Gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau caled
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau caled.
Mae’r safon hon yn un o gyfres o chwech wedi eu hanelu at y rheiny sydd yn gosod y mathau amrywiol o arwynebeddau llawr caled a ddefnyddir yn y diwydiannau tirlunio.
Mae’r safon hon yn targedu gweithredwyr sydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig ac mae’n canolbwyntio ar y sgiliau sy’n ofynnol i ddeall y strwythur a gosod arwynebeddau caled tra’n gweithio yn unol â manylebau.
Bydd disgwyl i chi ddeall effaith gosod ar yr amgylchedd uniongyrchol, ac effaith yr amgylchedd ar y strwythur.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar ar gyfer gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau caled, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) yn ddiogel ac yn gywir
- cadw niwed, gwastraff diangen, effaith annymunol ar yr amgylchedd a llygredd mor isel â phosibl tra'n gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau caled
- gosod allan ar gyfer llinell a lefel
- gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau caled mewn patrwm addas gan ddefnyddio technegau llaw a/neu â chymorth mecanyddol fel y bo'n briodol
- sicrhau bod yr arwynebedd sydd wedi ei osod yn cyd-fynd
- torri i mewn i'r safon ofynnol ar yr ymylon ac o amgylch rhwystrau fel gorchuddion mynediad
- cywasgu arwynebedd
- sicrhau bod gosodiad terfynol arwynebedd llorlechi/slabiau caled yn cydymffurfio ac unioni unrhyw broblemau
- llenwi cymalau a gorffen yn briodol
- cynnal arwynebedd glân a di-staen
- cadw'r safle mewn cyflwr glân a thaclus tra'n gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau caled
- glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar ar ôl gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau caled yn brydlon ac yn ddiogel
- diogelu arwynebeddau llorlechi/slabiau caled rhag tywydd a defnydd nes eu bod mewn cyflwr addas
- gadael y safle yn ddiogel, yn daclus ac yn addas ar gyfer y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer
- cynnal perthynas waith gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau caled, neu wedi eu heffeithio ganddo
- parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- y tywydd sy'n briodol ar gyfer gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau caled
- sut i gynnal asesiad risg ar gyfer gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau caled a phenderfynu ar amodau gwaith diogel
- sut i ddehongli manylebau gosod arwynebedd llorlechi/slabiau caled
- sut i fesur er mwyn sicrhau bod y gwaith o fewn y goddefiannau
- sut mae disgyniadau, llinellau a lefelau yn cael eu pennu a'u gosod allan
- sut i ddewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer y dasg, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE)
- sut i ddefnyddio, cynnal a chadw, glanhau a storio'r offer a'r cyfarpar angenrheidiol yn ddiogel ac yn gywir, yn cynnwys holltwr, llif ac offer tocio
- pwysigrwydd atal llwch ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) wrth ddefnyddio cylchlif
- pwysigrwydd atalfeydd ymylon
- sut i gyfrifo ansawdd y deunyddiau palmant sy'n ofynnol
- sut dylid storio deunyddiau palmant ar y safle, sut cânt eu dosbarthu i'r man gosod a sut maent yn cael eu gosod ar gyfer y gweithredwr gosod
- yr ystod o arwynebeddau llorlechi/slabiau sydd ar gael a'u cymwysiadau addas
- sut mae cwrs gosod caled yn cael ei baratoi, bywyd gwaith y deunydd haenu a phwysigrwydd peidio â pharatoi ardal rhy fawr cyn yr ardal osod
- yr ystod o batrymau llorlechi/slabiau a ddefnyddir yn gyffredin ar y safle, eu cryfderau a'u gwendidau perthynol, a sut cânt eu sefydlu
- y ffordd y gall taenu ymylon sydd yn derbyn wella cymhwysedd cymalau priddgalch sy'n cael eu pwyntio â llaw
- y ffordd y mae arwynebeddau llorlechi/slabiau yn cael eu gosod i radiysau a chorneli
- y ffordd y mae arwynebeddau llorlechi/slabiau yn cael eu gosod ar rampiau a chroesfannau isel, a lle mae newid mewn graddiant neu gyfeiriad disgyniad
- pwysigrwydd cymysgu a dewis llorlechi ar hap o dri phecyn neu fwy cyn gosod
- y ffordd y mae arwynebeddau llorlechi/slabiau yn cael eu gwirio'n barhaus o ran cydymffurfio â llinell, lefel, lled cymal a chymhwysedd llorlechi yn ystod y broses osod
- sut mae torri i mewn yn cael ei gyflawni gan ddilyn egwyddorion isafswm maint llorlech, slab, toriadau rhiciau a thechnegau torri mewnol
- y defnydd o rimynnau concrid o amgylch rhwystrau fel gorchuddion mynediad
- pwysigrwydd defnyddio deunyddiau cymalu a’u rôl ym mherfformiad yr arwynebedd wedi ei gwblhau
- technegau a ddefnyddir ar gyfer growtio sych a gwlyb (slwtsh), chwistrell gwn a phwyntio â llaw
- y ffordd y caiff gyrdd, morthwylion pren ac offer cywasgu eraill eu defnyddio a’r defnydd o unrhyw atodiadau angenrheidiol
- tynnu ac adnewyddu llorlechi/slabiau diffygiol
- y ffordd y caiff arwynebeddau eu gwirio’n barhaus o ran cydymffurfio â llinell, lefel, lled cymal a chymhwysedd deunyddiau yn ystod o broses osod
- pwysigrwydd gwiriadau cydymffurfio terfynol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol perthnasol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. dewis a defnyddio’r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth osod arwynebeddau llorlechi/slabiau:
- cywasgwyr platiau sy’n dirgrynu
- holltwyr gilotîn
- cylchlifau
- gordd a morthwyl pren
- cymhorthion gosod mecanyddol
- cymhorthion gosod gwactod
B. cynnal y tasgau canlynol wrth osod arwynebeddau llorlechi/slabiau:
C. defnyddio’r mathau canlynol o ddeunyddiau:
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
gosod i linellau syth a chromliniau araf
gosod llorlechi/slabiau i radiysau a chorneli cyflym gan ddefnyddio patrwm radiws ffan
gosod llorlechi/slabiau i radiysau a chorneli cyflym gan ddefnyddio patrwm radiws dolen
gosod llorlechi/slabiau i radiysau a chorneli cyflym gan ddefnyddio patrwm rhedeg
gosod llorlechi/slabiau i radiysau a chorneli cyflym gan ddefnyddio patrwm cornel tref newydd
torri i mewn i ymylon a rhwystrau
pwyntio â llaw
cymharu â phriddgalch a slwtsh polymerig
cywasgu
codi ac adnewyddu
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.
Deunyddiau:
llorlechi concrid
slabiau cerrig naturiol
PPE: Offer amddiffynnol personol.
offer llaw yn cynnwys tryweli llyfnu a thryweli, morthwylion brics/ffustio, morthwyl palmant / gordd/morthwyl pren, bar alinio, llinellau llinyn, pinnau llinyn, cynion oer, pwnshis, cynion bras a chynion naddu
cywasgwyr platiau sy’n dirgrynu
holltwyr gilotîn
cylchlifau
gordd a morthwyl pren
cymhorthion gosod mecanyddol
cymhorthion gosod gwactod
PPE ac RPE priodol