Gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion caled
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion caled.
Mae'r safon hon yn un o chwech ar gyfer y rheiny sydd yn gosod y mathau amrywiol o arwynebeddau llawr caled a ddefnyddir yn y diwydiannau tirlunio.
Mae'r safon hon yn targedu gweithredwyr sydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig ac yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd yn angenrheidiol i ddeall y strwythur ac i osod arwynebeddau caled tra'n gweithio yn unol â manylebau.
Bydd disgwyl i chi ddeall effaith gosod ar yr amgylchedd uniongyrchol, ac effaith yr amgylchedd ar y strwythur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar ar gyfer gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion caled yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) yn ddiogel ac yn gywir
- cadw niwed, gwastraff diangen, effaith annymunol ar yr amgylchedd a llygredd mor isel â phosibl tra'n gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion caled
- gosod allan ar gyfer llinell a lefel
- gosod sets, ciwbiau a/neu gerrig crynion mewn patrwm addas
- sicrhau bod arwynebeddau sets/cerrig crynion wedi eu gosod yn cyd-fynd
- torri i mewn i'r safon ofynnol ar ymylon ac o amgylch rhwystrau fel mynediad at orchuddion
- cywasgu setiau/cerrig crynion
- sicrhau bod arwynebeddau wedi eu cwblhau yn cydymffurfio ac unioni unrhyw broblemau
- llenwi cymalau a gorffen, gan sicrhau arwynebedd glân
- cadw'r safle mewn cyflwr glân a thaclus
- glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar ar ôl gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion caled, yn brydlon ac yn ddiogel
- diogelu ardaloedd gwaith yn gywir rhag y tywydd a defnydd nes eu bod mewn cyflwr addas
- gadael y safle yn ddiogel, yn daclus ac yn addas ar gyfer y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer
- cynnal cysylltiadau gwaith gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gosod arwynebeddau bloc caled, neu wedi eu heffeithio ganddynt
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y tywydd sy'n briodol ar gyfer gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion caled
- sut i gynnal asesiad risg ar gyfer gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion caled a phenderfynu ar ddulliau gwaith diogel
- sut i ddehongli manylebau gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion caled
- sut i fesur er mwyn sicrhau bod y gwaith o fewn goddefiannau
- y ffordd y caiff disgynfeydd, llinellau a lefelau eu pennu a'u nodi
- sut i ddewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer y dasg, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) yn ddiogel ac yn gywir
- sut i ddefnyddio, cynnal a chadw, glanhau a storio'r offer a'r cyfarpar angenrheidiol, yn cynnwys holltwyr, llifiau ac offer tocio, yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd atal llwch ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) wrth ddefnyddio cylchli
- pwysigrwydd atalfeydd ymylon
- sut i gyfrifo faint o ddeunyddiau palmant sydd yn angenrheidiol
- sut dylid storio deunyddiau palmant ar y safle, sut cânt eu dosbarthu i'r man gosod a sut cânt eu gosod ar gyfer y gweithredwr gosod
- yr ystod o sets, ciwbiau a cherrig crynion sydd ar gael a'u cymwysiadau addas
- pwysigrwydd cymalau symudiad
- pwysigrwydd atalfeydd canolradd
- yr ystod o ddeunyddiau gosod cwrs addas
- sut i bennu'r math mwyaf addas o baratoi ar gyfer gosod cwrs (sgrîd, haen unigol, neu gyfuniad o'r ddau) ar gyfer unrhyw brosiect gosod sets
- y ffordd y caiff cwrs gosod caled ei baratoi, bywyd gwaith deunydd yr haen a phwysigrwydd peidio â pharatoi ardal rhy fawr cyn yr wyneb gosod
- yr ystod o batrymau gosod a ddefnyddir yn gyffredin a sut cânt eu sefydlu
- y ffordd y mae patrymau gosod yn effeithio ar gryfder a pherfformiad cyffredinol
- pwysigrwydd cymysgu a dewis unedau ar hap o dri phecyn neu fwy cyn gosod
- y ffordd y mae arwynebeddau'n cael eu gwirio'n barhaus o ran cydymffurfio â llinell, lefel, lled cymal a chymhwysedd uned yn ystod y broses osod
- sut mae torri i mewn yn cael ei gyflawni gan ddilyn egwyddorion isafswm maint uned a thechnegau torri mewnol
- y defnydd o rimynnau concrid o amgylch rhwystrau fel gorchuddion mynediad
- pwysigrwydd defnyddio deunydd cymalu cywir a'i rôl ym mherfformiad y palmant wedi ei gwblhau
- technegau a ddefnyddir ar gyfer growtio sych a gwlyb
- technegau a ddefnyddir ar gyfer cymalu polymerig
- technegau a ddefnyddir i sicrhau arwynebedd palmant glân, sydd yn rhydd rhag staen ar ôl cwblhau
- maint, mas a'r math o offer cywasgu sydd yn addas ar gyfer y math o balmant sydd yn cael ei osod
- sut mae offer cywasgu'n cael ei ddefnyddio a'r defnydd o unrhyw atodiadau angenrheidiol
- tynnu ac adnewyddu sets a cherrig crynion diffygiol
- pwysigrwydd gwiriadau cydymffurfio terfynol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A dewis a defnyddio'r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth osod arwynebeddau sets/cerrig crynion caled:
- offer llaw
- cywasgwyr platiau sy'n dirgrynnu
- rhanwyr gilotîn
- cylchlifau
- gordd a/neu forthwyl pren
B. gwneud y tasgau adeiladu canlynol:
- gosod mewn cyrsiau
- gosod mewn cyplau
- gosod mewn bwâu cylchrannol
- gosod mewn ffaniau
- torri i mewn
- cymalau slwtsh
- cymalau polymerig
- cywasgu
- codi ac atgyweirio
C. defnyddio'r mathau canlynol o ddeunyddiau:
- ciwbiau wedi eu llifio
- ciwbiau wedi eu tocio
- sets wedi eu llifio
- sets wedi eu tocio/gweadu
- cerrig crynion
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.
Deunyddiau:
- ciwbiau wedi eu llifio
- ciwbiau wedi eu tocio
- sets wedi eu llifio
- sets wedi eu tocio/gweadu
PPE: Offer Amddiffynnol Personol.
RPE: Offer Amddiffynnol Anadlol.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol
(SOP), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.
Tasgau:
- gosod mewn cyrsiau
- gosod mewn cyplau
- gosod mewn bwâu cylchrannol
- gosod mewn ffaniau
- torri slwtsh i mewn
- cymalu polymerig
- cywasgu cymalau
- codi ac atgyweirio
Offer a chyfarpar:
- offer llaw yn cynnwys tryweli llyfnu a thryweli, morthwylion brics/ffustio, morthwyl palmant/gordd/morthwyl pren, bar alinio, llinellau llinyn, pinnau llinyn, cynion oer, pwnshis, cynion bras a chynion naddu
- cywasgwyr platiau sy'n dirgrynu
- holltwyr gilotîn
- cylchlifau
- gordd a/neu forthwyl pren
- PPE ac RPE priodol