Amcangyfrif gofynion adnoddau a gwaith rhaglen ar gyfer prosiectau ar y tir
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn amcangyfrif yr adnoddau sy'n ofynnol ar gyfer gweithio ar brosiectau ar y tir a chreu rhaglen waith.
Gallai'r prosiectau ar y tir sydd wedi eu cynnwys yn y safon hon fod wedi eu lleoli ar ffermydd, ystadau helwriaeth, parciau gwledig, meysydd/caeau chwarae lleol, cyrsiau golf neu gaeau chwaraeon fel llain fowlio a chyrtiau tennis.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- egluro'r gofynion a safonau'r prosiect ar y tir arfaethedig
- nodi ac amcangyfrif yr adnoddau sy'n ofynnol i gyflawni'r canlyniadau yn y prosiect ar y tir
- creu rhaglen waith i fodloni canlyniadau'r prosiect ar y tir
- cadarnhau bod y rhaglen waith yn rhoi cyfrif llawn o'r adnoddau sydd ar gael
- darparu trefn waith sy'n bodloni'r targedau y cytunwyd arnynt
- creu manyleb sydd yn galluogi gwaith i gael ei gwblhau ar amser, yn ddiogel ac i'r safon ofynnol
- cadarnhau bod y fanyleb yn cael ei sefydlu a'i chyfathrebu'n glir i bawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- sicrhau bod adnoddau a nodwyd ar gael ar yr adeg iawn ac yn cael eu rheoli'n gywir i leihau gwastraff ac oedi yn cwblhau'r rhaglen waith
- monitro ac adolygu'r rhaglen waith a chymryd camau lle bo angen
- cadw cofnodion yn unol â'r manylebau a'r gofynion sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- yr angen i gynllunio prosiect a'r dulliau o amcangyfrif y gofynion o ran adnoddau ar gyfer prosiectau ar y tir
- cyfyngiadau prosiect a rheoli costau sydd yn gysylltiedig â phrosiectau ar y tir
- effeithiau amseru darpariaeth adnoddau ar gostau a chwblhau yn erbyn y gyllideb
- y dulliau o gynyddu'r defnydd o adnoddau, amseru a lleihau gwastraff
- goblygiadau amcangyfrif a threfnu adnoddau ar gyfer y prosiect ar y tir
- ystod ac ansawdd cyflenwyr cost effeithiol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- cynllunio, trefnu a monitro prosiect yn effeithiol
- y cynnyrch gwaith gofynnol ar gyfer y math o waith sydd wedi ei raglennu
- mesurau perfformiad
- sut i nodi achosion posibl unrhyw amharu ar y rhaglen waith a'u heffeithiau
- sut i adnabod peryglon posibl a'u goblygiadau
- egwyddorion a chymhwyso asesu risg
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A.      amcangyfrif adnoddau ar gyfer y prosiectau ar y tir canlynol:   
1.    tirwedd feddal  
2.    tirwedd galed  
3.    tirwedd fewnol  
B.     cynnwys yr adnoddau canlynol:  
1.    llafur  
2.    offer  
3.    deunyddiau  
4.    cyllid  
5.    arbenigedd penodol  
C.      cynllunio a gweithredu’r rhaglen waith ganlynol ar gyfer prosiectau ar y tir:   
1.    tirwedd feddal  
2.    tirwedd galed  
3.    tirwedd fewnol
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.