Plannu a sefydlu cnydau neu blanhigion
URN: LANH9
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Crofftio a Chadw Tyddyn,Taenu Pilenni Gwrth-ddŵr
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
31 Ion 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn plannu ac yn sefydlu cnydau neu blanhigion mewn amodau wedi eu diogelu neu allan yn yr awyr agored. Bydd y dulliau plannu’n dibynnu ar y math o gnydau neu blanhigion sydd yn cael eu tyfu a’r amodau sydd eu hangen arnynt ar gyfer twf. Gallai plannu fod i mewn i amrywiaeth eang o gyfryngau tyfu, a allai gynnwys pridd, hydroponeg, matin, compost neu gyfryngau tyfu eraill, fel y bo’n briodol. Mae’r safon yn cynnwys plannu a sefydlu cnydau neu blanhigion mewn unrhyw leoliad.
Byddwch yn gallu sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi cael ei baratoi’n barod ar gyfer plannu a bod ansawdd a maint y deunydd plannu ar gael. Bydd nodi deunydd plannu i fodloni manylebau yn cynnwys nodi planhigion yn ôl yr enwau cyffredin a botanegol.
Os oes angen i chi ddefnyddio cemegau (e.e. chwynladdwyr, ffyngladdwyr neu bryfleiddiaid), mae’r rhain yn amodol ar y gofynion deddfwriaethol perthnasol, a bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu.
Mae’r safon hon yn addas ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am blannu a sefydlu cnydau neu blanhigion.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu’r risgiau sydd yn gysylltiedig â’r safle a phlannu a sefydlu cnydau neu blanhigion
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- dewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r cyfarpar angenrheidiol yn ddiogel ac yn gywir
- sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi cael ei baratoi a’i fod mewn cyflwr addas ar gyfer plannu’r cnwd neu’r planhigion, a chymryd camau perthnasol os nad yw hyn yn wir
- dewis deunydd plannu yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
- gwirio iechyd deunydd plannu cyn plannu a gwrthod sbesimenau annerbyniol
- gosod deunydd plannu yn y cyfrwng tyfu, yn unol â’r cyfarwyddiadau a’r manylebau
- cynyddu iechyd, grym a chyflwr ffisegol deunydd cnwd neu blanhigion trwy ddulliau ymdrin a phlannu cywir
- cynnal hylendid a bioddiogelwch, yn unol ag arferion sefydliadol
- darparu diogelwch planhigion priodol i sefydlu’r cnydau neu’r planhigion fel y bo angen
- darparu ôl-ofal priodol i gnydau neu blanhigion, fel y bo angen
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- dilyn canllawiau’r diwydiant a’r sefydliad i leihau niwed amgylcheddol
- tacluso’r safle pan fydd eich gwaith wedi gorffen, ac ailgylchu neu waredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn gywir, yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a di-ogelwch berthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydli-adol
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i nodi peryglon ac asesu risgiau sydd yn gysylltiedig â phlannu a sefydlu cnydau neu blanhigion
- y math o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o gyfarpar sydd yn ofynnol ar gyfer plannu cnydau a phlanhigion a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw’r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- sut i ddehongli cyfarwyddiadau a manylebau ar gyfer plannu a sefydlu cnydau neu blanhigion
- y mathau o gyfryngau tyfu a’u perthynas â phlannu a sefydlu cnydau neu blanhigion
- sut i sicrhau bod y cyfrwng tyfu wedi cael ei baratoi a’i fod mewn cyflwr ad-das ar gyfer plannu cnydau neu blanhigion
- egwyddorion nodi a gosod y safle allan er mwyn sefydlu cnydau neu blanhigion
- sut i nodi ac enwi deunydd plannu ac enwau cyffredin cnydau neu blanhigion
- bioleg sylfaenol planhigion
- dulliau o asesu iechyd a chyflwr deunydd plannu ac adnabod unrhyw arwyddion ei fod yn anaddas ar gyfer plannu
- egwyddorion dewis a chyfuno mathau o blanhigion ar gyfer cymwysiadau gwahanol
- y dulliau a ddefnyddir i baratoi deunydd plannu
- deddfwriaeth genedlaethol gyfredol sy’n rheoli’r defnydd o wrteithiau a thrini-aethau wrth blannu cnydau
- pwysigrwydd amseru wrth blannu a sefydlu cnydau neu blanhigion, a’r ffactorau sy’n effeithio ar amseru a’r dulliau o blannu
- y gofod neu’r dwysedd cywir, dyfnder, cyfeiriadedd a chadernid y deunydd plannu sydd yn angenrheidiol wrth blannu cnydau neu blanhigion
- pwysigrwydd trin deunydd plannu’n gywir
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth blannu a sefydlu cnydau a phlanhigion, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- achosion niwed i gnydau neu blanhigion a sut i ddarparu diogelwch i blanhigion
- y dulliau ôl-ofal sydd yn ofynnol ar gyfer cnydau neu blanhigion a sut i’w cymhwyso
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth, ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
- sut i drin, cludo, storio ac ailgylchu neu waredu gwastraff a deunydd dros ben, yn unol â gofynion cyfreithiol ac arferion sefydliadol
- eich cyfrifoldebau yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
A. Gosod deunydd plannu yn unol â’r elfennau cywir canlynol:
1. gofod/dwysedd
2. dyfnder
3. cyfeiriadedd
4. cadernid
B. Asesu’r angen i gymhwyso diogelwch planhigion i’r cnydau/planhigion o’r canlynol:
1. plâu
2. clefydau
3. chwyn
4. amodau amgylcheddol
C. Darparu’r mathau canlynol o ôl-ofal i gnydau/planhigion:
1. dŵr
2. maethynnau
3. diogelwch
4. cymorth
5. amodau amgylcheddol wedi eu rheoli
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cnydau neu blanhigion gynnwys:
• grawnfwydydd/grawn
• cnydau gwreiddiau
• corbys
• rêp had olew
• gwinwydd
• hopys
• llysiau
• perlysiau
• blodau
• llwyni
• coed
• ffrwythau
• glaswellt
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau cynhyrchwyr/cyflenwyr
• gofynion cwsmeriaid
• gofynion sicrhau ansawdd
• gofynion cnydau
• gofynion llafar
Gallai deunydd plannu gynnwys:
• hadau
• planhigion
• coed
• bylbiau, cloron, cormau, ac ati
• toriadau
• tyweirch
• gwrtaith
• triniaethau
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
31 Ion 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANH9
Galwedigaethau Perthnasol
Ceidwad y Grîn, Garddwr, Gofalwr Tir, Gweithiwr Planhigfa, Tirluniwr, Lluosogi Planhigion, Tyddynnwr, Crofftwr, Cryfhawyr a Sglatars
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
hadau; planhigion gwely blodau; glaswellt; bywlys; llysiau; ffrwythau; toeon gwyrdd; safle; gardd; planhigfa