Cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – oeri ac iriad
URN: LANLEO10
Sectorau Busnes (Suites): Gweithrediadau Peirianneg ar y Tir
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir – oeri ac iriad. Mae’n rhoi dealltwriaeth o greu a gwasgaru gwres a diben cyfryngau oeri, e.e. tanwydd, olew, dŵr, aer a darfudiad, ffrithiant a deunyddiau inswleiddio, eu mathau, eu defnydd a’u nodweddion yn ogystal ag effaith gwres.
Mae hefyd yn cynnwys iriad, diben, mathau, nodweddion, priodweddau ac ychwanegion mewn olew ac ireidiau. Y mathau o systemau iriad a’u hawyru, e.e. symp gwlyb a sych, gorfodol, diferiad, sblash ac hunan-iro.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth weithio ar gerbydau trydan foltedd uchel (foltedd peryglus /HaV) mae’n rhaid i ddadrymuso gael ei wneud gan berson sydd wedi cael hyfforddiant yn unol â gweithdrefnau’r cynhyrchydd.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn peirianneg ar y tir o dan oruchwyliaeth.
Noder – yn unol â rheoliadau presennol mae’n rhaid i waith trydan o’r prif gyflenwad gael ei wneud gan berson cymwys, trydanwr fel arfer.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o’r peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r lleoliad lle bydd yn cael ei wneud
- bod yn ymwybodol o’r effaith amgylcheddol posibl sydd yn gysylltiedig â’r gweithgaredd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- dewis a gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio’r offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol, cyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- cymhwyso egwyddorion craidd peirianneg ar y tir i brofi, cynnal, monitro ac addasu systemau oeri ac iriad, eu cylchedau a’u cydrannau
- dewis oeryddion ac ireidiau yn erbyn manylebau gofynnol
- profi samplau oeri ac ireidiau, dehongli canfyddiadau a chymryd camau perthnasol
- cymhwyso inswleiddio i elfennau gwresogi neu oeri
- gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
- ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â chyfarwyddiadau a gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- cwblhau cofnodion fel y bo angen yn unol â chyfarwyddiadau’r cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon a’r risgiau sydd yn gysylltiedig â pheirianneg ar y tir
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a’r cyfarpar sydd yn angenrheidiol i gyflawni’r gweithgaredd a sut i’w dewis, eu paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a’u cadw a’u storio’n ddiogel ac yn gywir, yn unol â chyfarwyddiadau’r cynhyrchydd ac arferion y cwmni
- y rhesymau dros reoli tymheredd mewn cymwysiadau peirianneg ar y tir
- y dulliau a’r mathau o reoli a gwasgaru gwres a ddefnyddir mewn cymwysiadau peirianneg ar y tir
- symptomau diffyg oeri ac iriad
- yr adeiladwaith, diben a swyddogaeth cydrannau a ddefnyddir mewn systemau oeri arferol i gynnwys systemau wedi eu hoeri gan aer a hylif
- achosion nam ar effeithlonrwydd oeri
- sut i brofi a chynnal systemau oeri a’u cydrannau
- y rhesymau dros ddefnyddio iriad
- egwyddorion gweithredu systemau iriad a’u cydrannau
- nodweddion y mathau gwahanol o ddeunyddiau ffrithiant a’u gofynion iriad
- y mathau gwahanol, nodweddion, priodweddau a chymhwysiad ireidiau, olewau, seimiau, ychwanegion, gwrthrewyddion ac oerwyr, crogiant gronynnol, selio
- sut i gasglu samplau oeri ac iriad mewn ffordd sydd yn cynnal integredd y sampl
- dulliau o brofi samplau oeri ac iriad
- pwysigrwydd gadael y gweithle mewn cyflwr diogel ar ôl cwblhau’r gweithgaredd
- sut i ymdrin â’r mathau gwahanol o wastraff, yn cynnwys gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus, a achoswyd gan y gweithgaredd, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r gofynion cyfreithiol ac amgylcheddol perthnasol
- yr effaith bosibl y gallai eich gweithgaredd ei gael ar yr amgylchedd a’r ffyrdd y gellir rheoli hyn
- y cofnodion y mae angen eu cwblhau a gweithdrefn y cwmni ar gyfer hyn
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
achosion nam ar effeithlonrwydd oeri - e.e. rhwystrau, cylchrediad gwael, trapiau aer, tymheredd amgylchol, pwysedd system, gorlwytho
Dulliau a mathau o reoli a gwasgaru gwres - e.e. hylif, aer wedi ei orfodi, darfudiad/dargludiad, pelydriad, tyllau gwres a deunyddiau inswleiddio
Systemau iriad a’u cydrannau – sympiau gwlyb/sych. diferiad, sblash, disgyrchiant, hunan-iro, bwydo gorfodol, iro awtomatig
rhesymau am y rheoli tymheredd - e.e. ehangu, anweddiad, effeithlonrwydd, ymlosgiad, hirhoedledd, gludiogrwydd olew
rhesymau dros iriad - e.e. lleihau ffrithiant, lleihau traul, oeri
symptomau diffyg oeri ac iriad - e.e. afluniad, gwydro, traul, ehangu, atafael, sbotiau gwres, weldio ffrithiant, sgorio, anweddu, ymlosgiad
profi a chynnal systemau oeri a’u cydrannau – e.e. lefelau, pwysau, cymarebau a chyfeintiau, thermostatau, cyflymderau gwyntyll, tymheredd mewnbwn ac allbwn, profion pwysedd, draeniad, gweithdrefnau llifolchi a gwaedu
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANLEO10
Galwedigaethau Perthnasol
Peirianneg ar y tir
Cod SOC
2129
Geiriau Allweddol
peirianneg; egwyddorion; oeri; iriad; olew; iraid; ar y tir; cyfarpar; peiriannau