Gosod systemau draenio tir
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gosod systemau draenio tir.
Mae'r gweithgareddau arferol y byddech yn eu gwneud yn cynnwys sicrhau bod cyfeirnodau a nodau yn gywir yn unol â'r manylebau, lleoli a diogelu gwasanaethau tanddaearol ac uwchben y ddaear, defnyddio concrid, brics, deunyddiau piben, meini a chynnyrch wedi eu casglu a chlirio a gwaredu gweddillion.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn gosod systemau draenio tir
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- dewis a gwisgo dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE) priodol
- dewis, paratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio offer a pheiriannau ar gyfer gosod systemau draenio tir, yn ddiogel ac yn gywir
- defnyddio dulliau gwaith sydd yn ddiogel ac yn gywir
- gosod cyfeirnodau yn unol â manylebau
- gosod systemau draenio tir yn unol â'r manylebau
- lleihau niwed i strwythurau a gwasanaethau presennol
- cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus
- adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cwblhau'r gwaith
- gwneud y gwaith yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cwblhau cofnodion fel sy'n ofynnol gan ddeddfwriaeth berthnasol a'r sefydliad
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
pwysigrwydd cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn gosod systemau draenio tir a'r canfyddiadau y mae'n rhaid adrodd arnynt
sut i adnabod peryglon ac asesu risg
y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
sut i ddehongli asesiadau risg
sut i ddewis, paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer a pheiriannau yn ddiogel ac yn gywir
y mathau gwahanol o systemau draenio sydd ar gael
y mathau gwahanol o ddeunyddiau a ddefnyddir ar gyfer systemau draenio tir
y math cywir o system draenio tir ar gyfer y gosodiad
pam y mae'n bwysig gosod cyfeirnodau yn gywir yn unol â'r manylebau a sut i wneud hynny
sut i sicrhau bod gosod y system draenio tir wedi cael ei wneud yn gywir yn unol â'r manylebau
sut i leihau gwastraff deunyddiau ac amser i gwblhau'r gwaith o osod y system draenio tir
pam y mae'n bwysig clirio gweddillion, gan gadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus a gwaredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
sut i leihau niwed i wasanaethau ac ardaloedd cyfagos
pam y mae'n bwysig cwblhau'r gwaith yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni
pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
y cofnodion y mae angen eu cwblhau a phwysigrwydd eu cadw
pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. gosod y mathau canlynol y system draenio tir:
1. dŵr arwyneb
2. pibau
3. teils
B. defnyddio’r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth osod systemau draenio tir:
1. offer llaw
2. mecanyddol
C. defnyddio’r mathau canlynol o ddeunyddiau wrth osod systemau draenio tir:
1. concrid
2. clai
3. plastig
4. meini
5. cynnyrch wedi eu casglu
Cwmpas Perfformiad
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol