Paratoi a sefydlu deunydd lluosogi

URN: LANH5
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

​Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gysylltiedig â pharatoi a sefydlu deunydd lluosogi gan ddefnyddio dulliau llystyfiant.

Mae'n cynnwys paratoi deunydd lluosogi, sefydlu'r deunydd lluosogi mewn amgylchedd tyfu a darparu ôl-ofal i gynnal a hybu datblygiad planhigion.

Byddwch yn gweithio yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. bod yn ymwybodol o beryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni
  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. gwneud yr holl waith yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau
  4. paratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r offer gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
  5. defnyddio'r cyfrwng tyfu gofynnol yn unol â'r manylebau
  6. trin planhigion a deunydd lluosogi mewn ffordd sy'n lleihau niwed a gwastraff ac yn cynyddu twf
  7. paratoi a thrin deunydd lluosogi yn unol â'r manylebau
  8. gosod deunydd lluosogi yn y cyfrwng tyfu yn unol â'r manylebau
  9. sefydlu deunydd lluosogi mewn amgylchedd tyfu addas yn unol â'r manylebau
  10. labelu deunydd lluosogi wedi eu sefydlu yn unol â'r manylebau
  11. darparu ôl-ofal i ddeunydd lluosogi wedi ei sefydlu er mwyn cynnal a hybu datblygiad planhigion yn unol â'r manylebau
  12. cynnal hylendid a bioddiogelwch tra'n paratoi a sefydlu deunydd lluosogi yn unol â'r cyfarwyddiadau
  13. gwaredu neu ailgylchu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
  14. cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan y sefydliad
  15. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y peryglon sydd yn gysylltiedig â pharatoi a sefydlu deunydd lluosogi
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. pwysigrwydd cwblhau'r gweithgaredd lluosogi yn unol â'r manylebau
  4. sut i baratoi, defnyddio a chynnal yr offer gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
  5. sut i baratoi a thrin deunydd lluosogi yn unol â'r manylebau
  6. y dulliau lluosogi gwahanol yn cynnwys trawsblannu, blaguro, haenu, toriadau a rhannu
  7. sut i sefydlu deunydd lluosogi yn y cyfryngau tyfu yn unol â'r manylebau
  8. y ffyrdd y dylid trin planhigion a deunydd lluosogi
  9. y mathau o amgylcheddau tyfu sydd yn addas ar gyfer lluosogi
  10. dulliau ôl-ofal i gynnal a hybu datblygiad planhigion ar ôl lluosogi
  11. y defnydd o driniaethau hormonau i annog gwreiddio
  12. cyfnodau datblygiad planhigion
  13. y gofynion ar gyfer labelu deunydd lluosogi
  14. pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth baratoi a sefydlu deunydd lluosogi a'r dulliau ar gyfer cyflawni hyn
  15. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  16. y cofnodion y mae angen eu cwblhau mewn perthynas â pharatoi a sefydlu deunydd lluosogi
  17. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd 
  18. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Cwmpas/ystod


A.       cynnal a chadw’r offer canlynol:
1.    offer torri
2.    cynwysyddion ar gyfer storio a chludo deunydd

B.       paratoi deunydd lluosogi yn y ffyrdd canlynol:
1.    brigdorri toriadau
2.    brigdorri rhaniadau
3.    paratoi stociau
4.    brigdorri impynnau

C.       defnyddio’r dulliau lluosogi canlynol:
1.    toriadau
2.    blaguro
3.    trawsblannu
4.    micro-luosogi
5.    rhannu

D.       hybu datblygiad planhigion gan ddefnyddio’r canlynol:
1.    dyfrio
2.    rheoli tymheredd
3.    rheoli lleithder
4.    dileu deunydd afiach


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

**Ôl-ofal:**
  • darparu dŵr

  • darparu maethynnau

  • rheoli tymheredd

  • rheoli lleithder

  • tynnu deunydd afiach

  • hyfforddi neu frigdorri i hybu ffurf twf priodol

  • is-driniaeth

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.

Deunydd lluosogi:

  • eginblanhigion

  • toriadau â gwreiddiau

  • toriadau heb wreiddiau

  • rhaniadau

**Dulliau paratoi:**
  • brigdorri toriadau

  • brigdorri rhaniadau

  • paratoi stociau

  • brigdorri impynnau

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH5

Galwedigaethau Perthnasol

Garddwr, Gweithiwr Planhigfa, Lluosogwr Planhigion

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

planhigyn; lluosogi; toriadau