Adeiladu pyllau a nodweddion dŵr

URN: LANH37
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn adeiladu pyllau a nodweddion dŵr.

Mae'r deunyddiau a'r offer arferol y byddech yn eu defnyddio wrth adeiladu pyllau a nodweddion dŵr yn cynnwys: creigiau a choncrid, leinwyr plastig rhychiog neu hyblyg, pympiau neu hidlwyr wedi eu pweru'n drydanol.

Dim ond trydanwr medrus a chymwys ddylai wneud gwaith trydanol.

Os ydych yn gweithio gyda pheiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad perthnasol lle bo angen.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu cyflwr y safle i sefydlu addasrwydd cyn dechrau adeiladu pyllau a nodweddion dŵr
  2. bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
  3. cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith
  4. nodi a pharatoi'r offer, y cyfarpar a'r deunyddiau angenrheidiol i wneud y gwaith yn ddiogel ac yn gywir
  5. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  6. paratoi'r safle yn unol â'r manylebau
  7. gosod ac adeiladu pyllau neu nodweddion dŵr yn ddiogel ac yn unol â'r manylebau
  8. gosod offer yn unol â chyfarwyddiadau'r cynhyrchydd a'r gofynion cyfreithiol perthnasol
  9. dewis, paratoi a defnyddio offer, peiriannau a chyfarpar yn ddiogel ac yn gywir
  10. gwneud yr holl waith mewn ffordd sy'n achosi'r effaith leiaf bosibl ar yr ardal gyfagos ac i ddefnyddwyr eraill y safle
  11. sicrhau bod y pwll neu'r nodwedd ddŵr yn gweithio'n gywir
  12. nodi diffygion posibl yn y pwll neu'r nodwedd ddŵr a chymryd camau ataliol neu gywiro lle bo angen
  13. adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cwblhau'r gwaith o osod y pwll neu'r nodwedd ddŵr
  14. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliadol
  15. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  16. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​y peryglon sydd yn gysylltiedig ag adeiladu pyllau a nodweddion  dŵr
  2. sut i ddehongli asesiadau risg
  3. pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith a'r canfyddiadau a allai effeithio ar y gwaith arfaethedig
  4. sut i ddehongli manylebau a phwysigrwydd eu dilyn
  5. y mathau o offer, cyfarpar a deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer gosod pyllau a nodweddion dŵr a sut i ddewis, paratoi a defnyddio'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
  6. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  7. y problemau a allai godi wrth adeiladu pyllau a nodweddion dŵr a pha gamau i'w cymryd
  8. sut i leihau effaith eich gwaith ar yr ardal gyfagos ac ar ddefnyddwyr eraill y safle
  9. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  10. yr amodau sydd yn addas ar gyfer adeiladu pyllau a nodweddion dŵr
  11. y nodweddion a chymhwyso'r ystod o ddeunyddiau a ddefnyddir i osod pyllau neu nodweddion dŵr
  12. egwyddorion a dulliau adeiladu pyllau a nodweddion dŵr
  13. egwyddorion cyfrifo, dewis a gosod pŵer pympiau
  14. y gofynion diogelwch ar gyfer systemau pympiau
  15. y dulliau a ddefnyddir i sicrhau bod pwll neu nodwedd ddŵr yn gweithio'n gywir ar ôl ei osod
  16. symptomau'r mathau o namau a allai ddigwydd mewn pyllau neu nodweddion dŵr
  17. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo a sut dylid gwneud hyn
  18. y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo a gwaredu gwastraff
  19. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol

Cwmpas/ystod


A.      adeiladu’r mathau canlynol o bwll neu nodwedd ddŵr:
1.    nentydd
2.    ffynhonnau
3.    rhaeadrau dŵr
4.    pyllau

B.      dewis a defnyddio’r mathau canlynol o ddeunyddiau wrth adeiladu pyllau neu nodweddion dŵr:
1.    leinwyr clai ar gyfer pyllau  
2.    gwydr ffibr yn y lle priodol
3.    concrid yn y lle priodol
4.    ffurf afreolaidd wedi ei ffurfio neu ei osod ymlaen llaw
5.    leiniwr biwtyl neu PVC
6.    leinwyr hyblyg

C.      dewis a defnyddio’r offer neu’r cyfarpar canlynol:
1.    wedi eu pweru
2.    offer llaw

D.      dewis a gosod yr offer canlynol:
1.    pympiau
2.    hidlwyr
3.    cyflenwad trydan


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae pyllau a nodweddion dŵr yn cynnwys: pyllau, nentydd, ffynhonnau a rhaeadrau dŵr.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANL28

Galwedigaethau Perthnasol

Garddwyr, Tirlunwyr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

pyllau; ffynhonnau; rhaeadrau dŵr; nentydd; llynnoedd; safle