Gosod arwynebeddau bloc hyblyg

URN: LANH40
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gosod arwynebeddau bloc hyblyg.

Mae'r safon hon yn un o gyfres o chwech wedi eu hanelu at y rheiny sydd yn gosod mathau amrywiol o arwynebeddau llawr caled a ddefnyddir yn y diwydiannau tirlunio.

Mae'r safon hon yn targedu gweithredwyr sydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig ac yn canolbwyntio ar y sgiliau sy'n ofynnol i ddeall y strwythur ac i osod arwynebeddau caled tra'n gweithio yn unol â manylebau.

Disgwylir i chi ddeall effaith y gosodiad ar yr amgylchedd uniongyrchol, ac effaith yr amgylchedd ar y strwythur.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar ar gyfer gosod arwynebeddau bloc hyblyg, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE) yn ddiogel ac yn gywir
  3. cadw niwed, gwastraff diangen, effaith annymunol ar yr amgylchedd a llygredd mor isel â phosibl
  4. gosod ar gyfer llinell a lefel
  5. adeiladu cwrs ymyl ataliol addas ar linellau syth, cylchrannau rheolaidd a chromlinau afreolaidd
  6. gosod gwely o dywod garw/graean, wedi ei lefelu i'r dyfnder a'r lefel gywir ar gyfer arwynebeddau bloc hyblyg
  7. gosod arwynebeddau bloc hyblyg â llaw i batrwm addas
  8. gwirio blociau hyblyg wedi eu gosod o ran cyfluniad
  9. torri blociau hyblyg i'r safon ofynnol
  10. cywasgu blociau hyblyg
  11. sicrhau bod arwynebeddau blociau hyblyg sydd wedi eu gosod yn cydymffurfio, a datrys unrhyw broblemau
  12. llenwi'r cymalau ac ail-gywasgu
  13. cadw'r safle mewn cyflwr glân a thaclus tra'n gosod arwynebeddau bloc hyblyg
  14. glanhau, cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn brydlon ac yn ddiogel ar ôl gosod arwynebeddau bloc hyblyg
  15. diogelu arwynebeddau bloc hyblyg yn gywir rhag y tywydd a defnydd tan eu bod mewn cyflwr addas
  16. gadael y safle yn ddiogel, yn daclus ac yn addas ar gyfer y defnydd a fwriadwyd
  17. cynnal perthynas waith gyda phawb sydd yn gysylltiedig â gosod arwynebeddau bloc hyblyg, neu wedi eu heffeithio ganddo
  18. parhau i gyfathrebu gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  19. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y tywydd sydd yn briodol ar gyfer gosod arwynebeddau bloc hyblyg
  2. sut i gynnal asesiad risg ar gyfer gosod arwynebeddau bloc hyblyg a phenderfynu ar ddulliau gwaith diogel
  3. sut i ddehongli manylebau gosod arwynebeddau bloc hyblyg
  4. sut i fesur er mwyn sicrhau bod y gwaith o fewn goddefiannau
  5. sut mae disgynfeydd, llinellau a lefelau yn cael eu pennu a'u nodi
  6. sut i ddewis a pharatoi'r offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer y dasg, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) ac offer amddiffynnol anadlol (RPE)
  7. sut i ddefnyddio, cynnal, glanhau a storio'r offer a'r cyfarpar angenrheidiol yn ddiogel ac yn gywir
  8. defnydd o offer torri yn cynnwys holltwr, llif ac offer tocio
  9. pwysigrwydd atal llwch ac offer amddiffynnol anadlol (RPE)
  10. wrth ddefnyddio cylchlif, pwysigrwydd ataliadau ymyl
  11. sut i gyfrifo faint o ddeunyddiau palmant sydd eu hangen
  12. sut dylid storio deunydd palmant ar y safle, sut maent yn cael eu dosbarthu i'r man gosod, a sut maent yn cael eu lleoli ar gyfer y gweithredwr sy'n eu gosod
  13. yr ystod o flociau sydd ar gael, yn cynnwys systemau bloc hydraidd, a'u cymwysiadau addas
  14. yr ystod o batrymau bloc a ddefnyddir yn gyffredin ar y safle, eu cryfder a'u gwendidau perthnasol, a sut cânt eu sefydlu
  15. pwysigrwydd cymysgu a hapddewis blociau o dri phecyn neu fwy cyn eu gosod
  16. pwysigrwydd defnyddio'r deunydd haenu cywir a sefydlu dyfnderau a chywasgiad digonol
  17. sut mae ardaloedd yn cael eu gwirio'n barhaus o ran cydymffurfio â llinell, lefel, lled cymal a chymhwysedd bloc yn ystod y broses osod
  18. sut mae torri i mewn yn cael ei gyflawni gan ddilyn egwyddorion isafswm maint blociau a thechnegau torri mewnol
  19. pwysigrwydd defnyddio'r deunydd uniadu cywir a'i rôl ym mherfformiad yr arwynebedd wedi ei gwblhau
  20. technegau a ddefnyddir ar gyfer growtio sych a gwlyb
  21. maint, mas a'r math o offer cywasgu sydd yn addas ar gyfer y math o flociau sy'n cael eu gosod
  22. sut caiff offer cywasgu ei ddefnyddio, a'r defnydd o unrhyw atodiadau angenrheidiol ac adnewyddu blociau diffygiol
  23. sut mae arwynebeddau'n cael eu gwirio'n barhaus o ran cydymffurfio â llinell, lefel, lled cymal a chymhwysedd deunyddiau yn ystod y broses osod
  24. pwysigrwydd gwiriadau cydymffurfio terfynol
  25. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  26. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  27. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol

Cwmpas/ystod

A.      dewis a defnyddio’r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth osod arwynebeddau bloc hyblyg:
1.          offer llaw
2.          cywasgwyr platiau sy’n dirgrynu
3.          holltwyr gilotîn
4.          cylchlifau

B.      gwneud y tasgau canlynol wrth osod arwynebeddau bloc hyblyg:
1.       gosod blociau
2.       torri i mewn
3.       cywasgu
4.       gwiriadau cydymffurfio
5.       uniadu
6.       codi ac atgyweirio

C.      defnyddio’r mathau canlynol o ddeunyddiau:
1.    palmentydd concrid confensiynol
2.    palmentydd concrid hydraidd
3.    palmentydd clai confensiynol
4.    palmentydd clai hydraidd

D.      gweithio gyda’r patrymau bloc canlynol:
1.    bond ymestyn/parhaus/toredig
2.    90° saethben
3.    45° saethben
4.    gwead basged


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Patrymau bloc:

  • bond ymestyn/parhaus/toredig

  • 90° saethben

  • 45° saethben
  • gwead basged 

Tasgau gosod:

  • gosod blociau

  • torri i mewn

  • cywasgu

  • gwiriadau cydymffurfio

  • uniadu

  • codi ac atgyweirio

 
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig 

Deunyddiau:

  • palmentydd concrid confensiynol

  • palmentydd concrid hydraidd

  • palmentydd clai confensiynol

  • palmentydd clai hydraidd

 
PPE: Offer Amddiffynnol Personol.

RPE: Offer Amddiffynnol Anadlol.
 
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol
 
Offer a chyfarpar:

  • offer llaw fel tryweli llyfnu a thryweli, morthwylion brics/ffustio, morthwyl palmant/gordd bren/morthwyl pren, echdynnwr bloc, bar alinio, llinellau llinyn, pinnau llinell

  • cywasgwyr platiau sy’n dirgrynu

  • holltwyr gilotîn

  • cylchlifau

  • PPE a RPE priodol


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANL32

Galwedigaethau Perthnasol

Tirluniwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

blociau; palmant; clai