Sefydlu gweithrediadau cynaeafu

URN: LANH51
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn sefydlu gweithrediadau cynaeafu.  Bydd hyn yn cynnwys sefydlu gweithrediadau cynaeafu a chadarnhau bod gweithgareddau'n cael eu gwneud i fodloni manylebau. Bydd angen lefel sylweddol o wybodaeth o ofynion cynhyrchu, dulliau cynaeafu, cyfyngiadau adnoddau a chyflwr cnydau.

Mae'r safon hon yn cynnwys cydlynu eich baich gwaith eich hun; mewn rhai enghreifftiau gall gynnwys cydlynu gwaith timau.

Gall cynaeafu gael ei wneud â llaw neu yn fecanyddol.  Bydd dulliau cynaeafu yn dibynnu ar y math o gnwd sydd yn gysylltiedig â gofynion y cwsmer neu'r farchnad.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gweithrediadau cynaeafu
  2. nodi dulliau cynaeafu a phrosesau sydd yn cynyddu cynaeafu ac yn bodloni'r manylebau cynhyrchu
  3. sefydlu'r gweithrediadau cynaeafu i fodloni'r manylebau cynhyrchu a chyfyngiadau cynaeafu
  4. cadarnhau bod y dulliau gwaith a'r cynllun ar gyfer cynaeafu wedi eu sefydlu a'u cyfathrebu'n glir gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gweithrediadau cynaeafu
  5. cadarnhau bod y cnwd mewn cyflwr sydd yn barod i'w gynaeafu yn unol â'r manylebau cynhyrchu
  6. os nad yw cyflwr y cnwd yn addas ar gyfer cynaeafu cymryd y camau priodol
  7. nodi a sefydlu argaeledd yr adnoddau sydd eu hangen ar gyfer gweithrediadau cynaeafu
  8. prosesu gwastraff yn ddiogel yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  9. cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion sefydliadol
  10. cadarnhau bod dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE) yn cael eu gwisgo
  11. sicrhau bod offer a chyfarpar yn cael eu defnyddio a'u cynnal a'u cadw'n ddiogel ac yn gywir
  12. cadarnhau bod y cynnyrch wedi ei gynaeafu yn cael ei drin mewn ffordd sydd yn cynnal ansawdd y cynnyrch ac yn lleihau niwed
  13. monitro gweithrediadau cynaeafu a gwneud unrhyw addasiadau angenrheidiol i wella'r broses neu i gynnal ansawdd y cynnyrch
  14. sicrhau bod polisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a gofynion asesu risg perthnasol yn cael eu gweithredu ar draws eich maes cyfrifoldeb
  15. cadarnhau bod cofnodion yn cael eu cwblhau yn unol â'r manylebau

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon, asesu risg a dehongli asesiadau risg wrth sefydlu'r gweithrediadau cynaeafu
  2. cyfnodau datblygiad planhigion
  3. sut i wybod pan fydd cnwd yn bodloni'r manylebau
  4. y camau i'w cymryd pan na fydd y cnwd yn barod i'w gynaeafu eto
  5. dulliau cynaeafu sy'n briodol i'r cnydau a gofynion y cwsmer
  6. pwysigrwydd cadarnhau bod y gweithrediadau cynaeafu'n cael eu cwblhau yn unol â'r manylebau
  7. dulliau o sefydlu a gweithredu mesurau i gynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae hyn yn bwysig
  8. dulliau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff a grëwyd wrth gynaeafu
  9. sut i bennu'r adnoddau sy'n ofynnol i gynnal gweithrediadau cynaeafu
  10. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer cynaeafu a sut i baratoi, defnyddio a chynnal y rhain yn ddiogel ac yn gywir
  11. yr addasiadau i weithrediadau cynaeafu a allai fod yn ofynnol
  12. sut i gynnal ansawdd y cynnyrch wedi ei gynaeafu a lleihau niwed
  13. problemau a allai godi wrth gynaeafu a sut gellir datrys y rhain
  14. camau i'w cymryd os na fydd y cnwd yn bodloni'r manylebau
  15. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  16. y cofnodion i'w cadw a'u harwyddocâd 
  17. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a chodau ymarfer

Cwmpas/ystod

A.       nodi'r adnoddau canlynol wrth sefydlu gweithrediadau cynaeafu:

  1. dynol
  2. ariannol
  3. materol
  4. offer
B.       sicrhau bod y cynlluniau yn cyflawni'r cydbwysedd gorau rhwng gofynion a chyfyngiadau cynhyrchu ar y gweithrediadau cynaeafu yn cynnwys:
  1. amodau amgylcheddol
  2. anawsterau o ran adnoddau
  3. cyflwr y cnwd
  4. materion iechyd a diogelwch

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, gofynion cwsmeriaid, polisïau sefydliadol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANPH11

Galwedigaethau Perthnasol

Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cnydau; cynhaeaf; ffrwythau; llysiau