Cynnal systemau draenio tir
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal systemau draenio tir.
Byddai'r gweithgareddau arferol y byddech yn eu gwneud yn cynnwys archwilio systemau draenio tir ac adnabod ac ymdrin â rhwystrau a gollyngiadau.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad perthnasol yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol a gwella ei werth o ran cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â chynnal systemau draenio tir
gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas
- archwilio ac adrodd ar gyflwr systemau draenio tir yn unol â'r amserlenni y cytunwyd arnynt
- dewis, paratoi, defnyddio, glanhau, cynnal a chadw a storio offer a pheiriannau ar gyfer cynnal systemau draenio tir yn ddiogel ac yn gywir
- cynnal systemau draenio tir a'u hadfer i'w gallu llawn yn ddiogel ac yn gywir
- lleihau niwed i wasanaethau a'r ardaloedd cyfagos tra'n cynnal y systemau draenio tir
- cynnal cysylltiadau gwaith gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cofnodi arolygiadau a gwaith a wnaed yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
- adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cynnal y systemau draenio tir
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â gofynion cyfreithiol a manylebau perthnasol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
sut i nodi peryglon ac asesu risg sydd yn gysylltiedig â chynnal systemau draenio tir
y mathau o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
sut i ddewis, paratoi, defnyddio, glanhau, cynnal a chadw a storio offer a pheiriannau ar gyfer cynnal systemau draenio tir yn ddiogel ac yn gywir
sut i gynnal arolygiadau o systemau draenio tir
pwysigrwydd arolygu systemau draenio tir yn gyson
y mathau o broblemau sy’n debygol o ddigwydd gyda systemau draenio tir
sut i adnabod draeniad wedi ei rwystro, ei achosion a’r dulliau o’i gywiro
y ffactorau sy’n effeithio ar gyfraddau llif mewn draeniau
pwysigrwydd systemau draenio tir sydd yn gweithio’n effeithlon ac yn gywir
egwyddorion dyluniad draenio tir
pam y mae’n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus
sut i leihau niwed sy’n debygol o ddigwydd i wasanaethau ac ardaloedd cyfagos tra’n cynnal systemau draenio tir
sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol
pam y mae’n bwysig cwblhau gwaith yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni
y cofnodion y mae’n rhaid eu cwblhau a’u cadw a pham
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda’r rheiny sydd yn gysylltiedig â’ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. cynnal a dilyn mathau o systemau draenio tir:
1. piben solet
2. teils
3. agored
4. piben dyllog
5. systemau draenio cynaliadwy
B. trin y mathau canlynol o broblemau:
1. rhwystrau
2. gollyngiadau
C. defnyddio’r mathau canlynol o offer a chyfarpar:
1. offer llaw
2. offer wedi eu pweru
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, gofynion cwsmeriaid, polisïau sefydliadol.