Gosod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon

URN: LANH48
Sectorau Busnes (Cyfresi): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gosod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon a ddefnyddir yn y diwydiannau tirlunio caled.

Mae’n addas ar gyfer gweithredwyr sydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig ac mae’n canolbwyntio ar y sgiliau sy’n ofynnol i ddeall y strwythur ac ymgymryd â gosod atalfeydd ymylon tra’n gweithio yn unol â manylebau.

Bydd disgwyl i chi ddeall effaith y gwaith gosod ar yr amgylchedd uniongyrchol, ac effaith yr amgylchedd ar y strwythur.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar ar gyfer gosod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon yn ddiogel ac yn gywir
  3. gosod allan ar gyfer llinell a lefel
  4. gosod a pharatoi haen addas ar gyfer gosod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon
  5. gosod yr unedau i'r llinell a'r lefel gywir
  6. torri unedau i mewn i'r manylebau gofynnol
  7. cynnal lled cymal cywir
  8. gwirio'r gwaith sydd wedi ei gwblhau o osod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon o ran cydymffurfio ac unioni unrhyw broblemau
  9. unedau hanshys
  10. lleihau niwed, gwastraff diangen, effaith annymunol ar yr amgylchedd a llygredd wrth osod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon
  11. cadw'r safle mewn cyflwr glân a thaclus
  12. glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar ar ôl gosod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon yn brydlon ac yn ddiogel
  13. diogelu elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon yn gywir rhag y tywydd a defnydd nes eu bod mewn cyflwr addas
  14. gadael y safle yn ddiogel, yn daclus ac yn addas ar gyfer y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer
  15. cynnal perthynas waith gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â gosod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon, neu wedi eu heffeithio ganddynt
  16. parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  17. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y tywydd sy'n briodol ar gyfer gosod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon
  2. sut i ddehongli manylebau gosod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon 
  3. sut i fesur er mwyn sicrhau bod y gwaith o fewn goddefiannau 
  4. sut mae disgynfeydd, llinellau a lefelau'n cael eu pennu a'u gosod allan
  5. sut i ddewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer gosod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE)
  6. sut i gynnal a chadw, glanhau a storio'r offer a'r cyfarpar gofynnol yn gywir 
  7. yr ystod o unedau bach systemau palmant  ac unedau addas arall sydd ar gael a'u cymwysiadau addas
  8. pwysigrwydd atalfeydd ymylon cadarn
  9. pwysigrwydd defnyddio'r math cywir o ddeunydd haen
  10. sut mae'r haen yn cael ei osod a'i baratoi, a sut caiff ei ffurfio i ddilyn copaon, pantiau a thrawsnewidiadau
  11. manteision ac anfanteision defnyddio haenau rhenciau a ffrydiau wedi eu gosod ymlaen llaw 
  12. sut i gyfrifo faint o unedau sydd eu hangen
  13. sut dylai unedau gael eu storio ar y safle, sut cânt eu dosbarth i'r man gosod, a sut cânt eu gosod ar gyfer y gweithredwr gosod
  14. manteision ac anfanteision gosodiadau cymalau bôn a chymalau priddgalch 
  15. sut caiff unedau eu hatgyfnerthu i'r llinell a'r lefel ofynnol
  16. y ffordd y caiff atalfeydd ymylon eu gwirio am gywirdeb alinio ar hyd llinellau syth a chromliniau
  17. y defnydd o offer torri yn cynnwys gilotîn, llif ac offer tocio
  18. pwysigrwydd atal llwch ac offer amddiffynnol anadlol (RPE)
  19. tynnu ac adnewyddu unedau diffygiol wrth ddefnyddio cylchlif
  20. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  21. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  22. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol

Cwmpas/ystod

A.       dewis a defnyddio’r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth osod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon: 

  1. cylchlif

  2. gordd a/neu forthwyl pren

B.       gwneud y tasgau canlynol wrth osod elfennau bach palmentydd ac atalfeydd ymylon:

  1. gosod allan ar gyfer llinell a lefel

  2. gosod ffrwd palmant addas

  3. gosod unedau ar haen priddgalch ar ffrwd sydd eisoes yn bodoli

  4. gosod unedau ar linell syth (rhenc)

  5. gosod unedau mewn cylchran wirioneddol

  6. gosod unedau mewn cromlin rydd

  7. adeiladu croesfan isel

  8. gosod trawsnewidiadau rhwng mathau gwahanol o unedau

  9. gosod unedau mewn cilfachau ongl sgwâr gan ddefnyddio unedau a chwadrantau ongl fewnol/allanol

  10. codi ac atgyweirio

C.      gweithio gyda’r mathau canlynol o uned:

  1. unedau bach ymyl (<250mm o hyd)

  2. unedau bach palmant (<250mm o hyd e.e.: palmant bloc)

  3. sets/ciwbiau/cerrig crynion (<250mm o hyd)


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Tasgau gosod:

  • gosod allan ar gyfer llinell a lefel

  • gosod ffrwd ymyl addas

  • gosod unedau ar haen priddgalch ar ffrwd sydd eisoes yn bodoli

  • gosod unedau mewn llinell syth (rhenc)

  • gosod unedau mewn cylchran wirioneddol

  • gosod unedau mewn cromlin rydd

  • adeiladu croesfan isel

  • gosod trawsnewidiadau rhwng dau fath gwahanol o uned

  • gosod unedau mewn cilfachau ongl sgwâr gan ddefnyddio unedau a chwadrantau ongl fewnol/allanol

  • codi ac atgyweirio

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.

PPE: Offer amddiffynnol personol.
RPE: Offer amddiffynnol anadlol.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.

Offer a chyfarpar:

  • cylchlif

  • gordd a/neu forthwyl pren

  • PPE a RPE priodol

Unedau:

  •  unedau ymyl bach (<250mm o hyd)

  • unedau palmant bach (<250mm o hyd e.e.: palmant bloc)

  • sets/ciwbiau/cerrig crynion (<250mm o hyd)


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANL31

Galwedigaethau Perthnasol

Tirluniwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

ymylon; atalfeydd ymylon