Rheoli parciau treftadaeth a gerddi
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn rheoli parciau treftadaeth a gerddi er mwyn sicrhau bod nodweddion hanesyddol tirwedd neu gasgliadau planhigion yn cael eu rheoli a'u cynnal mewn ffordd briodol.
Mae'r safon hon yn addas ar gyfer Rheolwyr Parciau, Curaduron a Phrif Arddwyr, yn arbennig mewn parciau a gerddi treftadaeth a gerddi botaneg.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cyfrannu at ddatblygiad cynllun rheoli cadwraeth ar draws eiddo mewn perthynas â pharciau treftadaeth, gerddi a thirwedd, ymgorffori arfer gorau cynaliadwy a rheoli bioamrywiaeth
- cyfrannu at y cynllun rheoli adnoddau ar gyfer y safle
- cyfrannu at gynllunio a rheoli cyllidebau ar gyfer y safle
- datblygu cynllun rheoli ar gyfer y safle, yn cynnwys amserlen ar gyfer cynnal a chadw cylchol, atgyweirio ac adnewyddu
- cadarnhau bod adnabod a rheoli plâu a chlefydau yn cael ei wneud
- sicrhau bod polisïau caffael, monitro, cadw a gwaredu planhigion yn cael eu gweithredu
- sicrhau bod cofnodion yn cael eu cynnal yn unol â pholisïau sefydliadol
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgareddau
- cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle
- yn ogystal â gofynion asesu risg, cadarnhau bod y polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol yn cael eu gweithredu ar draws eich maes cyfrifoldeb
- sicrhau bod dulliau gwaith yn cael eu sefydlu a'u cyfathrebu'n glir i bawb sydd yn gysylltiedig
- sicrhau bod yr holl wybodaeth sydd ar gael ar gyfer ymwelwyr yn berthnasol ac y bydd yn gwella profiad yr ymwelydd
- rheoli mynediad ymwelwyr i leihau'r effaith ar y safle
- gwella prosesau trwy annog adborth gan y rheiny sydd yn gysylltiedig â chynnal y safle a'r rheiny sy'n ei ddefnyddio
- monitro'r gwaith o weithredu'r cynllun rheoli a'i ddiwygio lle bo angen
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- gwerth planhigion o ran treftadaeth, cadwraeth ac amwynder mewn parciau treftadaeth a gerddi a'u perthynas â'r cynllun rheoli cadwraeth
- arddulliau gardd gwahanol a'u gofynion rheoli perthnasol
- arwyddocâd casglu planhigion yn cynnwys ei arwyddocâd gwyddonol, botanegol, lleol a diwylliannol
- pwysigrwydd cadw cofnodion planhigion
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg
- arwyddocâd gofynion cadwraeth amgylcheddol
- sut i baratoi cynlluniau gweithredu bioamrywiaeth
- adnabod rhywogaethau planhigion nad ydynt yn frodorol neu dramor, ymledol ac wedi eu diogelu a pha gamau i'w cymryd
- goblygiadau plâu a chlefydau, y camau priodol i'w cymryd a phwysigrwydd hylendid a bioddiogelwch
- cyfnodau datblygiad planhigion
- y ffordd mae datblygiad planhigion yn newid tirwedd gardd a'r ffordd y mae hyn yn effeithio ar weithgareddau rheoli ar gyfer cynnal a chadw, adfer ac adnewyddu
- deddfwriaeth berthnasol yn ymwneud â rheoli parciau treftadaeth a gerddi
- dynodiadau a rheoliadau perthnasol yn ymwneud â pharciau treftadaeth a gerddi
- caffaeliad perthnasol planhigion, cwarantîn a symud, canllawiau pasbortau ac iechyd planhigion, a pholisïau deddfwriaethol a sefydliadol
- goblygiadau rheoli staff wedi eu cyflogi a gwirfoddol i'r cynllun rheoli ac adnoddau
- darpariaeth grantiau a ffynonellau cyllid eraill, lle y bo'n briodol
- goblygiadau agor i'r cyhoedd ac effaith cyfnodau o niferoedd ymwelwyr uchel ar y safle
- y ffordd y dylid rheoli ymwelwyr i barciau treftadaeth a gerddi
- sut i gasglu a defnyddio adborth i wella rheolaeth y safle
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Dynodiadau a rheoliadau'n ymwneud â pharciau treftadaeth a gerddi: Cofrestr Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig, Ardaloedd Cadwraeth, Henebion Cofrestredig, Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, Gorchmynion Diogelu Coed, rheoliadau Rheoli Dyluniad Adeiladu (CDM)