Cynnal pyllau a nodweddion dŵr
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal pyllau a nodweddion dŵr.
Mae'r deunydd a'r offer arferol y byddech yn eu defnyddio yn cynnwys: cerrig a choncrid, leinwyr plastig rhychiog neu hyblyg, pympiau a hidlwyr wedi eu pweru'n drydanol.
Dim ond trydanwyr medrus a chymwys dylai wneud gwaith trydanol.
Os ydych yn gweithio gyda pheiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â chynnal pyllau a nodweddion dŵr
- gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- paratoi, defnyddio, glanhau, cynnal a chadw a storio offer, cyfarpar a pheiriannau i gynnal pyllau a nodweddion dŵr yn ddiogel ac yn gywir
- archwilio'r pyllau neu'r nodweddion dŵr cyn gwneud y gwaith cynnal
- nodi diffygion posibl gyda'r pwll a'r nodwedd ddŵr
- dewis dulliau ar gyfer cynnal pyllau a nodweddion dŵr
- gwirio'r pwll neu'r nodwedd ddŵr ar ôl cwblhau'r gwaith gan wneud yn siŵr ei fod yn ddiogel ac yn addas at y diben
- gwaredu neu ailgylchu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol ac arferion sefydliadol ac i leihau risg amgylcheddol
- adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cynnal pyllau a nodweddion dŵr
- lleihau niwed nas dymunir i wasanaethau ac ardaloedd cyfagos
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol yn gyfreithiol a chan y sefydliad
- parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- peryglon sydd yn gysylltiedig â chynnal pyllau a nodweddion dŵr
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer, cyfarpar a pheiriannau ar gyfer cynnal pyllau a nodweddion dŵr a sut i baratoi, defnyddio, glanhau, cynnal a storio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- sut i gynnal arolygiadau o byllau a nodweddion dŵr
- pwysigrwydd cynnal archwiliadau yn unol â'r amserlen
- y mathau o broblemau sy'n debygol o ddigwydd gyda phyllau a nodweddion dŵr a sut i ymdrin â nhw
- y math o niwed sy'n debygol o ddigwydd i wasanaethau a'r ardal gyfagos a sut i gadw hyn mor isel â phosibl
- pam y mae'n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus wrth gynnal pyllau a nodweddion dŵr
- pam y mae'n bwysig cwblhau gwaith yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni
- pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr glân a thaclus
- y cofnodion y mae angen eu cwblhau a pham
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A cynnal y mathau canlynol o nodwedd ddŵr:
1. nentydd
2. ffynhonnau
3. rhaeadrau dŵr
4. pyllau
B. adnabod ac ymdrin â’r problemau canlynol wrth gynnal pyllau a nodweddion dŵr:
1. gollyngiadau
2. hidlwyr a phympiau sydd angen eu glanhau
3. hidlwyr a phympiau sydd angen eu hadnewyddu
4. baw a llystyfiant annymunol
5. triniaeth ddŵr
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.
Nodweddion dŵr: pyllau, llynnoedd, nentydd/ffrydiau, rhaeadrau dŵr, ffynhonnau