Goruchwylio a gweithredu cynlluniau ar gyfer gosod systemau draenio tir
URN: LANH68
Sectorau Busnes (Cyfresi): Garddwriaeth,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
2019
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am oruchwylio a gweithredu cynlluniau ar gyfer gosod systemau draenio tir.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau bydd angen eich bod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig ar gyfer draenio tir
- cadarnhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas yn cael eu gwisgo
- archwilio, asesu ac adrodd ar y safle cyn gosod systemau draenio tir
- cadarnhau bod y cynlluniau ar gyfer gosod systemau draenio tir yn cyd-fynd â diben a swyddogaeth y safle a'r manylebau
- pennu'r adnoddau sy'n ofynnol i weithredu'r gwaith o osod systemau draenio tir
- cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a'r peiriannau priodol ar gyfer gosod systemau draenio tir yn cael eu paratoi a'u defnyddio yn ddiogel ac yn gywir
- sicrhau bod dulliau gwaith yn cael eu sefydlu a'u cyfathrebu'n glir i bawb sydd yn gysylltiedig â'r gwaith o osod systemau draenio tir
- lleihau'r perygl i'r cyhoedd a gweithredwyr eraill
- rhoi'r gweithrediadau a gynlluniwyd ar waith ar gyfer gosod systemau draenio tir
- goruchwylio a monitro'r gweithrediadau a gynlluniwyd i sicrhau eu bod yn bodloni'r manylebau a'r amserlen y cytunwyd arni
- cadarnhau bod gwaredu gwastraff a deunydd dros ben yn lleihau'r perygl amgylcheddol yn unol â'r gofynion cyfreithiol perthnasol
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth oruchwylio a gweithredu cynlluniau ar gyfer gosod systemau draenio tir
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer, y cyfarpar a'r peiriannau gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd arolygu, asesu ac adrodd ar gyflwr y safle cyn gosod systemau draenio tir
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- egwyddorion a dulliau yn ymwneud â dewis a gweithredu peiriannau ar gyfer gosod systemau draenio tir
- pwysigrwydd systemau draenio sydd yn gweithio'n gywir ac yn effeithlon
- egwyddorion dyluniad draeniad
- yr egwyddorion a'r cyfrifiadau sy'n ymwneud â manylebau draeniad
- pam y mae'n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- pam y mae'n bwysig gwneud gwaith yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni
- y cofnodion y mae angen eu cwblhau a'u cadw a pham
- pa risg i'r cyhoedd a gweithredwyr a allai fod yn bresennol wrth osod systemau draenio tir a sut i'w lleihau
- y gofynion cyfreithiol perthnasol sy'n rheoli gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
2024
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANH68
Galwedigaethau Perthnasol
Garddwr, Gofalwr y Grîn, Tirluniwr, Gweithiwr Ystadau, Gwarchodwr Tir
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
draen; piben; dŵr