Sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled

URN: LANH63
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled a ddefnyddir yn y diwydiannau tirlunio.

Mae'r safon yn addas ar gyfer gweithredwyr sydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig ac mae'n canolbwyntio ar y sgiliau sy'n ofynnol i ddeall y strwythur ac ar gyfer sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled tra'n gweithio yn unol â manylebau.

Bydd disgwyl i chi ddeall effaith y gwaith hwn ar yr amgylchedd uniongyrchol ac effaith yr amgylchedd ar y strwythur.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gwisgo dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE)
  3. dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar wrth sefydlu haen unigol llawr caled yn ddiogel ac yn gywir
  4. gosod allan ar gyfer llinell a lefel
  5. gosod a pharatoi cwrs gosod addas
  6. cadw'r niwed i ardaloedd cyfagos mor isel â phosibl wrth sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled
  7. gadael y safle mewn cyflwr glân a thaclus ar ôl sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled
  8. glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn brydlon ac yn ddiogel
  9. diogelu ardaloedd gwaith yn gywir rhag y tywydd a defnydd ar ôl sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled nes eu bod mewn cyflwr addas
  10.  gadael y safle yn ddiogel, yn daclus ac yn addas ar gyfer y diben a fwriadwyd ar ei gyfer
  11. cynnal perthynas waith gyda phawb sydd yn gysylltiedig â sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled
  12. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  13. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon, asesu risg a dehongli asesiadau risg wrth sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled
  2. sut i ddewis yr offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer paratoadau haen unigol llawr caled, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE)
  3. y tywydd sy'n briodol ar gyfer sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled
  4. sut i fesur a sicrhau bod y gwaith o fewn goddefiannau
  5. sut caiff disgynfeydd, llinellau a lefelau eu pennu a'u sefydlu
  6. ble a phryd y mae paratoi haen unigol llawr caled yn well na sgrîd
  7. sut i ddefnyddio'r offer a'r cyfarpar wrth sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled yn ddiogel ac yn gywir
  8. sut i gyfrifo'r gordal disgwyliedig a/neu ddyfnder yr haen sy'n ofynnol i ddarparu ar gyfer cywasgu'r unedau palmant
  9. pwysigrwydd defnyddio'r math cywir o ddeunydd cwrs gosod
  10. pwysigrwydd gosod siâp graen cwrs, maint graen a chynnwys gwlybaniaeth i berfformiad cyffredinol
  11. yr amodau storio a diogelu cywir ar gyfer deunydd gosod cwrs
  12. sut caiff y cwrs gosod ei osod a'i baratoi â llaw, sut caiff ei ffurfio gan ddilyn copaon a phantiau, a sut caiff ei gywasgiad ei bennu
  13. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  14. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol

Cwmpas/ystod

A.  dewis a defnyddio'r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth sefydlu paratoadau haen unigol llawr caled:

  1. rhawiau/rhofiau
  2. rhacanau/liwtiau/crafwyr tarmac
  3. tryweli/tryweli llyfnu
B.  paratoi cwrs gosod â llaw yn y sefyllfaoedd canlynol:
  1. ardal wastad
  2. ardal sydd yn newid disgynfa yn sydyn (copa)
  3. ardal sydd yn newid disgynfa yn sydyn (dyffryn)
C.  paratoi cwrs gosod â llaw gan ddefnyddio'r deunydd canlynol:**
  1. cydgasgliadau mân ar gyfer palmant confensiynol 
  2. cydgasgliadau garw ar gyfer palmant hydraidd 
  3. deunydd wedi ei rwymo gan sment ar gyfer palmant cadarn

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Deunyddiau:

  • cydgasgliadau mân ar gyfer palmant confensiynol

  • cydgasgliadau garw ar gyfer palmant hydraidd 

  • deunydd wedi ei rwymo gan sment ar gyfer palmant cadarn

PPE: Offer amddiffynnol personol

Offer a chyfarpar:

  • rhawiau/rhofiau
  • rhacanau/liwtiau/crafwyr tarmac
  • tryweli/tryweli llyfnu
Sefyllfaoedd:
  • ardal wastad

  • ardal sydd yn newid uchder yn sydyn (copa)

  • ardal sydd yn newid disgynfa yn sydyn (dyffryn)


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANL29

Galwedigaethau Perthnasol

Tirluniwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

llawr caled; is-haen