Gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gosod arwynebeddau sets/cerrig.
Mae'r safon hon yn un o gyfres o chwech ar gyfer y rheiny sydd yn gosod y mathau amrywiol o arwynebeddau llawr caled a ddefnyddir mewn diwydiannau tirlunio.
Mae'r safon hon yn targedu gweithredwyr sydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig ac yn canolbwyntio ar y sgiliau sy'n ofynnol i ddeall y strwythur a gwneud y gwaith o osod arwynebeddau caled tra'n gweithio yn unol â manylebau.
Bydd disgwyl i chi ddeall effaith y gwaith gosod ar yr amgylchedd uniongyrchol, ac effaith yr amgylchedd ar y strwythur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar ar gyfer gosod sets/cerrig crynion hyblyg yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) yn ddiogel ac yn gywir
- cadw niwed, gwastraff diangen, effaith annymunol ar yr amgylchedd a llygredd mor isel â phosibl tra'n gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion hyblyg
- gosod allan ar gyfer llinell a lefel
- gosod sets, ciwbiau a/neu gerrig crynion i batrwm addas
- gwirio bod arwynebeddau sets/cerrig crynion sydd wedi eu gosod yn cyd-fynd
- torri sets/cerrig crynion i mewn i'r safon ofynnol ar yr ymylon ac o amgylch rhwystrau fel gorchuddion mynediad
- cywasgu sets/cerrig crynion
- sicrhau bod gosodiad arwynebeddau sets/cerrig crynion wedi ei gwblhau yn cydymffurfio ac unioni unrhyw broblemau
- llenwi cymalau ac ail-gywasgu
- cadw'r safle mewn cyflwr glân a thaclus tra'n gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion hyblyg
- glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar ar ôl gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion hyblyg, yn brydlon ac yn ddiogel
- diogelu arwynebeddau sets/cerrig crynion hyblyg yn gywir rhag y tywydd a defnydd nes eu bod mewn cyflwr addas
- gadael y safle yn ddiogel, yn daclus ac yn addas ar gyfer y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer
- cynnal perthynas waith gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gosod arwynebeddau bloc hyblyg, neu wedi eu heffeithio ganddo
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
y tywydd sy'n briodol ar gyfer gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion hyblyg
sut i gynnal asesiad risg ar gyfer gosod arwynebeddau sets/cerrig crynion a phenderfynu ar amodau gwaith diogel
sut i ddehongli manylebau gosod arwynebedd sets/cerrig crynion hyblyg
sut i fesur er mwyn sicrhau bod y gwaith o fewn y goddefiannau
y ffordd y mae disgynfeydd, llinellau a lefelau'n cael eu pennu a'u nodi
sut i ddewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer y dasg, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE)
sut i ddefnyddio, cynnal a chadw, glanhau a storio'r offer a'r cyfarpar gofynnol, yn cynnwys holltwyr, llifau ac offer tocio, yn ddiogel ac yn gywir
- pwysigrwydd atal llwch ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) wrth ddefnyddio cylchlif
- pwysigrwydd atalfeydd ymyl
sut i gyfrifo faint o ddeunyddiau palmant sydd eu hangen
sut mae arwynebeddau sets/cerrig crynion hyblyg yn cael eu dosbarthu i'r safle a sut cânt eu gosod ar gyfer y gweithredwr gosod
- yr ystod o sets, ciwbiau a cherrig crynion sydd ar gael a'u cymwysiadau addas
- yr ystod o ddeunyddiau addas ar gyfer y cwrs gosod
- sut i bennu'r math mwyaf addas o baratoi cwrs gosod (sgrid, haen unigol neu gyfuniad o'r ddau) ar gyfer unrhyw brosiect gosod sets/cerrig crynion
- yr ystod o batrymau a ddefnyddir yn gyffredin a sut cânt eu sefydlu
- sut mae patrymau gosod yn effeithio ar gryfder a pherfformiad cyffredinol yr arwynebedd
- pwysigrwydd cymysgu a dewis sets a cherrig crynion ar hap o dri phecyn neu fwy cyn eu gosod
- y ffordd y mae arwynebeddau yn cael eu gwirio'n barhaus o ran cydymffurfio â llinell, lefel, lled cymal a chymhwysedd sets/cerrig crynion yn ystod y broses o'u gosod
- sut caiff torri i mewn ei gyflawni gan ddilyn egwyddorion isafswm maint sets/cerrig crynion a thechnegau torri mewnol
- y defnydd o rimynnau concrid o amgylch rhwystrau palmant fel gorchuddion mynediad
- pwysigrwydd defnyddio'r deunydd cymalau cywir a'i rôl ym mherfformiad yr arwynebedd wedi ei gwblhau
- technegau a ddefnyddir ar gyfer growtio sych a gwlyb
- technegau a ddefnyddir ar gyfer cymalau polymerig
- maint, mas a'r math o offer cywasgu sydd yn addas ar gyfer y math o arwynebedd sy'n cael ei osod
- sut caiff offer cywasgu ei ddefnyddio, a'r defnydd o unrhyw atodiadau gofynnol
- tynnu ac adnewyddu sets a cherrig crynion diffygiol
- y ffordd y caiff arwynebeddau eu gwirio'n barhaus o ran cydymffurfio â llinell, lefel, lled cymal a chymhwysedd deunydd yn ystod y broses osod
- pwysigrwydd gwiriadau cydymffurfio terfynol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
offer llaw
cywasgwyr platiau sy’n dirgrynu
holltwyr gilotîn
cylchlifau
gordd a/neu forthwyl pren
gosod mewn cyrsiau
gosod mewn cyplau
gosod mewn bwâu cylchrannol
gosod mewn ffaniau
torri i mewn
cymalau deunydd rhydd
cymalau polymerig
cywasgu
codi ac atgyweirio
ciwbiau wedi eu llifio
ciwbiau wedi eu tocio
sets wedi eu llifio
sets wedi eu tocio/gweadu
cerrig crynion
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
- gosod mewn cyrsiau
- gosod mewn cyplau
- gosod mewn bwâu cylchrannol
- gosod mewn ffaniau
- torri i mewn
- cymalau deunydd rhydd
- cymalau polymerig
- cywasgu
- codi ac atgyweirio
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.
Deunyddiau:
- ciwbiau wedi eu llifio
- ciwbiau wedi eu tocio
- sets wedi eu llifio
- sets wedi eu tocio/gweadu
- cerrig crynion
offer llaw yn cynnwys tryweli llyfnu a thryweli, morthwylion brics/ffustio, morthwyl gosod palmant/ gordd/morthwyl pren, bar alinio, llinellau llinyn, pinnau llinyn, cynion oer, pynshiau, cynion bras a chynion naddu
cywasgwyr platiau sy’n dirgrynnu
holltwyr gilotîn
cylchlifau
PPE a RPE priodol