Cynaeafu cnydau â llaw
URN: LANH50
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Crofftio a Chadw Tyddyn
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar:
30 Maw 2022
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynaeafu cnydau â llaw.
Bydd dulliau cynaeafu’n dibynnu ar y math o gnwd a ddefnyddir, manylebau’r cynnyrch a’r gyrchfan.
Byddwch yn gweithio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau.
Wrth weithio gyda pheiriannau neu gyfarpar dylech fod wedi cael hyfforddiant, ac yn meddu ar yr ardystiad cyfredol lle bo angen, yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Wrth wneud eich gwaith mae’n rhaid i chi ystyried yr effaith y bydd yn ei gael ar yr amgylchedd, a cheisio gwarchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
Mae cynaeafu cnydau trwy ddulliau mecanyddol wedi ei gynnwys yn LANAgC5 Cynaeafu cnydau trwy ddulliau mecanyddol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o beryglon sydd yn gysylltiedig â chynaeafu cnydau â llaw
- gwisgo dillad addas a chyfarpar diogelu personol (PPE)
- cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth gynaeafu cnydau â llaw, yn unol â gweithdrefnau’r sefydliad
- paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio cyfarpar a ddefnyddir ar gyfer cynaeafu cnydau â llaw yn ddiogel ac yn gywir
- defnyddio dulliau addas i gynaeafu cnydau â llaw mewn ffordd sy’n lleihau colled a niwed ac yn cynnal ansawdd y cnwd
- nodi cnydau nad ydynt yn bodloni manylebau cynnyrch ar gyfer cynaeafu a chymryd camau priodol
- ymdrin â’r cnwd sydd wedi ei gynaeafu mewn ffordd sydd yn cynnal ansawdd ac yn lleihau niwed
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir, yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion y sefydliad
- dilyn canllawiau’r diwydiant a’r sefydliad i leihau niwed amgylcheddol
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- cwblhau cofnodion fel sydd yn ofynnol gan y ddeddfwriaeth berthnasol a’r sefydliad
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y peryglon sydd yn gysylltiedig â chynaeafu cnydau â llaw
- y mathau o ddillad a chyfarpar diogelu personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- pwysigrwydd cynnal lefelau addas o hylendid a bioddiogelwch wrth gynaeafu cnydau â llaw, a’r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
- y cyfarpar sydd yn angenrheidiol ar gyfer cynaeafu cnydau â llaw a sut i’w baratoi, ei ddefnyddio a’i gynnal a’i gadw yn ddiogel ac yn gywir
- cyfnodau datblygiad cnwd
- y ffordd y mae dulliau cynaeafu yn amrywio yn unol â’r math o gnwd a’r ffordd y caiff ei ddefnyddio
- pwysigrwydd cynaeafu cnydau â llaw yn unol â manylebau cynnyrch
- sut i adnabod cnydau nad ydynt yn bodloni manylebau’r cynnyrch ar gyfer cynaeafu a’r camau y dylid eu cymryd
- y dulliau o gynnal ansawdd y cnwd wrth gynaeafu
- y problemau a allai godi wrth gynaeafu a’r camau i’w cymryd
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a’r ffordd y dylid gwneud hyn
- y dulliau ar gyfer ailgylchu neu waredu gwastraff sydd wedi ei greu gan y broses gynaeafu
- pwysigrwydd dilyn yr arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- y camau y gellir eu cymryd i warchod a gwella cynefinoedd a bioamrywiaeth ac ymateb i effeithiau newid hinsawdd a’u lleddfu
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch berthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
Cwmpas/ystod
A. Ymdrin â phedwar o’r problemau canlynol wrth gynaeafu cnydau â llaw:
1. mynediad
2. cyfarpar
3. staffio
4. tywydd eithafol
5. cyflwr y pridd
6. argaeledd ar ôl cynaeafu
7. argaeledd storio
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Gallai cnydau gynnwys:
• grawnfwydydd/grawn
• cnydau gwreiddiau
• corbys
• hopys
• llysiau
• perlysiau
• blodau
• bylbiau
• llwyni
• coed
• ffrwythau
Cyfarwyddiadau a manylebau:
• darluniau/cynlluniau
• amserlenni
• datganiadau dull
• Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP)
• canllawiau cynhyrchwyr
• gofynion cwsmeriaid
• gofynion sicrhau ansawdd
• gofynion cnydau
• cyfarwyddiadau llafar
Dolenni I NOS Eraill
Cysylltiadau Allanol
Fersiwn rhif
Dyddiad Adolygu Dangosol
30 Maw 2027
Dilysrwydd
Ar hyn o bryd
Statws
Gwreiddiol
Sefydliad Cychwynnol
Lantra
URN gwreiddiol
LANH50
Galwedigaethau Perthnasol
Gweithiwr Planhigfa, Gweithiwr Cynhyrchu Ffrwythau a Llysiau, Tyddynnwr, Crofftwr
Cod SOC
5111
Geiriau Allweddol
cynaeafu; cnwd; cae; planhigion; ffrwythau; llysiau; llaw