Gosod cyrsiau llawr caled
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gosod cyrsiau llawr caled yn y diwydiannau tirlunio.
Mae'r safon yn addas ar gyfer gweithredwyr sydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig ac mae'n canolbwyntio ar y sgiliau sy'n ofynnol i ddeall y strwythur a gosod cyrsiau gosod llawr caled tra'n gweithio yn unol â manylebau.
Bydd disgwyl i chi ddeall effaith y gwaith hwn ar yr amgylchedd uniongyrchol, ac effaith yr amgylchedd ar y strwythur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â gosod cyrsiau gosod llawr caled a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar wrth osod cyrsiau gosod llawr caled yn ddiogel ac yn gywir
- gosod allan ar gyfer llinell a lefel
- gosod a pharatoi cwrs gosod llawr caled addas
- tacluso â llaw y cwrs gosod llawr caled yn yr ymylon ac o amgylch rhwystrau fel gorchuddion mynediad at ddraeniau
- tacluso â llaw y sianel a adawyd gan reiliau sgrîd heb amharu llawer ar na chywasgu ardaloedd sgrîd cyfagos
- lleihau niwed i'r ardaloedd cyfagos wrth osod cyrsiau gosod llawr caled
- glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn brydlon ac yn ddiogel
- diogelu ardaloedd gwaith yn gywir rhag y tywydd a defnydd nes eu bod mewn cyflwr addas
- gadael y safle yn ddiogel, yn lân, yn daclus ac yn addas ar gyfer y diben y bwriadwyd ar ei gyfer
- cynnal perthynas waith gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon, asesu risg a dehongli asesiadau risg wrth osod cyrsiau gosod llawr caled
- y tywydd sy'n briodol ar gyfer paratoi sgrîd
- sut i fesur er mwyn sicrhau bod y gwaith o fewn goddefiannau
- sut mae disgynfeydd, llinellau a lefelau'n cael eu pennu a'u gosod
- y mathau o offer a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer gosod cyrsiau gosod llawr caled, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- sut i gyfrifo'r gordaliad disgwyliedig a/neu ddyfnder y sgrîd sy'n ofynnol ar gyfer bar sgrîd rhiciog
- pwysigrwydd defnyddio'r math cywir o ddeunydd cwrs gosod llawr caled
- pwysigrwydd gosod siâp graen cwrs gosod, maint graen a chynnwys gwlybaniaeth i berfformiad cyffredinol
- yr amodau storio a diogelu cywir ar gyfer deunydd cwrs gosod llawr caled
- sut mae'r cwrs gosod llawr caled yn cael ei osod a'i baratoi â llaw, sut caiff ei ffurfio i ddilyn copaon a phantiau, a sut caiff ei gywasgiad ei bennu ymlaen llaw
- sut mae sianeli sy'n cael eu ffurfio gan reiliau sgrîd yn cael eu tacluso
- sut gellir defnyddio technegau â chymorth mecanyddol i baratoi cwrs gosod sgrîd ar gyfer ardaloedd mwy
- sut gellir sgridio gan ddefnyddio ymylon sefydlog presennol a/neu reiliau sgrîd
- maint, mas a'r math o offer cywasgu sydd yn addas ar gyfer gosod cyrsiau gosod
- sut caiff offer cywasgu ac unrhyw atodiadau sy'n ofynnol eu defnyddio.
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. dewis a defnyddio'r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth osod cyrsiau gosod llawr caled:
- barrau sgrîd llawn
- barrau sgrîd rhiciog
- rheiliau sgrîd
- cywasgwyr platiau sy'n dirgrynu
- offer gorffen â llaw (tryweli llyfnu, tryweli, barrau sgrîd byr)
- Wedi ei gywasgu ymlaen llaw
- Heb ei gywasgu
- cydgasgliadau mân ar gyfer palmant confensiynol
- cydgasgliadau garw ar gyfer palmant hydraidd
- deunydd wedi ei rwymo gan sment ar gyfer palmentydd cadarn
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Deunyddiau:
• cydgasgliadau mân ar gyfer palmant confensiynol
• cydgasgliadau garw ar gyfer palmant hydraidd
• deunydd wedi ei rwymo gan sment ar gyfer palmentydd cadarn
PPE: Offer amddiffynnol personol
Offer a chyfarpar:
• barrau sgrîd llawn
• barrau sgrîd rhiciog
• rheiliau sgrîd
• cywasgwyr platiau sy'n dirgrynu
• offer gorffen â llaw (tryweli llyfnu, tryweli, barrau sgrîd byr)
Technegau:
• wedi ei gywasgu ymlaen llaw
• heb ei gywasgu