Adnabod planhigion ar gyfer eu defnyddio mewn casgliadau botanegol
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn adnabod planhigion ar gyfer eu defnyddio mewn casgliadau botanegol.
Mae'r safon hon yn ymwneud â deall cyfundrefn enwau botanegol a gweithredu'r wybodaeth hon ar gyfer adnabod a dosbarthu planhigion.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
defnyddio cydrannau allweddol strwythur planhigion i gynorthwyo'r gwaith o adnabod planhigion ar lefel teulu, genws a rhywogaeth i'w defnyddio mewn casgliadau botanegol
defnyddio ffynonellau gwybodaeth perthnasol yn cynnwys systemau storio data i gynorthwyo'r gwaith o adnabod planhigion
cofnodi rhywogaethau planhigion gan ddefnyddio system rheoli cofnodion planhigion priodol
adnabod rhywogaethau anymledol, tramor, ymledol a rhywogaethau wedi eu diogelu a gweithredu yn unol â hynny
- enwi a labelu planhigion yn unol â Chôd Rhyngwladol Cyfundrefn Enwau
- pennu arwyddocâd gwyddonol/garddwriaethol tarddiad planhigion
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
rheoliadau iechyd planhigion wrth ddod o hyd i blanhigion i'w defnyddio mewn casgliadau botanegol
ystyr enwau botanegol disgrifiadol
- cyfundrefn enwau planhigion botanegol fel y mae'n berthnasol i'r defnydd perthnasol a chywir o dermau dosbarthol
- sut i ddod o hyd i wybodaeth i gynorthwyo'r gwaith o adnabod planhigion i'w defnyddio mewn casgliadau botanegol gan sefydliadau perthnasol
- y weithdrefn berthnasol ar gyfer cofrestru enwau cyltifar
- gwybodaeth am ffynonellau cyfeirio, gwaith dosbarthol, allweddi planhigion a'u cyfyngiadau wrth adnabod planhigion i'w defnyddio mewn casgliadau botanegol
- cyd-destun hanesyddol systemau dosbarthu planhigion
- y systemau cofnodi a mapio planhigion perthnasol sy'n ofynnol ar gyfer adnabod planhigion i'w defnyddio mewn casgliadau botanegol
- labeli planhigion a'u defnydd mewn systemau storio data perthnasol mewn garddwriaeth
- Côd Rhyngwladol Enwau Planhigion
- data casglu planhigion a'i arwyddocâd gwyddonol i adnabod planhigion
- rhywogaethau anymledol, tramor, ymledol a rhywogaethau wedi eu diogelu a pha gamau i'w cymryd os cânt eu canfod
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol