Gweithio’n ddiogel yn ardal waith peirianneg ar y tir
Trosolwg
Mae’r safon hon yn cynnwys gweithio’n ddiogel yn ardal waith peirianneg ar y tir yn ogystal â bod yn ymwybodol o gyfrifoldebau amgylcheddol. Mae’n cynnwys gofynion iechyd a diogelwch, adnabod a lleihau peryglon, nodi ac ymdrin ag argyfyngau a chyfrannu at leihau effaith amgylcheddol gweithgareddau gwaith.
I gynnal amgylchedd gwaith iach a diogel, mae’n ofynnol arnoch i gymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a’ch diogelwch eich hun ac eraill a allai gael eu heffeithio gan eich gwaith. Mae’n ofynnol arnoch hefyd gydweithredu â’ch cyflogwr i’w helpu i gydymffurfio â’u dyletswyddau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch.
Byddwch yn gallu cynnal asesiad risg cyn y gweithgareddau gwaith a gweithredu i leihau’r risg posibl i chi eich hun ac i eraill yn yr ardal waith, a allai gynnwys adeiladau cyflogwyr, adeiladau cwsmeriaid, trafnidiaeth gwaith neu unrhyw leoliad arall.
Mae’n rhaid eich bod yn gallu dilyn gweithdrefnau gofynnol os bydd damwain neu sefyllfa frys, er enghraifft, damwain, anaf, tân neu ddigwyddiad peryglus. Mae hefyd yn cynnwys damweiniau fu bron â digwydd (er enghraifft pan fydd damwain neu argyfwng arall bron â digwydd).
Mae’r safon hefyd yn cynnwys ymwybyddiaeth o faterion amgylcheddol a phwysigrwydd lleihau effaith eich gweithgareddau gwaith trwy gymhwyso arferion gwaith fydd yn lleihau’r risg o niwed amgylcheddol.
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gweithio ym maes peirianneg ar y tir.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad risg ar gyfer pob gweithgaredd gwaith fel sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch a gweithdrefnau cwmni perthnasol
- cymryd camau gofynnol i leihau unrhyw risgiau iechyd a diogelwch a nodir
- adrodd a chofnodi peryglon a nodir ac amlinellu unrhyw gamau yr ydych wedi eu cymryd yn unol â gweithdrefnau iechyd a diogelwch y cwmni
- cyfathrebu unrhyw ragofalon iechyd a diogelwch sy’n cael eu cymhwyso yn yr ardal waith i’r rheiny sy’n mynd i mewn i’r ardal
- dewis a defnyddio’r cyfarpar diogelu personol (PPE) priodol sy’n ofynnol ar gyfer y dasg
- gweithio mewn ffordd sy’n lleihau risgiau i’ch iechyd, eich diogelwch a’ch diogeledd eich hun a phobl eraill a allai gael eu heffeithio gan eich gwaith, gan gydymffurfio â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisi a gweithdrefnau iechyd a diogelwch cwmni perthnasol
- adnabod prosesau, offer, cyfarpar a deunyddiau diwydiannol sydd â’r potensial i achosi niwed
- adnabod terfynau eich cymhwysedd eich hun a gofyn am gymorth a chyngor pan fo angen
- mabwysiadu arferion gwaith diogel i ddiogelu eich hun rhag anaf, clefydau’n gysylltiedig â gwaith neu broblemau iechyd eraill
- dilyn gweithdrefnau’r cwmni a systemau gweithio diogel wrth weithio ar eich pen eich hun neu mewn sefyllfa allai fod yn beryglus
- gweithredu gweithdrefnau’r cwmni heb oedi mewn sefyllfa frys, gan ofalu lleihau’r risg o anaf personol a thrydydd parti
- dilyn gweithdrefnau cau i lawr a gwacáu a defnyddio systemau rhybudd a rhwystrau pan fo angen
- nodi a defnyddio cyfarpar ymladd tân perthnasol pan mae’n ddiogel gwneud hynny
- gweithredu i ofyn am gymorth, hysbysu’r rheiny sydd angen gwybod a chwblhau cofnodion gofynnol
- cymryd y camau gofynnol i reoli a glanhau gorlifiau neu ollyngiadau
- adnabod y gweithgareddau allai achosi niwed i’r amgylchedd a defnyddio arferion gwaith sy’n lleihau risg
- adnabod, trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus yn unol â deddfwriaeth berthnasol, taflenni data cynhyrchwyr a gweithdrefnau’r cwmni
- ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff yn gynaliadwy, yn cynnwys rhai peryglus a rhai nad ydynt yn beryglus, rhai a achosir gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol a pholisi cwmni perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- eich cyfrifoldebau personol chi a rhai’r cwmni yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a chodau ymarfer cyfredol yn ymwneud â gweithgareddau peirianneg ar y tir
- polisi a gweithdrefnau iechyd a diogelwch y cwmni yn cynnwys adrodd a chofnodi
- pwysigrwydd gwirio’n barhaus am beryglon a nodi risgiau yn ardal waith peirianneg ar y tir
- hierarchiaeth mesurau i reoli risgiau yn cynnwys dileu, amnewid, rheolyddion peirianneg perthnasol, systemau gwaith diogel, hyfforddiant/cyfarwyddyd a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- y mathau gwahanol o gyfarpar digoelu personol (PPE) a’u defnydd
- y risgiau o anaf, clefydau’n ymwneud â gwaith neu broblemau iechyd eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith a’r arferion gwaith diogel y gellir eu mabwysiadu i ddiogelu rhag y rhain
- y risg o weithio’n ynysig, mewn lleoliadau pellennig neu sefyllfaoedd â’r potensial i fod yn beryglus a systemau diogel gwaith a gweithdrefnau cwmni y mae angen eu dilyn
- sut i adnabod a dehongli ystyr arwyddion diogelwch a symbolau rhybudd rhyngwladol
- y mathau o argyfyngau a allai ddigwydd yn ardal gwaith peirianneg ar y tir a’r camau i’w cymryd
- gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer cymorth cyntaf yn cynnwys lleoliad cyfarpar cymorth cyntaf ar y safle ac oddi arno a sut i gysylltu â’r swyddog cymorth cyntaf
- y gweithdrefnau gwacáu ar gyfer eich ardal waith
- y mathau gwahanol o danau a allai ddigwydd a chymhwyso cyfarpar ymladd tân perthnasol
- y gofynion deddfwriaethol perthnasol a gweithdrefnau’r cwmni ar gyfer adrodd a chofnodi damweiniau, digwyddiadau a damweiniau fu bron â digwydd
- y camau i’w cymryd i leihau risg o anaf personol neu drydydd parti yn cynnwys defnyddio systemau rhybudd a rhwystrau
- sut i ynysu a chau cyfarpar i lawr
- sut i reoli a glanhau gorlifiau a gollyngiadau
- pwysigrwydd diogelu’r amgylchedd rhag niwed pellach
- y ddeddfwriaeth a’r codau ymarfer perthnasol mewn perthynas â lleihau niwed i’r amgylchedd
- sut i ddefnyddio arferion gwaith sy’n lleihau’r niwed y gallai eich gweithgareddau gwaith eu hachosi i’r amgylchedd
- sut i nodi a dosbarthu sylwedd peryglus, a’r dulliau a’r gweithdrefnau ar gyfer trin, defnyddio a storio sylweddau peryglus yn ofalus
- sut i ailgylchu neu waredu’r mathau gwahanol o wastraff, peryglus ac nad yw’n beryglus, a achosir gan y gweithgaredd, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol a pholisi’r cwmni
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
cyfarpar – gall fod yn sefydlog neu’n symudol
perygl – rhywbeth allai achosi niwed i chi eich hun neu i rywun arall, e.e.
- gweithio ar beiriannau halogedig
- gweithio gyda sylweddau sy’n beryglus i iechyd
- symud ac amnewid amddiffynwyr
- symud peryglon tân, llithro a baglu
- sefydlogi gwrthrychau sydd mewn perygl o syrthio
- symud tarthau, llwch, nwyon ac anweddau peryglus
- rhyddhau pwysedd wedi ei storio
- gweithio mewn mannau uchel neu fannau cyfyngedig
- ymdrin â silindrau nwy dan wasgedd a nwyon wedi’u storio
- gweithio gyda thrydan
- codi a symud llwythi
- golau gwael
- mygdarthau
- gollyngiadau
- gweithio unigol
- lludded
sylweddau peryglus - e.e. glanhawyr cemegol, tanwydd, nwyon, ireidiau, paent, teneuwyr, asid batri, oerwyr
risg – y tebygolrwydd y bydd perygl yn achosi niwed mewn gwirionedd
gweithgareddau gwaith a allai achosi niwed i’r amgylchedd - e.e.
adfer nwyon oerol, glanhau peiriannau gosodiadau cemegol, adfer olewau a thanwydd, balast hylif