Trefnu casglu a storio deunydd lluosogi
Trosolwg
Mae’r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn trefnu casglu a storio deunydd lluosogi. Mae hyn yn cynnwys ystod eang o ddeunydd llystyfiant sydd yn deillio o blanhigion stoc wedi eu tyfu yn y busnes. Bydd hyn yn gofyn am wybodaeth sylweddol am y broses luosogi.
Mae’n cynnwys cynllunio, casglu a storio deunydd lluosogi.
Byddwch yn gweithio heb oruchwyliaeth ac yn gallu cymryd cyfrifoldeb dros luosogi.
Mae’r safon hon yn cynnwys cydlynu eich llwyth gwaith eich hun, mewn rhai enghreifftiau gallai gynnwys cydlynu gwaith timau.
Mae lluosogi o ddulliau llystyfiant wedi ei gynnwys yn H6 ac mae lluosogi o hadau wedi ei gynnwys yn H8.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a chasglu a storio'r deunydd lluosogi
- adnabod planhigion y mae'r deunyddiau i gael eu casglu oddi wrthynt yn unol â'r fanyleb
- trefnu amseriad casglu er mwyn cynyddu llwyddiant y gweithgaredd lluosogi ac i fodloni'r fanyleb
- cadarnhau bod dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE) yn cael eu gwisgo
- sicrhau bod offer yn cael ei ddefnyddio a'i gynnal a'i gadw mewn cyflwr diogel a chywir
- pennu'r dull ar gyfer casglu'r deunydd lluosogi i fodloni anghenion y rhywogaeth o blanhigyn a'r dull lluosogi
- sicrhau bod y dulliau gwaith ar gyfer casglu a storio deunydd lluosogi wedi eu sefydlu ac yn cael eu cyfathrebu'n glir i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- nodi a sefydlu argaeledd adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer casglu a storio deunydd lluosogi
- trefnu prosesu ailgylchu neu waredu gwastraff yn unol â'r gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- cadarnhau bod hylendid a bioddiogelwch yn cael eu cynnal yn unol ag arferion sefydliadol
- sicrhau bod deunydd planhigion yn cael ei drin mewn ffordd sy'n lleihau niwed a gwastraff
- sicrhau bod y deunydd lluosogi sy'n cael ei gasglu'n bodloni gofynion y fanyleb a'r dull lluosogi
- trefnu cyfleusterau addas ar gyfer storio deunydd lluosogi sydd wedi ei gasglu
- sicrhau bod y deunydd lluosogi wedi ei labelu yn unol â'r fanyleb
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliadol
- cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud yn unol â pholisïau amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol a gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg sydd yn gysylltiedig â chasglu a storio deunydd lluosogi
- ble a sut i gael gwybodaeth am blanhigion ac adnabod planhigion
- y deunydd lluosogi o fathau gwahanol o blanhigion y gellir eu defnyddio ar gyfer lluosogi
- y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- yr offer sy'n ofynnol ar gyfer y gwaith a sut i gadarnhau ei fod yn cael ei ddefnyddio a'i gynnal a'i gadw mewn cyflwr diogel a chywir a'i storio'n ddiogel
- y dulliau lluosogi gwahanol
- strwythur y planhigion sydd yn berthnasol i luosogi
- pwysigrwydd amseriad gweithgareddau lluosogi gwahanol ar gyfer trefnu eu casglu a'u storio
- dulliau o drefnu casglu deunydd lluosogi a ffactorau y mae'n rhaid eu hystyried
- sut i sefydlu a threfnu'r adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer gwneud y gwaith o gasglu a storio deunydd lluosogi
- sut i nodi addasrwydd cyfleusterau storio cyn y gweithgaredd lluosogi
- dulliau o gasglu, trin a storio deunydd lluosogi a chanlyniadau peidio â gwneud hynny'n gywir
- amodau priodol ar gyfer storio deunydd lluosogi a'r hyd sydd yn addas ar gyfer storio
- pwysigrwydd cadarnhau bod y gweithgaredd lluosogi wedi ei gwblhau yn unol â'r fanyleb
- dulliau o gynnal hylendid a bioddiogelwch a'r rhesymau pam y mae'n bwysig
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo a gwaredu gwastraff
- gofynion ar gyfer labelu deunydd lluosogi
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a'r ffordd y dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol er mwyn helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- y cofnodion y mae angen eu cadw a phwysigrwydd eu cwblhau
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
A. trefnu’r dulliau lluosogi canlynol:
1. toriadau
2. blaguro
3. trawsblannu
4. micro-luosogi
5. rhannu
6. haenu
B. defnyddio a chynnal a chadw’r offer canlynol:
1. offer torri
2. cynwysyddion ar gyfer storio a chludo deunydd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.
toriadau (yn cynnwys pren meddal, pren lled-galed, pren caled a thoriadau dail)
blaguro (yn cynnwys blagur dail)
- trawsblannu
- micro-luosogi
- rhannu
- haenu