Goruchwylio a gweithredu’r gwaith o gynnal a chadw systemau dyfrhau

URN: LANH67
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sy’n gyfrifol am oruchwylio a gweithredu’r gwaith o gynnal a chadw systemau dyfrhau.

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffyrdd fydd yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith cynnal a chadw arfaethedig ar systemau dyfrhau
  2. cadarnhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas yn cael eu gwisgo
  3. archwilio, asesu ac adrodd ar gyflwr systemau dyfrhau yn unol â gofynion y sefydliad
  4. cadarnhau bod cynlluniau ar gyfer cynnal a chadw systemau dyfrhau yn cyd-fynd â diben a swyddogaeth y safle a'r manylebau
  5. pennu'r adnoddau sydd eu hangen i weithredu'r gwaith o gynnal a chadw systemau dyfrhau
  6. cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a'r peiriannau priodol ar gyfer cynnal a chadw ac atgyweirio systemau dyfrhau yn cael eu paratoi a'u defnyddio yn ddiogel ac yn gywir
  7. sicrhau bod y dulliau gwaith yn cael eu sefydlu a'u cyfathrebu'n glir i bawb sydd yn gysylltiedig â chynnal a chadw systemau dyfrhau
  8. lleihau'r perygl i'r cyhoedd a gweithredwyr
  9. rhoi gweithrediadau sydd wedi eu cynllunio ar waith ar gyfer cynnal a chadw systemau dyfrhau
  10. goruchwylio a monitro gweithrediadau sydd wedi eu cynllunio er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r manylebau a'r amserlenni y cytunwyd arnynt
  11. asesu canlyniadau'r gweithrediadau sydd wedi eu cynllunio
  12. adrodd a chynnal atgyweiriadau i broblemau a nodwyd gyda systemau dyfrhau
  13. cadarnhau bod niwed i wasanaethau a'r ardal gyfagos yn cael eu cadw mor isel â phosibl tra'n goruchwylio a gwneud y gwaith cynnal a chadw systemau dyfrhau
  14. cadarnhau bod gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn lleihau'r perygl amgylcheddol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
  15. cadarnhau bod y safle'n cael ei adfer i'r cyflwr priodol ar ôl cynnal a chadw systemau dyfrhau
  16. cofnodi arolygiadau a'r gwaith sy'n cael ei wneud i unioni problemau gyda systemau dyfrhau yn unol â gofynion sefydliadol
  17. cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth oruchwylio'r gwaith o gynnal a chadw systemau dyfrhau
  2. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
  3. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  4. sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer, y cyfarpar a'r peiriannau gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
  5. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  6. pwysigrwydd arolygu a gwasanaethu systemau dyfrhau yn rheolaidd a'r dulliau sy'n ofynnol i sicrhau bod systemau dyfrhau yn gweithio'n gywir ac yn effeithlon
  7. ffynonellau dŵr posibl ar gyfer systemau dyfrhau a phwysigrwydd ansawdd dŵr
  8. y risg posibl i iechyd a'r amgylchedd sydd yn gysylltiedig â storio dŵr
  9. gofynion dyfrhau gwahanol arwynebeddau a phriddoedd
  10. sut i wneud atgyweiriadau pan fydd problemau'n digwydd gyda'r systemau dyfrhau
  11. y gwaith cynnal a chadw a'r offer sy'n ofynnol ar gyfer systemau dyfrhau a sut i'w gweithredu
  12. y problemau a allai effeithio ar weithredu gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio a sut i drin y rhain yn gywir
  13. y math o niwed sy'n debygol o ddigwydd i wasanaethau a'r ardal gyfagos wrth gynnal a chadw ac atgyweirio systemau dyfrhau a sut i gadw hyn mor isel â phosibl
  14. pam y mae'n bwysig gwneud gwaith i'r amserlen y cytunwyd arni
  15. pa gofnodion sydd angen eu cwblhau a'u cadw a pham
  16. pwysigrwydd dilyn arfer gorau ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  17. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  18. sut i oruchwylio pobl tra'u bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw systemau dyfrio

Cwmpas/ystod

Defnyddio'r deunyddiau canlynol i weithredu'r gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio systemau dyfrhau:

  • UPVC
  • MDPE
  • glud
  • cyplysiadau pwysedd
Gweithredu'r gwaith cynnal a chadw ac atgyweirio'r mathau canlynol o offer mewn system ddyfrhau:
  • Ysgeintwyr codi
  • Pibell ddŵr ac ychwanegiadau
  • Ysgeintwyr teithio ac annibynnol
  • Falfiau
  • Tapiau
  • Cyplysiadau
  • Solenoidau
  • Blychau cadw offer dyfrhau

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae systemau dyfrhau yn cynnwys rhai: symudol neu wedi eu gosod

Manylebau: darlun, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol

Gallai’r arwynebeyddau y darperir ar eu cyfer gan y systemau hyn gynnwys rhai: caled/mandyllog; synthetig; cae cain; cae garw.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH67

Galwedigaethau Perthnasol

Garddwr, Gofalwr y Grîn, Gweithiwr Planhigfa, Tirluniwr, Gwarchodwr Tir

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

dyfrio; piben; rhwystr; gollyngiad