Dylunio ardaloedd tirlun a nodi deunyddiau a chydrannau

URN: LANH49
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth,Cadwraeth Amgylcheddol
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn dylunio ardaloedd tirlun.

Mae'r safon hon yn cynnwys y gweithrediadau hynny sydd yn angenrheidiol i ddylunio ardaloedd tirlun allanol neu fewnol. Mae hefyd yn cynnwys rhoi amcangyfrifon a nodi deunyddiau a chydrannau sydd yn addas ar gyfer y dyluniad.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylched naturiol a gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r ardaloedd tirlun a'r gwaith arfaethedig
  2. egluro gofynion dylunio tirlun y cleient
  3. trafod cynigion sydd yn ystyried gwybodaeth berthnasol am arolygu a dadansoddi
  4. creu cydrannau a deunydd dylunio sy'n briodol i'r ardaloedd tirlun, y briff, y diben a'r defnydd disgwyliedig
  5. cadarnhau bod y dyluniad yn cyd-fynd ag egwyddorion dylunio derbyniol
  6. argymell planhigion a nodi deunyddiau sydd yn addas i'r dyluniad ac o fewn y gyllideb
  7. cynrychioli'r dyluniad yn gywir ac yn glir i raddfa
  8. cytuno ar y dyluniad gyda'r cleient
  9. cadarnhau bod y manylebau wedi eu sefydlu a'u cyfathrebu'n glir
  10. cynnal perthynas waith gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  11. cadarnhau bod y cofnodion wedi eu cwblhau fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad
  12. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​pwysigrwydd asesu risg ardaloedd tirlun a'r gwaith arfaethedig
  2. egwyddorion a damcaniaeth dylunio tirlun
  3. goblygiadau cynllun cyffredinol y safle i'r dyluniad terfynol, cyfleustod, cynnal a chadw a diogelwch o ran defnydd
  4. y prif ddeunyddiau a'r cydrannau a nodir mewn cynnig tirlun wedi ei gwblhau
  5. pam dylid cynnwys yr holl wybodaeth berthnasol am arolygu a dadansoddi yn nyluniad y tirlun
  6. sut i gadarnhau bod unrhyw wybodaeth arolygu a dadansoddi yn gywir yn arbennig os ydynt wedi eu paratoi gan sefydliadau neu gydweithwyr eraill
  7. y dulliau o ymchwilio a gwerthuso diben, swyddogaeth a'r defnydd o ardal y tirlun
  8. gofynion cynnal penodol planhigion gwahanol yn ardal y tirlun
  9. gofynion y cleient a'r angen i gyfathrebu'n glir gyda'r cleient a'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  10. pam y mae egwyddorion dylunio derbyniol fel undod, graddfa, cyfran, cydbwysedd, cymesuredd, gofod, ffurf, gwead, lliw, golau, cysgod a chytgord yn bwysig a sut i bennu a yw'r cynlluniau'n cyd-fynd â'r rhain
  11. pam y mae'n bwysig cynnig opsiynau i gleientiaid eu hystyried a sut dylid cyflwyno'r opsiynau hyn
  12.  sut i gynrychioli dyluniad tirlun i raddfa gyda'r cywirdeb gofynnol, yn glir ac yn llawn
  13. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  14. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol

Cwmpas/ystod

A.       defnyddio'r mathau canlynol o wybodaeth arolygu a dadansoddi yn nyluniad y tirlun:

  1. wedi ei baratoi gennych chi
  2. wedi ei baratoi gan eraill
B.       gosod a nodi'r prif gydrannau canlynol wrth ddylunio ardaloedd tirlun:
  1. mathau o blannu
  2. uchderau plannu

  3. lefelau plannu

  4. mathau o arwynebedd a strwythur
  5. canolbwyntiau
  6. llwybrau mynediad
  7. nodweddion gweithredol 


C.      nodi'r mathau canlynol o blanhigion yn nyluniad y tirlun:

  1. llwyni
  2. coed

  3. cae

  4. planhigion llysieuol a phlanhigion tymhorol
D.      nodi'r deunyddiau canlynol wrth ddylunio ardaloedd tirlun:
  1. cyfryngau tyfu
  2. cynwysyddion
  3. cynhalwyr
  4. deunyddiau tirlun caled
  5. adeiladau
  6. dodrefn
  7. taenfeydd a gwrtaith ar yr wyneb

Cwmpas Perfformiad

Planhigion a deunyddiau: coed, llwyni, cae, llysieuol a thymhorol, cyfryngau tyfu, cynwysyddion, deunyddiau adeiladu.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), a chanllawiau cynhyrchwyr, a allai gynnwys mathau o blannu, uchderau plannu, lefelau plannu, mathau o arwynebeddau a strwythur, canolbwyntiau, llwybrau mynediad a nodweddion gweithredol.


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANCU85

Galwedigaethau Perthnasol

Tirluniwr, Pensaer Tirlun

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

parc; safle; gardd; cynllun; braslun; darlun; adeiladu; amlinelliadau