Gosod palmentydd, sianeli ac ymylon
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gosod palmentydd, sianeli ac ymylon a ddefnyddir yn y diwydiannau tirlunio caled.
Mae’n addas ar gyfer gweithredwyr sydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig ac yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen i ddeall y strwythur a gosod ataliadau ymylon tra’n gweithio yn unol â manylebau.
Bydd disgwyl i chi ddeall effaith y gwaith gosod ar yr amgylchedd uniongyrchol, ac effaith yr amgylchedd ar y strwythur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu’r risg sydd yn gysylltiedig â’r safle a’r gwaith arfaethedig
dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar ar gyfer gosod palmentydd, sianeli ac ymylon yn ddiogel ac yn gywir
- gwisgo dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE)
- gosod allan ar gyfer llinell a lefel
- gosod a pharatoi gwely addas ar gyfer gosod palmentydd, sianeli ac ymylon
- gosod palmentydd, sianeli ac ymylon i’r llinell a’r lefel gywir
- torri i mewn i’r manylebau gofynnol ar gyfer gosod palmentydd, sianeli ac ymylon
- cynnal lled cymalau cywir
- gwirio gwaith sydd wedi ei gwblhau yn gosod palmentydd, sianeli ac ymylon er mwyn cydymffurfio â manylebau ac unioni unrhyw broblemau
- hansio ataliadau ymylon
- lleihau niwed, gwastraff diangen, effaith annymunol ar yr amgylchedd a llygredd wrth osod palmentydd, sianeli ac ymylon
- cadw’r safle mewn cyflwr glân a thaclus wrth osod palmentydd, sianeli ac ymylon
- glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar ar ôl gosod palmentydd, sianeli ac ymylon yn brydlon ac yn ddiogel
- amddiffyn ardaloedd gwaith yn gywir rhag y tywydd a defnydd nes eu bod mewn cyflwr addas
- gadael y safle yn ddiogel, yn daclus ac yn addas ar gyfer y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer
- cynnal perthynas waith gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith yn unol â’r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y tywydd sy'n briodol ar gyfer gosod palmentydd, sianeli ac ymylon
- sut i gynnal asesiad risg ar gyfer gosod palmentydd, sianeli ac ymylon a phenderfynu ar ddulliau gwaith diogel
- sut i ddehongli manylebau wrth osod, sianeli, palmentydd ac ymylon
- sut i fesur i sicrhau bod y gwaith o fewn y goddefiannau
- y ffordd y mae disgynfeydd, llinellau a lefelau'n cael eu pennu a'u gosod allan
- sut i ddewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer gosod palmentydd, sianeli ac ymylon, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE)
- pwysigrwydd atal llwch ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) wrth ddefnyddio cylchlif
- sut i gynnal, glanhau a storio'r offer a'r cyfarpar angenrheidiol yn brydlon ac yn ddiogel
- yr ystod o gyfyngiadau ymyl sydd ar gael a'u cymwysiadau addas
- pwysigrwydd ataliadau ymyl cadarn
- pwysigrwydd defnyddio'r math cywir o ddeunydd gwely
- y ffordd y mae'r gwely'n cael ei osod a'i baratoi, a sut mae'n cael ei lunio i ddilyn copaon, pantiau a thrawsnewidiadau
- manteision ac anfanteision defnyddio haenau rhenciau a ffrydiau wedi eu gosod ymlaen llaw
- sut i gyfrifo ansawdd yr unedau sy'n ofynnol
- sut dylid storio unedau ar y safle, sut cânt eu gosod ar yr arwyneb gosod a sut cânt eu lleoli ar gyfer y gweithredwr gosod
- sut caiff unedau eu symud i mewn i'r safle gan ddefnyddio cymhorthion codi mecanyddol a/neu wactod
- sut caiff unedau eu hatgyfnerthu i'r llinell a'r lefel ofynnol
- sut caiff ataliadau ymyl eu gwirio am gywirdeb o ran alinio ar hyd llinellau syth a chromlinau
- sut y cyflawnir y gwaith o dorri, gan ddilyn egwyddorion isafswm maint uned
defnydd o offer torri yn cynnwys gilotinau, llifau ac offer tocio
pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- pwysigrwydd defnyddio'r dull uniadu cywir a'i rôl yn perfformio'r atalfa ymyl wedi ei gwblhau
- tynnu ac adnewyddu unedau diffygiol
- peryglon gwasanaethau tanddaearol a sut i roi cyfrif am y rhain wrth weithio
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. dewis a defnyddio’r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth osod palmentydd, sianeli ac ymylon:
cymorth codi mecanyddol priodol
cylchlif
- gordd a/neu forthwyl pren
B. cynnal y tasgau gosod canlynol:
gosod ffrwd palmant addas
gosod unedau ar haen briddgalch ar ffrwd sydd eisoes yn bodoli
- gosod unedau ar linell syth (rhenc)
- gosod unedau ar gylchran wirioneddol
- gosod unedau ar gromlin rydd
- gosod croesfan isel
- gosod trawsnewidiadau rhwng dau fath gwahanol o uned
- gosod atalfa ymyl i gilfach ongl sgwâr gan ddefnyddio cwadrantau ac unedau ongl mewnol/allanol
- gosod sianeli i linell palmant presennol
- codi ac atgyweirio
palmentydd ffordd concrid
palmentydd ffordd cerrig
- sianeli pantiog/rhychiog concrid
- sianeli pantiog/rhychiog cerrig
- sianeli gwastad concrid
- sianeli gwastad cerrig
- ymylon concrid
- ymylon cerrig
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Tasgau gosod:
gosod ffrwd palmant addas
gosod unedau ar wely priddgalch ar ffrwd sydd eisoes yn bodoli
- gosod unedau ar linell syth (rhenc)
- gosod unedau ar gylchran wirioneddol
- gosod unedau ar gylchran rydd
- gosod croesfan isel
- gosod trawsnewid rhwng dau fath gwahanol o uned
- gosod ataliad ymyl i gilfach ongl sgwâr gan ddefnyddio cwadrannau ac unedau ongl mewnol/allanol
- gosod sianeli i linell palmant presennol
- codi ac atgyweirio
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.
Deunyddiau:
palmentydd ffordd concrid
palmentydd ffordd cerrig
sianeli pantiog/rhychiog concrid
sianeli pantiog/rhychiog cerrig
sianeli gwastad concrid
sianeli gwastad cerrig
ymylon concrid
ymylon cerrig
PPE: Offer Amddiffynnol Personol.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.
Offer a chyfarpar:
cymhorthion codi mecanyddol priodol
cylchlif
gordd a/neu forthwyl pren
PPE ac RPE priodol