Asesu a gwella cyflwr pridd ar safleoedd ar y tir
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n asesu a gwella cyflwr y pridd ar safleoedd ar y tir. Mae sefydlu cyflwr cyffredinol y pridd a’i nodweddion ffisegol, cemegol a biolegol yn arbennig yn cynnwys archwilio ei swmp a’i gyflwr, nodweddion draenio, gwerthoedd pH, plâu, clefydau a phroblemau chwyn a gofynion maeth.
Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau bydd angen i chi fod wedi cael hyfforddiant neu dystysgrif briodol yn unol â deddfwriaeth bresennol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle ar y tir a'r dulliau o asesu cyflwr y pridd
- cadarnhau'r fanyleb ar gyfer asesu cyflwr y pridd ar y safle ar y tir
- dewis dulliau asesu pridd sy'n briodol i'r fanyleb
- pennu'r adnoddau, yr offer a'r cyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer y dull asesu pridd
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- asesu cyflwr y pridd ar safleoedd ar y tir gan ddefnyddio'r dulliau asesu gofynnol
- cadarnhau bod integredd y safle yn cael ei gynnal wrth asesu cyflwr y pridd ar safleoedd ar y tir
- cofnodi canfyddiadau asesu pridd
- cyflwyno canfyddiadau asesu pridd i bawb sydd yn gysylltiedig â gwella cyflwr y pridd ar safleoedd ar y tir a chytuno ar ddulliau ar gyfer gwella
- pennu'r adnoddau, yr offer a'r cyfarpar sy'n ofynnol i wella cyflwr y pridd ar safleoedd ar y tir
- defnyddio dulliau cytûn o wella cyflwr y pridd ar safleoedd ar y tir
- defnyddio a chynnal a chadw offer a chyfarpar ar gyfer asesu a gwella cyflwr pridd yn ddiogel, yn lân ac yn gywir
- adfer y safle ar y tir i gyflwr glân a thaclus ar ôl asesu a gwella cyflwr y pridd ar safleoedd ar y tir
- gwaredu neu ailgylchu gwastraff a deunydd dros ben yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac i leihau risg amgylcheddol
- gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol y cwmni
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ar y safle ac asesu unrhyw risg i staff, y cyhoedd a'r amgylchedd
- sut i ddehongli manylebau ar gyfer asesu cyflwr y pridd ar safleoedd ar y tir
- yr ystod o ddulliau sydd ar gael i asesu cyflwr y pridd ar safleoedd ar y tir
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer asesu a gwella cyflwr y pridd ar safleoedd ar y tir, a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- sut i asesu cyflwr y pridd gan ddefnyddio'r dull y cytunwyd arno
- sut i gofnodi canfyddiadau'r asesiad pridd
- y mathau gwahanol o bridd, cyflwr y pridd a'r dulliau a ddefnyddir i'w gwella
- y math o gyflwr pridd sy'n ofynnol ar gyfer mathau gwahanol o blanhigion a chnydau
- sut i berfformio prawf ph pridd
- diffygion gwahanol faethynnau pridd a sut i'w gwella
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- sut i drin, cludo, storio a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol ac ymarfer sefydliadol perthnasol
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A asesu cyflwr y pridd ar y safleoedd ar y tir canlynol:
- ardaloedd i'w plannu
- ardaloedd i'w hadfer
- sefydlu ardaloedd wedi eu plannu
- prawf ph
- ardaloedd i'w hadfer
- ardaloedd i'w plannu
- ardaloedd i'w hadfer
- ardal wedi ei phlannu sydd wedi ei sefydlu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dulliau asesu pridd: diagnosis rhaw, twll/proffil pridd, gwerthusiad gweledol, cyfrif pryfed genwair, monitro iechyd planhigion, prawf lab
Dulliau gwella pridd: palu, defnydd o ddeunydd organig a gwrtaith
Diffyg maeth: nitrogen, magnesiwm, potasiwm
Mathau o bridd: clai, tywodlyd, llaid, cleibridd, mawn, calchog
Cyflwr y pridd: dwrlawn cywasgedig, wedi erydu