Goruchwylio a gweithredu’r gwaith o gynnal a chadw systemau draenio tir
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn goruchwylio ac yn gweithredu’r gwaith o gynnal a chadw systemau draenio tir.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant a meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth.
Mae’n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau’r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith cynnal a chadw arfaethedig ar systemau draenio tir
- cadarnhau bod dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- archwilio, asesu ac adrodd ar y safle cyn gweithredu'r gwaith o gynnal a chadw systemau draenio tir yn unol â gofynion y sefydliad
- cadarnhau bod y cynlluniau ar gyfer cynnal a chadw systemau draenio tir yn cyd-fynd â diben a swyddogaeth y safle a'r manylebau
- pennu'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer gweithredu a chynnal a chadw systemau draenio tir
- cadarnhau bod yr offer, y cyfarpar a'r peiriannau ar gyfer cynnal a chadw systemau draenio tir wedi eu paratoi a'u defnyddio yn ddiogel ac yn gywir
- sicrhau bod y dulliau gwaith yn cael eu sefydlu a'u cyfathrebu'n glir i bawb sydd yn gysylltiedig â chynnal a chadw systemau draenio tir
- lleihau unrhyw risg i'r cyhoedd a gweithredwyr
- rhoi gweithrediadau a gynlluniwyd ar waith ar gyfer cynnal a chadw systemau draenio tir
- goruchwylio a monitro gweithrediadau a gynlluniwyd er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni'r manylebau a'r amserlenni y cytunwyd arnynt
- asesu canlyniadau gweithrediadau a gynlluniwyd
- adrodd ar broblemau a nodwyd gyda systemau draenio tir a'u hatgyweirio
- cadarnhau bod niwed i wasanaethau ac ardaloedd cyfagos yn cael eu cadw mor isel â phosibl tra'n goruchwylio a gwneud y gwaith cynnal a chadw systemau draenio tir
- cadarnhau gwaredu gwastraff a deunydd dros ben i leihau risg amgylcheddol yn unol â gofynion cyfreithiol
- cadarnhau bod y safle'n cael ei adfer i'r cyflwr gofynnol ar ôl cynnal a chadw systemau draenio tir
- cofnodi arolygiadau a gwaith sy'n cael ei wneud i unioni problemau gyda systemau draenio tir yn unol â gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth oruchwylio'r gwaith o gynnal a chadw systemau draenio tir
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r cyfarpar, yr offer a'r peiriannau gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd archwilio a gwasanaethu systemau draenio tir yn rheolaidd a'r dulliau sy'n ofynnol i sicrhau bod systemau draenio tir yn gweithio'n gywir ac yn effeithiol
- sut i gynnal archwiliadau o systemau draenio tir
- y mathau o broblemau sydd yn debygol o ddigwydd gyda systemau draenio tir
- sut i adnabod draeniad wedi ei rwystro a'i achosion
- dulliau ar gyfer cywiro draeniad wedi ei rwystro
- y ffactorau sy'n effeithio ar gyfraddau llif mewn draeniau
- pwysigrwydd systemau draenio tir sydd yn gweithio'n gywir ac yn effeithlon
- egwyddorion dulliau dylunio a gosod systemau draenio tir
- sut i gywiro problemau gyda systemau draenio tir
- pam y mae'n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus tra'n goruchwylio a gweithredu'r gwaith o gynnal a chadw systemau draenio tir
- y math o niwed sy'n debygol o ddigwydd i wasanaethau ac ardaloedd cyfagos wrth gynnal a chadw ac atgyweirio systemau draenio tir a sut i gadw hyn mor isel â phosibl
- pam y mae'n bwysig cwblhau'r gwaith i'r amserlen y cytunwyd arni
- pa gofnodion y mae angen eu cwblhau a'u cadw a pham
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- sut i oruchwylio pobl pan fyddant yn gwneud gweithrediadau cynnal a chadw systemau draenio tir
Cwmpas/ystod
Defnyddio'r deunyddiau canlynol i weithredu'r gwaith o gynnal a chadw ac atgyweirio systemau draenio tir:
- pibau UPVC
- Pibau Trydyllog
- Graean
- Tywod
- Pibau clai
- Byrddau/estyll
- Rhaw
- Rhofiau
- Rhaca
- Trensiwr
- Tractor
- Ôl-gerbyd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol