Cydlynu lluosogi planhigion o hadau

URN: LANH8
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cydlynu lluosogi planhigion o hadau. Gellir plannu trwy ddefnyddio offer hau hadau â llaw neu beiriannau hau hadau. Byddwch yn gweithio heb oruchwyliaeth ac mae'n rhaid eich bod yn gallu cymryd cyfrifoldeb dros luosogi.

Efallai y bydd disgwyl i chi gydlynu gwaith timau; fodd bynnag, mae'r safon hon hefyd yn cynnwys cydlynu eich baich gwaith eich hun.

Bydd angen dealltwriaeth dda arnoch o ddulliau paratoi hadau, cyfryngau tyfu gwahanol, amseriad gweithgareddau a gofynion ôl-ofal.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r perygl sydd yn gysylltiedig â'r safle a chydlynu lluosogi planhigion o hadau
  2. cydlynu'r gwaith o sefydlu a chyfathrebu dulliau gwaith ar gyfer lluosogi planhigion o hadau
  3. paratoi a gweithredu'r rhaglen hau hadau
  4. cynllunio amseriad gweithgareddau lluosogi i fodloni gofynion y manylebau
  5. nodi a sefydlu argaeledd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer lluosogi planhigion o hadau
  6. sicrhau bod yr offer yn cael ei ddefnyddio a'i gynnal a'i gadw'n ddiogel ac yn gywir
  7. cydlynu'r gwaith o brosesu ailgylchu neu waredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  8. cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion sefydliadol
  9. sicrhau bod hadau o ansawdd priodol a'u bod yn cael eu paratoi yn unol â'r manylebau
  10. cadarnhau bod y cyfryngau tyfu wedi cael eu paratoi yn unol â'r manylebau
  11. sicrhau bod yr hadau'n cael eu trin mewn ffordd sydd yn lleihau niwed
  12. cadarnhau bod hadau'n cael eu hau yn gyfartal ac yn gywir yn unol â'r manylebau
  13. sicrhau bod yr amodau amgylcheddol gorau'n cael eu darparu ar gyfer egino hadau
  14. cadarnhau bod hadau'n cael eu labelu'n glir ac yn gywir
  15. cydlynu a pharatoi rhaglen ôl-ofal addas ar ôl lluosogi sydd yn cynnal ac yn hybu datblygiad planhigion
  16. cadarnhau tynnu a gwaredu eginblanhigion diangen yn lân, yn ddiogel ac yn gywir
  17. nodi eginblanhigion sydd yn addas ar gyfer cam nesaf y rhaglen luosogi
  18. adnabod plâu a chlefydau yn gywir a gweithredu yn unol â pholisïau sefydliadol
  19. cadarnhau bod cofnodion priodol yn cael eu cwblhau fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r gofynion sefydliadol
  20. cadarnhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a gofynion asesu risg yn cael eu rhoi ar waith ar draws eich maes cyfrifoldeb

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon, asesu risg a dehongli asesiadau risg
  2. ffactorau all ddylanwadu ar amseriad y gweithrediad lluosogi
  3. cynnwys a gofynion y manylebau ar gyfer lluosogi planhigion o hadau
  4. sut i nodi a sefydlu argaeledd adnoddau wrth luosogi planhigion o hadau
  5. yr offer sydd ei angen ar gyfer y gweithgaredd lluosogi a sut i sicrhau ei fod yn cael ei ddefnyddio yn ddiogel ac yn gywir
  6. dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch wrth luosogi planhigion o hadau a'r rhesymau pam y mae'n bwysig
  7. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo a gwaredu gwastraff
  8. meintiau'r hadau sy'n ofynnol a'r cymarebau plannu cywir yn unol â'r fanyleb
  9. sut i nodi math ac ansawdd hadau ac adnabod y rheiny sydd islaw'r safon
  10. dulliau gwahanol o baratoi hadau ac addasrwydd y rhain i fathau gwahanol o hadau
  11. mathau o gyfryngau tyfu a'r rhesymau dros ddewis math penodol
  12. dulliau ar gyfer trin hadau i leihau niwed
  13. mathau o beiriannau y gellir eu defnyddio ar gyfer hau hadau
  14. yr angen am ddosbarthiad cyfartal o hadau
  15. y dyfnder cywir ar gyfer hau mathau gwahanol o hadau
  16. ffactorau sy'n effeithio ar gyfradd a chanran egino
  17. y dulliau a ddefnyddir i gynyddu cyfradd a chanran egino yn cynnwys dewisiadau amgen e.e. opsiynau nad ydynt yn gemegol
  18. plâu a chlefydau all ddigwydd wrth luosogi a pha gamau i'w cymryd
  19. pwysigrwydd darparu ôl-ofal addas sydd yn cynnal ac yn hybu datblygiad planhigion
  20. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  21. pwysigrwydd monitro cyfraddau llwyddiant yn lluosogi planhigion o hadau a chofnodi'r canlyniad ar gyfer gwella egino yn y dyfodol
  22. pwysigrwydd darparu ôl-ofal ar ôl lluosogi sydd yn cynnal ac yn hybu datblygiad planhigion
  23. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  24. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  25. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Cwmpas/ystod

A.       defnyddio a chynnal a chadw’r offer canlynol i luosogi planhigion o hadau:
1.    offer hau hadau â llaw
2.    peiriannau hau hadau

B.       cydlynu’r mathau canlynol o ôl-ofal:
1.    rheoli lleithder
2.    rheoli tymheredd
3.    gwahanu allan
4.    rheoli chwyn
5.    rheoli plâu neu gnofilod

C.       cofnodi’r canlynol:
1.    gweithgareddau lluosogi
2.    cyfraddau llwyddiant


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

**Ôl-ofal:**
  • rheoli lleithder

  • rheoli tymheredd

  • rheoli golau

  • darparu maethynnau

  • darparu dŵr

  • gwahanu allan

  • rheoli chwyn

  • rheoli plâu neu glefydau

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.


Dulliau paratoi hadau:

  • trochi

  • preimio

  • triniaethau tymheredd
  • haenu
**Manylebau:** darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.

Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANPH10; LANL17

Galwedigaethau Perthnasol

Garddwr, Gweithiwr meithrinfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

hadau; planhigyn; cnydau; lluosogi; preimio; trochi; maethynnau