Sefydlu planhigion neu gae mewn ardal cae chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn sefydlu planhigion neu gae mewn ardal cae chwaraeon. Bydd y mathau o blanhigion, arwynebedd cae a'r dulliau plannu yn dibynnu ar y math o safle neu brosiect yr ydych yn gweithio arno.
Byddwch yn gosod deunydd planhigion allan yn y cyfrwng tyfu priodol yn unol â'r gofynion. Ar ôl dyfrio, gall fod angen cymorth a diogelwch i alluogi'r deunydd planhigion i sefydlu ei hun yn y cyfrwng tyfu.
Bydd adnabod deunydd planhigion i fodloni'r fanyleb yn cynnwys yr angen i adnabod planhigion yn ôl eu henwau cyffredin a botanegol. Yn ogystal â gwybodaeth o enwau cyffredin a botanegol, bydd y safon hon hefyd yn cynnwys grwpio planhigion gwahanol.
Os oes angen i chi ddefnyddio cemegau (e.e. chwynladdwyr, ffyngladdwyr neu bryfleiddiaid), mae'r rhain yn amodol ar ofynion deddfwriaethol, a bydd angen i chi feddu ar y cymwysterau perthnasol neu fod o dan oruchwyliaeth uniongyrchol rhywun sydd yn meddu ar y cymhwyster perthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
- paratoi ardal y cae chwaraeon i fodloni manylebau
- dewis planhigion neu gau sy'n briodol i'r manylebau
- gwirio iechyd planhigion neu gae cyn sefydlu, a gwrthod sbesimenau annerbyniol
- sicrhau bod y cyfrwng tyfu ar gyfer planhigion neu gae mewn cyflwr addas ar gyfer sefydlu
- gosod y planhigion neu'r cae yn unol â'r manylebau
- trin a sefydlu'r planhigion neu'r cae yn gywir i wella iechyd, egni a chyflwr ffisegol ardal y cae chwaraeon
- darparu amddiffyniad ac ôl-ofal i'r planhigion neu'r cae i helpu i sefydlu ardal y cae chwaraeon
- cadarnhau bod integredd y safle'n cael ei gynnal tra'n sefydlu planhigion neu gae
- tacluso'r safle pan fydd eich gwaith wedi dod i ben, a gwaredu neu ailgylchu gwastraff neu ddeunydd dros ben yn ddiogel ac yn gywir yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac i leihau risg amgylcheddol
- sicrhau bod offer yn cael ei ddefnyddio a'i gynnal a'i gadw mewn cyflwr diogel, glân a chywir drwy'r amser
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu unrhyw risg tra'n sefydlu planhigion neu gae mewn ardal cae chwaraeon
- sut i ddehongli manylebau a chynlluniau
- egwyddorion nodi a gosod allan
- sut i adnabod planhigion neu gae cywir i fodloni manylebau
- bioleg planhigion a'r broses o egino, ffotosynthesis, anadlu a thrydarthu
- dulliau o asesu iechyd a chyflwr planhigion neu gae a'r arwyddion eu bod yn anaddas i'w sefydlu
- egwyddorion dewis a chyfuno rhywogaethau glaswellt ar gyfer sefydlu ardal cae chwaraeon
- egwyddorion dewis cae chwaraeon a matiau hadu ar gyfer cymwysiadau gwahanol
- enwau cyffredin a botanegol planhigion neu laswellt a ddefnyddir mewn cae chwaraeon
- agweddau ar fathau gwahanol o bridd a sut i adnabod eu haddasrwydd ar gyfer sefydlu planhigion neu gae
- sut i adnabod mathau o gyfryngau tyfu a'u perthynas â thwf a datblygiad planhigion neu gae
- dulliau o baratoi cyfryngau tyfu ar gyfer sefydlu planhigion neu gae
- y ffactorau a allai effeithio ar amseriad sefydlu planhigion neu gae
- achosion niwed a sychu allan a sut i'w hatal
- chwyn cyffredin, plâu, clefydau a diffygion a sut i'w hatal
- dulliau o ddiogelu planhigion neu gae sydd newydd eu sefydlu o fewn ardal cae chwaraeon a sut i'w cymhwyso
- y gofynion cynnal a chadw cychwynnol i sicrhau bod planhigion neu gae'n cael eu sefydlu'n effeithiol
- y mathau o offer a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer sefydlu planhigion neu gae a sut i gadarnhau eu bod yn cael eu defnyddio a'u cynnal a'u cadw yn ddiogel ac yn gywir a'u storio'n ddiogel
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a chodau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
A. sefydlu’r canlynol mewn ardal cae chwaraeon:
(i) cae
(ii) hadau
(iii) llwyni
(iv) coed
(v) egin blanhigion
B. darparu’r ôl-ofal canlynol i blanhigion neu gae:
(i) darparu dŵr
(ii) diogelwch
(iii) bwyd
(iv) toriadau
C. Gosod a nodi ardaloedd ar gyfer:
(i) plannu
(ii) adfer
D. diogelu rhag y canlynol:
(i) Chwyn a mwsogl
(ii) Plâu
(iii) Clefydau a diffygion
(iv) Amodau amgylcheddol
E. adnabod planhigion gan ddefnyddio eu henwau cyffredin a botanegol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: gallant fod yn llafar neu'n ysgrifenedig.
Deunydd planhigion yn cynnwys: glaswellt, planhigion prennaidd, blodau, planhigion gwely blodau, cnydau, bywlys, hadau, meillion
Manylebau: yn cynnwys darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS) a chanllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.