Sefydlu gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n sefydlu gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf ar gyfer eu trosglwyddo i'r cwsmer neu eu storio. Mae'n cynnwys gweithgareddau fel dethol, glanhau, triniaethau cyn storio, graddio, rheoli ansawdd, pacio a labelu. Bydd y mathau o weithgareddau paratoi yn dibynnu ar y cnwd cysylltiedig â'r manylebau cynhyrchu.
Mae'r safon hon yn cynnwys cydlynu eich baich gwaith eich hun; mewn rhai enghreifftiau gallai gynnwys cydlynu gwaith timau.
Mae hyn yn berthnasol i unigolion sydd â chyfrifoldeb personol sylweddol yn gwneud y gweithgareddau hyn.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf
- sicrhau bod y dulliau gwaith ar gyfer gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf wedi eu sefydlu a'u cyfathrebu'n glir gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- dewis gweithgareddau addas ar ôl y cynhaeaf yn unol â manylebau cynhyrchu
- nodi a sefydlu'r adnoddau sydd ar gael i wneud y gweithgareddau ar ôl cynhaeaf
- cadarnhau bod dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- sicrhau bod offer yn cael ei ddefnyddio a'i gynnal a'i gadw mewn cyflwr diogel, glân a chywir drwy'r amser
- cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion sefydliadol
- adnabod cnydau wedi eu cynaeafu nad ydynt yn bodloni'r manylebau a gweithredu lle bo angen
- sicrhau bod y cnwd wedi ei gynaeafu yn cael ei drin mewn ffordd sydd yn cynnal ansawdd y cynnyrch ac yn atal niwed
- cadarnhau bod gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf yn cael eu sefydlu a'u gwneud yn unol â'r manylebau
- cadarnhau bod gofynion sicrhau ansawdd yn cael eu bodloni
- nodi pan fydd angen storio'r cnwd cyn ei anfon a sicrhau bod hyn yn cael ei wneud yn unol â'r manylebau cynhyrchu
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad
- gwneud yr holl waith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon, asesu risg a dehongli asesiadau risg wrth sefydlu gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf
- gweithgareddau addas ar ôl y cynhaeaf ar gyfer y cnwd i fodloni manylebau cynhyrchu
- yr adnoddau sy'n ofynnol i sefydlu gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf
- y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer a'r cyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer sefydlu gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf a sut i baratoi, defnyddio a chynnal y rhain yn ddiogel ac yn gywir
- gofynion sicrhau ansawdd mewn perthynas â'r cnwd wedi ei gynaeafu
- sut i adnabod cnydau wedi eu cynaeafu nad ydynt yn bodloni manylebau a'r camau i'w cymryd pan fo angen
- dulliau o sefydlu a gweithredu mesurau i gynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
- dulliau addas o storio cynnyrch cyn ei anfon
- dulliau addas ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff sy'n cael ei greu gan y gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisi sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. nodi a sefydlu argaeledd yr adnoddau canlynol i gwblhau gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf:
- dynol
- ariannol
- materol
- offer
- ymdrin
- graddio
- glanhau
- sychu
- pacio neu labelu
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.
Gweithgareddau ar ôl y cynhaeaf:
- dethol
- graddio
- tocio
- pacio/rhoi mewn cynwysyddion
- labelu
- glanhau
- sychu
- triniaethau cyn storio
- rheoli ansawdd
- eu trosglwyddo ar unwaith i'r cwsmer
- eu storio yn y tymor byr
- eu storio yn yr hirdymor
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.