Adnewyddu arwynebeddau chwaraeon artiffisial
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn adnewyddu arwynebeddau chwaraeon artiffisial sydd hefyd yn cynnwys atgyweirio.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
cadarnhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) yn cael eu gwisgo
cynnal arolygiadau o arwynebeddau chwaraeon artiffisial ar gais
nodi unrhyw amodau sy'n effeithio ar ansawdd yr arwynebeddau chwaraeon artiffisial
hysbysu'r rheiny sy'n gyfrifol am yr arwynebeddau chwaraeon artiffisial ynghylch hyn
dewis, paratoi a defnyddio'r offer, y cyfarpar a'r deunyddiau sy'n ofynnol i adnewyddu arwynebeddau chwaraeon artiffisial yn ddiogel ac yn gywir
defnyddio dulliau a thechnegau perthnasol i gynnal arwynebeddau chwaraeon artiffisial, offer a therfynau allanol
gwneud gwaith atgyweirio ac adnewyddu yn brydlon ac yn gywir
gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel ac yn gywir yn unol â gofynion sefydliadol a deddfwriaeth berthnasol
glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn ddiogel ac yn gywir
cadarnhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
ffynonellau gwybodaeth yn ymwneud â'r deunyddiau a'r dulliau a ddefnyddir i adnewyddu arwynebeddau chwaraeon artiffisial, offer a therfynau allanol
sut i adnabod, dewis a pharatoi'r offer, y cyfarpar a'r deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer adnewyddu arwynebeddau chwaraeon artiffisial
y dulliau a'r technegau sy'n ofynnol i gynnal arwynebeddau chwaraeon artiffisial, offer a therfynau allanol
y safonau cynnal a chadw y dylech eu cyflawni
y perygl o niweidio'r ardal gyfagos a nodweddion eraill wrth adnewyddu arwynebeddau chwaraeon artiffisial a sut i atal hyn
sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr glân a thaclus ar ôl yr adnewyddu
sut i lanhau, cynnal a chadw a storio offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer adfer arwynebeddau chwaraeon artiffisial yn gywir ac yn ddiogel
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae gwaith atgyweirio ac adnewyddu yn cynnwys: dyfrhau, nodi a thynnu difwynwyr.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol