Gosod is-haenau stondin llawr caled

URN: LANH39
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gosod is-haenau stondin llawr caled a ddefnyddir yn y diwydiannau tirlunio.

Mae'r safon yn addas ar gyfer gweithredwyr sydd yn gweithio o dan oruchwyliaeth gyfyngedig ac yn canolbwyntio ar y sgiliau sy'n ofynnol i ddeall y strwythur ac ar gyfer gosod is-haenau arwynebedd caled, gan weithio'n unol â manylebau.

Disgwylir i chi ddeall effaith y gwaith hwn ar yr amgylchedd uniongyrchol, ac effaith yr amgylchedd ar y strwythur.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  2. dewis a gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  3. dewis, paratoi a defnyddio offer a chyfarpar ar gyfer gosod is-haenau llawr caled yn ddiogel ac yn gywir
  4. dewis deunyddiau priodol ar gyfer gosod is-haenau llawr caled
  5. defnyddio dulliau cywir a diogel i unioni unrhyw broblemau
  6. gosod is-haenau llawr caled i lefelau a phroffiliau cywir
  7. cadw niwed, gwastraff diangen, effaith annymunol ar yr amgylchedd a llygredd mor isel â phosibl
  8. glanhau offer a chyfarpar a storio offer, cyfarpar a deunyddiau yn ddiogel ac yn gywir
  9. diogelu is-haenau llawr caled sydd wedi eu paratoi rhag y tywydd a defnydd tan eu bod mewn cyflwr addas
  10. gadael y safle yn ddiogel, yn daclus ac yn addas ar gyfer y defnydd a fwriadwyd
  11. cynnal perthynas waith gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  12. parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  13. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. sut i adnabod peryglon, asesu risg a dehongli asesiadau risg wrth osod is-haenau llawr caled
  2. pwysigrwydd is-haenau llawr caled
  3. yr effaith y gallai tywydd yn gyffredinol ei gael ar is-haenau llawr caled
  4. sut i ddewis, paratoi a defnyddio'r offer a'r cyfarpar cywir ar gyfer gosod is-haenau llawr caled, yn cynnwys offer amddiffynnol personol (PPE) yn ddiogel ac yn gywir
  5. y mathau amrywiol o offer cywasgu y gellir eu defnyddio, eu heffeithlonrwydd a'u haddasrwydd ar gyfer is-haenau a deunyddiau llawr caled amrywiol
  6. sut i gynnal, glanhau a storio'r offer a'r cyfarpar angenrheidiol yn brydlon ac yn ddiogel ar ôl gosod is-haenau llawr caled
  7. sut i fesur yn gywir i sicrhau bod y gwaith o fewn goddefiannau
  8. trefn yr haenau y gellir dod ar eu traws o fewn gosodiad arferol a pherthnasedd pob un i'r strwythur cyffredinol
  9. effaith amodau gradd isel ar berfformiad haenau gorchuddiol
  10. y defnodd o geo-decstiliau i wella a/neu atgyfnerthu is-haenau llawr caled
  11. yr ystod o gyfuniadau a ddefnyddir i osod is-haenau llawr caled
  12. yr ystod o ddeunyddiau wedi eu cyfyngu a heb eu cyfyngu a ddefnyddir mewn is-haenau llawr caled
  13. yr ystod o ddeunyddiau confensiynol a hydraidd a ddefnyddir mewn gosodiad is-haenau llawr caled
  14. y cysyniad o'r cynnwys gwlybaniaeth gorau posibl i gywasgiad is-haen llawr caled
  15. pwysigrwydd draeniad is-haen llawr caled a'r ffordd orau o gyflawni hyn mewn ystod o amgylchiadau
  16. pwysigrwydd lefelu a graddio'r cyfuniad ym mhob is-haen llawr caled ac o weithio i oddefiannau a phroffiliau wedi eu diffinio, yn cynnwys y gwiriadau a ddefnyddir i sicrhau cydymffurfio
  17. y ffordd y mae mathau amrywiol o gyfuniadau sylfaenol ac eilaidd wedi eu cyfyngu a heb eu cyfyngu yn cywasgu, i ba raddau a phwysigrwydd gosod pob is-haen llawr caled mewn cyfnodau gydag uchafswm trwch penodedig
  18. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  19. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  20. y potensial ar gyfer llygredd amgylcheddol a sut i’w atal

  21. pwysigrwydd lleihau niwed a gwastraff diangen a sut i wneud hynny 

  22. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol

Cwmpas/ystod

A.         gosod yr is-haenau llawr caled canlynol:
1.         Haen gapio/gwella
2.         is-sylfaen
3.         sylfaen

B.         gweithredu’r mathau canlynol o beiriannau wrth osod is-haenau llawr caled:
1.         rowlar sy’n dirgrynu
2.         cywasgwr platiau sy’n dirgrynu
3.         rampactor


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

PPE: Offer amddiffynnol personol

Peiriannau:

•  rowlar sy’n dirgrynu
•  cywasgwr platiau sy’n dirgrynu
•  rampactor

Is-haenau:

•  haen gapio/gwella
•  is-sylfaen
•  sylfaen


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH39

Galwedigaethau Perthnasol

Tirluniwr

Cod SOC

5113

Geiriau Allweddol

llawr caled; is-haenau