Adeiladu gerddi cerrig

URN: LANH36
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn adeiladu gerddi cerrig.

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau, dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar dystysgrif berthnasol os oes angen.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​asesu cyflwr safleoedd i asesu eu haddasrwydd ar gyfer adeiladu gerddi cerrig
  2. bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â safle'r ardd gerrig a'r gwaith arfaethedig
  3. dewis, paratoi a defnyddio'r deunyddiau a'r offer gofynnol yn ddiogel ac yn gywir
  4. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
  5. dewis cerrig ar gyfer adeiladu'r ardd gerrig yn unol â'r manylebau, y gofynion gweithredol ac esthetig
  6. nodi llwybrau mynediad diogel ar gyfer deunyddiau ac offer cyn dechrau'r gwaith
  7. trin deunyddiau ac offer yn ddiogel ac yn gywir
  8. adeiladu gwaith cerrig yn gywir yn unol â'r manylebau
  9. gadael safle'r ardd gerrig yn ddiogel, yn daclus ac yn barod ar gyfer plannu ar ôl cwblhau'r gwaith
  10. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  11. cadarnhau bod gwaith yn cael ei wneud mewn ffordd sy'n lleihau niwed amgylcheddol
  12. prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliadol
  13. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. ​sut i asesu addasrwydd cyflwr y safle ar gyfer adeiladu gerddi cerrig

  2. y peryglon sydd yn gysylltiedig ag adeiladu gerddi cerrig

  3. y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol i adeiladu gerddi cerrig a sut i'w paratoi, eu defnyddio, eu cynnal a chadw a'u storio'n ddiogel ac yn gywir
  4. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  5. y meini prawf ar gyfer dewis llwybrau mynediad ar gyfer deunyddiau ac offer ar gyfer adeiladu gerddi cerrig
  6. y mathau a'r defnydd o gerrig a ddefnyddir wrth adeiladu gerddi cerrig 
  7. egwyddorion trefnu cerrig mewn gerddi cerrig
  8. y gofynion diogelwch wrth godi a thrin cerrig
  9. nodweddion a dibenion gerddi cerrig gwahanol
  10. y peryglon posibl sydd yn deillio o adeiladwaith anniogel, heb ei orffen
  11. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
  12. y ffynonellau gwastraff posibl a'r effaith niweidiol amgylcheddol ac ecolegol a sut gellir lleihau'r rhain
  13. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
  14. y problemau arferol a allai godi wrth adeiladu gerddi cerrig a sut i ymdrin â'r rhain yn gywir
  15. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol

Cwmpas/ystod


A.      gwneud y mathau canlynol o waith cerrig i adeiladu gerddi cerrig:
1.    brigiadau
2.    sgri a marian
3.    cymoedd
4.    rhaeadrau
5.    grisiau

B.      ymdrin â deunyddiau yn y ddwy ffordd ganlynol:
1.    â llaw
2.    yn fecanyddol


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Mae cerrig yn cynnwys: brigiadau; sgri a marian; cymoedd; rhaeadrau; grisiau.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANL24

Galwedigaethau Perthnasol

Garddwr, Tirluniwr

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

strwythur; carreg; planhigion; gardd