrannau wedi eu treulio a’u niweidio yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
- gosod ac addasu cydrannau injan yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
- amnewid neu adfer cydrannau system injan yn unol â manylebau a safonau’r cynhyrchydd
- nodi systemau chwistrelliad tanwydd wedi eu rheoli’n fecanyddol ac yn electronig
- defnyddio dulliau profi addas i asesu perfformiad y system sydd wedi ei hailosod ar ôl cwblhau’r gweithgaredd a chadarnhau ei bod yn perfformio yn unol â manylebau gweithredu cyn ei dychwelyd at y cwsmer
- gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff, peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risg wrth baratoi i wasanaethu a chynnal a chadw cyfarpar ar y tir
- y math o ddillad a’r cyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd yn ofynnol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y gofynion cyfreithiol perthnasol ar gyfer paratoi a defnyddio’r cyfarpar gwaith
- y dulliau o baratoi cyfarpar ar y tir ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw
- y perygon sydd yn cael eu creu gan ynni wedi eu storio a sut dylid ymateb i’r rhain yn ystod y cyfnod paratoi
- y cemegau, y nwyon a’r sylweddau peryglus a allai fod yn bresennol a ffyrdd y dylid ymdrin â nhw
- y mathau o ffynonellau tanwydd sydd ar gael, sut i’w hadnabod a sut mae’n effeithio ar wasanaethu a chynnal a chadw injanau
- y dulliau y gellir eu defnyddio ar gyfer nodi diffygion a namau ar injanau
- y diffygion a’r namau arferol sydd yn digwydd gydag injanau ar gyfarpar ar y tir
- y ffactorau sy’n effeithio ar werth gwneud y gwasanaethu a’r cynnal a’r cadw
- yr eitemau defnyddiol sydd eu hangen i gyflawni gwaith gwasanaethu a chynnal a chadw a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer eu cael
- y mathau, adeiladwaith ac egwyddorion gweithredu y mathau gwahanol o injanau a ffynonellau tanwydd a chyfarpar ar y tir
- mathau a swyddogaeth cydrannau systemau injanau
- allyriadau’r beipen wagio, rheoliadau a dulliau o reoli hidlwyr a hylifau
- effeithiau gwlybaniaeth a halogyddion mewn systemau tanwydd a thanio
- gweithdrefnau rhedeg injan i mewn
- gweithdrefnau dechrau a stopio injan
- sut i symud ac amnewid cydrannau system injan i baratoi ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw
- sut i osod ac addasu cydrannau system injan yn unol â manylebau a systemau’r cynhyrchydd yn cynnwys sut i amseru a chydbwyso cydrannau injan
- sut i adnabod a dewis dulliau priodol o selio unedau a chydrannau injan ar ôl gwasanaethu a chynnal a chadw
- y dulliau ar gyfer gosod neu raddnodi cyfarpar a pheiriannau ar ôl gwasanaethu a chynnal a chadw
- y dulliau o brofi systemau injan wrth gwblhau gwaith er mwyn sicrhau eu bod yn perfformio yn unol â’r fanyleb weithredu cyn eu dychwelyd at y cwsmer
- pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei chael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y cofnodion y mae angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cydrannau e.e.
- carbwraduron
- plygiau tanio
- pympiau chwistrellu
- pympiau dosbarthu tanwydd
- chwistrellwyr
- rheolwyr
- cymhorthion dechrau’n oer
- systemau hidlo aer
- systemau gwacáu
- tyrbo ac uwchwefrwyr
Datgymalu ac atgyweirio e.e.
- pennau silindrau a chydosodiadau trên falfiau
- pistonau, cydosodiadau cylchyn a leininau
- amseriad cydran injan, e.e. camsiafft, cydbwyswr
- crancsiafftiau
- systemau tanio gwreichionog
- pympiau a systemau cyflenwi tanwydd
- systemau gwacáu
Injanau – injanau tanio gwreichion a thanio cywasgu a’u cyfluniadau e.e.
- aer wedi ei oeri a dŵr wedi ei oeri
- lleininau gwlyb a sych, monobloc
- yn anadlu’n naturiol ac wedi ei wefru gan bwysedd (i gynnwys cyfuno tyrbo ac uwchwefru)
- cydbwyswyr ac ataliad dirgryniad
Hidlwyr a hylifau:
- Catalydd Ocsideiddio Diesel (DOC)
- Hidlwr Gronynnau Diesel (DPF)
- Lleihau Catalytig Dethol (SCR)
- Hylif Gwacáu Diesel (DEF)
Ffynonellau tanwydd – e.e.
- petrol
- diesel
- hybrid
- LPG
- methan
- hydrogen
Gallai cemegau a sylweddau peryglus gynnwys:
- tanwydd
- olewau
- hylifau
- nwyon
- llwch
- aer cywasgedig
Cyfarwyddiadau a manylebau:
- darluniau/cynlluniau
- amserlenni
- datganiadau dull
- Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
- cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd
- gofynion y cwsmer
- cyfarwyddiadau llafar
Dulliau diagnosis:
- archwiliadau gweledol
- profion swyddogaethol a gweithredol
- cyfarpar diagnostig
- rheolaeth electronig a systemau monitro o bell
- adolygu data technegol
Ailgydosod ar ôl atgyweirio e.e.
- cylchynau piston bwlch
- cydbwysedd ac aliniad cydrannau injan
- cliriadau pistonau a leininau
- amseriad cydran injan
- dilyniannau tynhau
Ynni wedi ei storio:
- springiau
- tyndra strap
- pwysedd hydrolig
- gollyngiad trydanol
- gollyngiad cronnwr