Lluosogi planhigion o hadau
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn lluosogi planhigion o hadau. Gall hyn ofyn am weithredu offer hau hadau â llaw neu beiriannau hau hadau.
Mae’n cynnwys paratoi deunyddiau a’r broses o hau hadau. Bydd angen i chi fod yn ymwybodol o ddulliau paratoi hadau a chyfryngau tyfu a hefyd ôl-ofal y cnwd yn y cyfnod o hau hyd at ddiwedd y cyfnod lluosogi.
Byddwch yn gweithio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau.
Os ydych yn gweithio gyda pheiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
- gwirio math ac ansawdd yr hadau er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r fanyleb i luosogi planhigion
- sicrhau bod y cyfryngau tyfu gofynnol wedi cael eu paratoi yn unol â'r manylebau
- paratoi'r hadau sy'n cael eu defnyddio i luosogi'r planhigion yn unol â'r manylebau
- trin yr hadau mewn ffordd sy'n lleihau niwed
- hau hadau yn gyfartal ac yn gywir yn unol â'r manylebau
- labelu hadau yn unol â'r manylebau
- darparu'r amodau amgylcheddol gorau i'r had egino yn unol â'r manylebau
- cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth luosogi hadau yn unol â'r cyfarwyddiadau
- tynnu a gwaredu eginblanhigion diangen yn unol â'r cyfarwyddiadau
- darparu ôl-ofal ar gyfer eginblanhigion sydd yn cynnal ac yn hybu datblygiad planhigion
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y sefydliad
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y peryglon sydd yn gysylltiedig â lluosogi planhigion o hadau
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
yr offer sy'n ofynnol i luosogi planhigion o hadau a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd lluosogi hadau yn unol â'r manylebau
sut i nodi math ac ansawdd hadau a chydnabod y rheiny sydd islaw'r safon
dulliau gwahanol o baratoi hadau i luosogi planhigion
- y mathau o gyfryngau tyfu a ddefnyddir i luosogi planhigion o hadau
dulliau o drin hadau er mwyn lleihau niwed
yr angen am ddosbarthiad cyfartal o hadau a sut i gyflawni'r gymhareb ofynnol wrth hau
y dyfnder cywir ar gyfer hau ar gyfer mathau gwahanol o hadau a sut i gyflawni hyn
y gofynion ar gyfer labelu hadau
ffactorau sy'n effeithio ar gyfradd a chanran egino hadau
- cyfnodau datblygiad planhigion
- sut i adnabod problemau gydag egino hadau a pha gamau i'w cymryd
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth luosogi hadau a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- plâu a chlefydau cyffredin y byddwch yn dod ar eu traws wrth luosogi hadau
- y mathau o ôl-ofal sy'n ofynnol ar gyfer eginblanhigion a'u diben, yn cynnwys dewisiadau anghemegol amgen i ddiogelu rhag plâu a chlefydau
y cofnodion y mae angen eu cwblhau mewn perthynas â lluosogi planhigion o hadau
pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
A. cynnal y mathau canlynol o offer wrth luosogi planhigion o hadau:
1. offer hau hadau â llaw
2. peiriannau hau hadau
B. darparu’r mathau canlynol o ôl-ofal i gynnal datblygiad planhigion:
1. rheoli lleithder
2. rheoli tymheredd
3. gwahanu allan
4. rheoli chwyn
5. rheoli plâu neu gnofilod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
rheoli lleithder
rheoli tymheredd
rheoli golau
darparu maethynnau
darparu dŵr
gwahanu allan
rheoli chwyn
rheoli plâu neu glefydau
trochi
preimio
triniaethau tymheredd
haenu
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonau (GGS), canllawiau’r cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol