Ymateb i ddeddfwriaeth sy’n effeithio ar hawliau cwsmeriaid

URN: LANH57
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd angen ymateb i ddeddfwriaeth sy'n effeithio ar hawliau cwsmeriaid. Mae'n canolbwyntio ar sicrhau bod y cwsmer yn ymwybodol o bolisïau ad-daliad a gwarant a hefyd yn ymdrin â pholisïau prisio a rôl Safonau Masnach.

Mae'r safon hon wedi ei hanelu at y rheiny sydd yn gweithio mewn amgylchedd sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid fel planhigfa neu ganolfan arddio.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. sicrhau bod cwsmeriaid wedi cael eu gwneud yn ymwybodol o bolisïau ad-daliad yn unol â deddfwriaeth berthnasol
  2. ymdrin ag ad-daliadau cwsmeriaid yn gywir ac yn unol â'u hawliau
  3. sicrhau bod cwsmeriaid wedi cael eu gwneud yn ymwybodol o unrhyw bolisïau gwarant yn unol â'u hawliau
  4. ymdrin ag ymholiadau gwarant cwsmeriaid
  5. sicrhau bod nwyddau wedi cael eu prisio'n gywir ac ymdrin ag unrhyw ymholiadau prisio 
  6. cadarnhau bod cynnyrch yn addas ar gyfer eu gwerthu
  7. sicrhau bod nwyddau sêl /pris gostyngol wedi eu labelu'n gywir
  8. cynnal bodlonrwydd cwsmeriaid
  9. cadarnhau bod holl fanylion y cwsmer yn cael eu storio'n ddiogel ac yn unol â deddfwriaeth diogelu data a gweithdrefnau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:


1. y ffordd y mae polisïau ad-daliad a gwarant sefydliadol yn 
gweithio yn unol â hawliau cwsmeriaid

2. sut i drin ymholiadau ad-daliad a gwarant cwsmeriaid yn unol â hawliau cyfreithiol cwsmeriaid

3. deddfwriaeth defnyddwyr perthnasol a sut mae hyn yn effeithio ar yr amgylchedd manwerthu

4. rôl Safonau Masnach yn gorfodi deddfwriaeth berthnasol

5. gweithdrefnau prisio yn cynnwys Treth Ar Werth, prisiau uned a chymharu prisiau a sut i arddangos prisiau gwerthu

6. sut i sicrhau bod cynnyrch yn addas i gael ei werthu

7. pwysigrwydd cadw cyfrinachedd cwsmeriaid

9. sut i sicrhau bod manylion cwsmeriaid yn cael eu cadw'n ddiogel yn unol â deddfwriaeth diogelu data a gweithdrefnau sefydliadol


Cwmpas/ystod

A.       ymateb i broblemau a chwynion yn ymwneud â:

  1. gwerthiannau
  2. ad-daliadau
  3. gwarantau
  4. hawliau cwsmeriaid

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH57

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Canolfan Arddio

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

ad-daliad; gwarant; prisio