Marchnata a gwerthu planhigion a chynnyrch perthnasol eraill

URN: LANH56
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn marchnata ac yn gwerthu planhigion a chynnyrch perthnasol eraill.

Mae'r safon yn cynnwys sicrhau eich bod yn deall y cynnyrch yr ydych yn eu marchnata ac yn eu gwerthu. Er mwyn gwerthu planhigion a chynnyrch perthnasol yn llwyddiannus, mae'n rhaid eich bod yn gallu hysbysu cwsmeriaid am ofynion y cynnyrch, e.e. ym mha gyflwr y dylid eu cadw, gofynion storio, dulliau dyfrio, gofal a chynnal a chadw cyffredinol, cylch bywyd a sut i sefydlu planhigyn er mwyn cael y twf gorau.

Mae gwerthu llwyddiannus yn dibynnu ar ddenu a chadw cwsmeriaid.  Yn yr amgylchedd hwn bydd angen eich bod yn gallu gofalu am eich cwsmeriaid a marchnata a gwerthu eich planhigion a chynnyrch perthnasol eraill.  Er mwyn gwneud hyn yn llwyddiannus mae'n rhaid eich bod yn cymryd rhan weithredol mewn rôl werthu.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. marchnata planhigion a chynnyrch perthnasol eraill mewn ffordd fydd yn denu cwsmeriaid ac yn cynyddu gwerthiant
  2. cynnal yr amodau gorau posibl ar gyfer y planhigion cyhyd â phosibl yn y cyfleusterau sydd ar gael
  3. darparu bwyd a dŵr fel y bo angen i gynnal cyflwr y planhigion
  4. adnabod unrhyw blanhigion neu gynnyrch y dylid eu tynnu a chymryd y camau gofynnol
  5. cylchdroi stoc planhigion a chynnyrch eraill
  6. monitro datblygiad planhigion newydd yn erbyn y cynllun cylchdroi stoc a chymryd camau os oes unrhyw broblemau
  7. defnyddio deunyddiau a labeli yn y man gwerthu yn effeithiol 
  8. hyrwyddo gwerthiannau cysylltiedig
  9. cyfathrebu'n dda gyda chwsmeriaid
  10. darparu gwybodaeth i gwsmeriaid am y planhigion neu gynnyrch eraill yr ydych yn eu gwerthu
  11. agor a chau gwerthiannau yn foddhaol
  12. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i farchnata planhigion a chynnyrch perthnasol eraill er mwyn cynyddu gwerthiannau

  2. pwysigrwydd lleoli planhigion ac effaith gwres ac oerfel

  3. sut i gynnal cyflwr planhigion a chynnyrch perthnasol eraill
  4. plâu neu glefydau gwahanol sy'n effeithio ar blanhigion a'r camau priodol i'w cymryd 
  5. y ffyrdd gwahanol y caiff planhigion eu gwerthu e.e. gorchudd gwreiddiau a chynwysyddion 
  6. egwyddorion cylchdroi stoc
  7. gwerth deunydd yn y man gwerthu a'r ystod sydd ar gael
  8. y ffordd y gellir cysylltu gwerthiannau eraill â phryniannau planhigion
  9. dulliau gwahanol o gyfathrebu gyda chwsmeriaid a phryd i'w defnyddio
  10. pwy yw eich cwsmeriaid, yr hyn y maent yn ei ddisgwyl a pham y gallent beidio dod yn ôl 
  11. y cynnyrch yr ydych yn eu gwerthu
  12. sut i roi gwybodaeth i gwsmeriaid
  13. egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid da
  14. sut i agor a chau gwerthiannau yn foddhaol 
  15. sut i ymdrin ag ymholiadau a chwynion
  16. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Cwmpas/ystod

A.         arddangos y cynnyrch canlynol i farchnata a gwerthu:

  1. cyfryngau tyfu
  2. cynwysyddion
  3. bwyd planhigion
  4. planhigion
  5. hadau
  6. bylbiau

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH56

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Canolfan Arddio

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

planhigion; arddangos; gwerthu; manwerthu; cwsmeriaid