Gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg

URN: LANH42
Sectorau Busnes (Cyfresi): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg.

Mae’r safon hon yn un o gyfres o chwech sydd wedi eu hanelu at y rheiny sydd yn gosod y ffurfiau amrywiol o arwynebeddau llawr caled a ddefnyddir yn y diwydiannau tirlunio.

Mae’r safon hon yn targedu gweithredwyr sydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig ac yn canolbwyntio ar y sgiliau sy’n ofynnol i ddeall y strwythur ac i osod arwynebeddau caled tra’n gweithio yn unol â manylebau.

Bydd disgwyl i chi ddeall effaith y gosod ar yr amgylchedd uniongyrchol, ac effaith yr amgylchedd ar y strwythur.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar ar gyfer gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) yn ddiogel ac yn gywir
  3. cadw niwed, gwastraff diangen, effaith annymunol ar yr amgylchedd a llygredd mor isel â phosibl tra'n gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg
  4. gosod allan ar gyfer llinell a lefel
  5. gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg mewn patrwm addas gan ddefnyddio technegau llaw a/neu â chymorth mecanyddol fel y bo'n briodol
  6. sicrhau bod arwynebeddau llorlechi/slabiau sydd wedi eu gosod yn cyd-fynd
  7. torri llorlechi/slabiau i mewn i safon ofynnol ar yr ymylon ac o amgylch rhwystrau fel gorchuddion mynediad
  8. cywasgu llorlechi/slabiau
  9. sicrhau bod gosodiad terfynol arwynebeddau llorlechi/slabiau yn cydymffurfio ac unioni unrhyw broblemau
  10. llenwi cymalau ac ail-gywasgu
  11. cadw'r safle mewn cyflwr glân a thaclus tra'n gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau
  12. glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar ar ôl gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg yn brydlon ac yn ddiogel
  13. diogelu arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg rhag y tywydd a defnydd nes  eu bod mewn cyflwr addas
  14. gadael y safle'n lân, yn daclus ac yn addas ar gyfer y defnydd a fwriadwyd ar ei gyfer
  15. cynnal perthynas waith gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg, neu wedi eu heffeithio ganddo
  16. parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  17. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y tywydd sy'n briodol ar gyfer gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg
  2. sut i gynnal asesiad risg ar gyfer gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg a phenderfynu ar amodau gwaith diogel
  3. sut i ddehongli manylebau gosod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg
  4. sut i fesur er mwyn sicrhau bod y gwaith o fewn dioddefiannau
  5. sut mae disgynfeydd, llinellau a lefelau'n cael eu pennu a'u nodi
  6. sut i ddewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer y dasg, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE)
  7. sut i ddefnyddio, cynnal a chadw, glanhau a storio'r offer a'r cyfarpar gofynnol yn ddiogel ac yn gywir, yn cynnwys holltwr, llif ac offer tocio
  8. pwysigrwydd atal llwch ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) wrth ddefnyddio cylchlif
  9. pwysigrwydd ataliadau ymyl
  10. sut i gyfrifo faint o ddeunyddiau palmant hyblyg sydd eu hangen
  11. sut mae arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg yn cael eu dosbarthu i'r safle, eu storio a sut maent yn cael eu gosod ar gyfer y gweithredwr gosod
  12. yr ystod o arwynebeddau llorlechi/slabiau sydd ar gael a'u cymwysiadau addas
  13. sut i bennu'r math mwyaf addas o baratoi cwrs gosod (sgrid, haen unigol, neu gyfuniad o'r ddau) ar gyfer unrhyw brosiect gosod llorlechi/slabiau
  14. yr ystod o batrymau llorlechi/slabiau a ddefnyddir yn gyffredin, eu cryfderau a'u gwendidau perthynol, a sut maent yn cael eu sefydlu
  15. pwysigrwydd cymysgu a dewis arwynebeddau llorlechi/slabiau ar hap o dri neu fwy o becynnau cyn gosod
  16. sut caiff arwynebeddau llorlechi/slabiau eu gosod i radiysau a chorneli
  17. sut caiff arwynebeddau llorlechi/slabiau eu gosod ar rampiau a chroesfannau isel, a phan fydd newidiadau mewn graddiant neu gyfeiriad disgynfeydd
  18. sut mae arwynebeddau llorlechi/slabiau'n cael eu gwirio'n barhaus o ran cydymffurfio â llinell, lefel, lled cymal a chymhwysedd llorlechi/slabiau yn ystod y broses osod
  19. sut caiff torri i mewn ei gyflawni gan ddilyn egwyddorion isafswm maint llorlechi/slabiau, toriadau rhiciog a thechnegau torri mewnol
  20. y defnydd o rimynnau concrid o amgylch rhwystrau fel gorchuddion mynediad
  21. pwysigrwydd defnyddio'r deunydd cymalau cywir a'i rôl ym mherfformiad yr arwynebedd wedi ei gwblhau
  22. technegau a ddefnyddir ar gyfer growtio sych a gwlyb
  23. maint, mas a'r math o offer cywasgu sydd yn addas ar gyfer y math o arwynebedd sydd yn cael ei osod
  24. sut caiff offer cywasgu ei ddefnyddio, a'r defnydd o unrhyw atodiadau gofynnol
  25. codi ac adnewyddu llorlechi/slabiau diffygiol
  26. y ffordd y caiff arwynebeddau llorlechi/slabiau eu gwirio'n barhaus o ran cydymffurfio
  27. hyd y llinell, lefel, lled cymalau a chymhwysedd deunyddiau yn ystod y broses osod
  28. pwysigrwydd gwiriadau cydymffurfio terfynol
  29. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  30. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  31. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol cyfredol

Cwmpas/ystod

A.    dewis a defnyddio’r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth osod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg:
  1. offer llaw

  2. cywasgwyr platiau sy’n dirgrynu

  3. holltwyr gilotîn

  4. cylchlifau

  5. gordd a morthwyl pren

  6. cymhorthion gosod mecanyddol

  7. cymhorthion gosod gwactod

 
B.    cynnal y tasgau canlynol wrth osod arwynebeddau llorlechi/slabiau hyblyg:

  1. gosod llorlechi/slabiau yn llinellau syth a chromliniau araf

  2. gosod llorlechi/slabiau i radiysau a chorneli cyflym gan ddefnyddio patrwm ffan

  3. gosod llorlechi/slabiau i radiysau a chorneli gan ddefnyddio patrwm radiws dolen

  4. gosod llorlechi/slabiau i radiysau a chorneli cyflym gan ddefnyddio patrwm rhedeg

  5. gosod llorlechi/slabiau i radiysau a chorneli cyflym gan ddefnyddio patrwm cornel tref newydd

  6. torri ymylon i mewn o amgylch rhwystrau

  7. cymalu

  8. cywasgu

  9. codi ac adnewyddu

 
C.   defnyddio’r mathau canlynol o ddeunyddiau:

  1. llorlechi concrid

  2. slabiau cerrig naturiol

 
 


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANL32

Galwedigaethau Perthnasol

Tirluniwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

llorlech; palmant; slab