Cydlynu’r gwaith o gasglu planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon

URN: LANH55
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cydlynu'r gwaith o gasglu planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon. Mae'n berthnasol i gasglu neu godi planhigion â llaw ar gyfer archebion. Gallai hyn gynnwys storio dros dro a pharatoi ar gyfer anfon neu werthu. Bydd y mathau o weithgareddau paratoi yn dibynnu ar y fenter yr ydych yn gweithio iddi. Mewn rhai amgylchiadau bydd yn cynnwys paratoi dogfennau anfon yn cynnwys pasbortau planhigion.

Gall planhigion fod mewn cynwysyddion neu botiau, er enghraifft, planhigion gwely blodau, llwyni neu blanhigion tŷ. Gallant hefyd fod yn blanhigion sydd wedi cael eu tyfu yn y ddaear, fel coed tir agored, llwyni neu rosynnau.

Mae casglu planhigion i'w gwerthu neu eu hanfon yn briodol yn bennaf i blanhigfeydd addurniadol sydd yn creu planhigion tŷ, planhigion gwely blodau neu stoc planhigfa addurniadol gwydn (coed, llwyni, planhigion, blodau a phlanhigion y mynydd).

Mae'r safon hon yn cynnwys cydlynu eich baich gwaith eich hun; mewn rhai enghreifftiau gallai gynnwys cydlynu gwaith timau.

Mae'r safon yn addas ar gyfer y rheiny sydd â chyfrifoldeb personol sylweddol dros wneud y dyletswyddau hyn, cynllunio'r broses ac, o bosibl, goruchwylio staff eraill.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

Cydlynu'r gwaith o gasglu a pharatoi archebion planhigion i'w gwerthu neu eu hanfon:

  1. cynnal asesiadau risg a sicrhau bod gofynion iechyd a diogelwch perthnasol yn cael eu bodloni yn eich maes cyfrifoldeb
  2. gwirio a didoli archebion planhigion mewn ffordd fydd yn cynorthwyo'r gwaith o gasglu planhigion a'r broses baratoi
  3. egluro manylebau ar gyfer casglu a pharatoi planhigion
  4. nodi a chydlynu argaeledd adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer casglu a pharatoi archebion planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon
  5. cadarnhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas yn cael eu gwisgo
  6. cadarnhau bod offer a chyfarpar yn cael eu defnyddio a'u cynnal a'u cadw yn ddiogel ac yn gywir
  7. cydlynu dulliau casglu a pharatoi planhigion yn unol â'r manylebau
  8. sicrhau bod y dulliau gwaith yn cael eu cyfathrebu'n glir i bawb sydd yn gysylltiedig â chasglu planhigion i'w gwerthu a'u hanfon, neu wedi eu heffeithio gan hyn
  9. adnabod a nodi'r planhigion y mae angen eu casglu
  10. monitro cywirdeb casglu archebion planhigion yn erbyn y manylebau
  11. monitro a gwneud yr addasiadau angenrheidiol i ddulliau casglu planhigion i wella'r broses a chynnal ansawdd y cynnyrch
  12. monitro cyflwr y planhigion sydd wedi eu casglu a gweithredu pan fo angen yn unol â'r manylebau
  13. sicrhau bod planhigion yn cael eu trin a'u cludo mewn ffordd sydd yn cynnal ansawdd ac yn lleihau niwed
  14. nodi unrhyw broblemau sydd yn codi wrth gasglu a chymryd camau pan fo angen
  15. cadarnhau bod casglu archebion planhigion yn cael ei gwblhau o fewn y graddfeydd amser gofynnol ac yn unol â'r manylebau
Paratoi archebion planhigion sydd wedi eu casglu ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon:
  1. monitro'r gwaith o baratoi'r archebion planhigion sydd wedi eu casglu i gadarnhau eu bod yn bodloni'r manylebau
  2. cadarnhau bod y gwaith o baratoi archeb planhigion yn cael ei gwblhau o fewn y graddfeydd amser gofynnol
  3. nodi unrhyw broblemau sydd yn codi yn gywir wrth baratoi archebion planhigion a chymryd camau lle bo angen
  4. storio archebion planhigion cyn eu gwerthu neu eu hanfon yn unol â'r manylebau
  5. cydlynu'r gwaith o brosesu ailgylchu neu waredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  6. sicrhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau yn unol â gofynion deddfwriaethol a sefydliadol perthnasol
  7. gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a gofynion sefydliadol.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

Cydlynu'r gwaith o gasglu a pharatoi archebion planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon:

  1. sut i adnabod peryglon, asesu risg a dehongli asesiadau risg
  2. pwysigrwydd gwirio gofynion cwsmeriaid ar gyfer casglu a pharatoi planhigion
  3. sut i gydlynu'r gwaith o gasglu a pharatoi archebion planhigion er mwyn sicrhau bod gofynion cwsmeriaid yn cael eu bodloni
  4. sut i bennu'r adnoddau dynol a ffisegol sy'n ofynnol ar gyfer casglu a pharatoi archebion planhigion
  5. y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  6. y mathau o offer a chyfarpar sydd eu hangen ar gyfer casglu a pharatoi planhigion i'w gwerthu neu eu hanfon a sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  7. dulliau addas ar gyfer cludo'r planhigion yn y safle
  8. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
  9. yr amodau tymhorol sydd yn addas ar gyfer casglu ac anfon archebion planhigion
  10. rhywogaethau neu amrywiaethau perthnasol o blanhigion sy'n cael eu creu gan y fenter a sut i'w hadnabod
  11. ffynonellau gwybodaeth am rywogaethau ac amrywiadau gwahanol
  12. meintiau a graddau perthnasol sy'n cael eu hadnabod yn y maes ar gyfer y planhigion sy'n cael eu tyfu gan y fenter
  13. ffynonellau gwybodaeth am feintiau a graddau
  14. dulliau addas ar gyfer casglu neu godi'r planhigion
  15. nodweddion sydd yn nodi bod planhigyn yn addas ar gyfer ei gasglu neu ei godi
  16. sut i gynnal ansawdd y planhigion sydd wedi eu casglu a lleihau niwed
  17. sut i sicrhau bod archebion planhigion yn bodloni gofynion cwsmeriaid
  18. pwysigrwydd monitro a gwneud yr addasiadau angenrheidiol i ddulliau casglu planhigion i wella a chynnal ansawdd y cynnyrch
  19. sut i nodi enghreifftiau lle nad yw'r planhigyn yn bodloni gofynion y cwsmer a'r camau i'w cymryd
  20. graddfeydd amser lle mae'n rhaid i'r casglu a'r paratoi archebion planhigion ddigwydd
  21. cyfraddau masnachol derbyniol casglu a pharatoi archebion planhigion sy'n berthnasol yn y fenter
Paratoi archebion planhigion wedi eu casglu ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon:
  1. sut i sicrhau bod y gwaith o baratoi planhigion yn bodloni gofynion cwsmeriaid
  2. dulliau addas ar gyfer paratoi'r planhigion
  3. y rhesymau pam nad yw planhigion wedi eu casglu o ansawdd addas a sut i nodi hyn
  4. ffactorau sy'n effeithio ar ansawdd planhigion wrth eu hanfon a'u cludo
  5. dulliau ar gyfer cynnal iechyd planhigion yn barod ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon
  6. dulliau perthnasol o storio planhigion cyn eu gwerthu neu eu hanfon
  7. pwysigrwydd cadw cofnodion yn gywir ar gyfer paratoi archebion planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon sy'n berthnasol i ofynion cyfreithiol a sefydliadol
  8. dulliau cywir ar gyfer gwaredu neu ailgylchu gwastraff a deunydd dros ben sy'n cael ei greu wrth gasglu a pharatoi archebion planhigion yn ddiogel
  9. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  10. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol

Cwmpas/ystod

A.      cydlynu'r adnoddau canlynol ar gyfer casglu planhigion ar gyfer eu gwerthu neu eu hanfon:

  1. pobl
  2. deunydd
  3. offer
B.      ystyried y cyfyngiadau canlynol ar y weithred o gasglu:
  1. gofynion cwsmeriaid
  2. argaeledd adnoddau
  3. cyflwr y planhigion
  4. iechyd a diogelwch
  5. amodau amgylcheddol
C.      gwneud addasiadau oherwydd:
  1. cyflwr planhigion
  2. amodau amgylcheddol
  3. defnydd o adnoddau
D.      defnyddio'r dulliau paratoi canlynol:
  1. tocio/brigdorri
  2. clymu
  3. chwynnu
  4. graddio
  5. bwndelu
  6. lapio
  7. rhoi mewn cynwysyddion/pacio
  8. labelu
  9. dyfrio
  10. llwytho

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Defnyddir paratoi i gynnwys gweithgareddau sydd yn digwydd ar ôl adnabod a chasglu planhigion h.y.:

  • chwynnu
  • graddio
  • bwndelu
  • lapio
  • rhoi mewn cynwysyddion/pacio
  • labelu
  • dyfrio
  • llwytho
  • storio

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.




Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANPH12

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Planhigfa

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

planhigion; casglu; paratoi; anfon