Cynllunio a nodi ardaloedd chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynllunio ac yn nodi ardaloedd chwaraeon.
Os ydych yn gweithio gydag offer neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Bydd angen i chi gynnal arolwg cychwynnol o'r safle yn ogystal ag asesiad amgylcheddol. Bydd angen i chi hefyd gynllunio a nodi'r ardaloedd chwaraeon yn unol â rheolau'r gweithgaredd chwaraeon perthnasol.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â nodi ardaloedd chwaraeon
- cadarnhau bod dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas yn cael eu gwisgo
- cynnal asesiad amgylcheddol o'r safle cyn dechrau gwaith
- gwirio a chadarnhau math, swyddogaeth a dimensiynau gofynnol yr ardal chwaraeon
- creu cynlluniau cywir ar gyfer ardaloedd chwaraeon sydd yn cyd-fynd â rheolau'r gamp a swyddogaeth, defnydd a diogelwch y safle
- gwirio a chadarnhau bod safle a dimensiynau'r ardal chwaraeon wedi eu nodi a'u marcio yn unol â'r cynlluniau
- cadarnhau bod yr offer a'r peiriannau sy'n ofynnol i nodi'r ardaloedd chwaraeon wedi eu paratoi, eu defnyddio a'u cynnal yn ddiogel ac yn gywir
- gwneud y gwaith cynllunio a nodi ardal chwaraeon mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos
- cynnal perthynas waith gyda'r holl bobl berthnasol trwy gydol y gwaith o gynllunio a nodi'r ardaloedd chwaraeon
- parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- gadael y safle mewn cyflwr taclus a heb ei niweidio ar ôl ei osod
- ymdrin â gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â deddfwriaeth berthnasol a gofynion sefydliadol
- gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i adnabod peryglon ac asesu risg wrth nodi ardaloedd caeau chwaraeon
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y ffactorau sydd yn dylanwadu ar safle ardaloedd chwaraeon o fewn cyfanswm yr ardal sydd ar gael
- y ffynonellau gwybodaeth am ddimensiynau chwaraeon safonol
- y ffactorau sydd yn dylanwadu ar y dewis a'r defnydd o offer marcio a'r deunyddiau wrth nodi ardaloedd chwaraeon
- y ffordd y mae rheolau chwaraeon yn effeithio ar gynllunio a nodi ardaloedd chwaraeon
- y cynlluniau wrth gefn arferol i'w hystyried wrth gynllunio a nodi ardaloedd chwaraeon a ffyrdd o ymdrin â'r rhain
- yr offer sy'n ofynnol ar gyfer nodi ardaloedd chwaraeon a'r ffordd y caiff ei baratoi, ei ddefnyddio, ei gynnal a'i gadw a'i storio'n ddiogel ac yn gywir
- yr egwyddorion mathemategol a geometrig a ddefnyddir wrth nodi ardaloedd chwaraeon
- pam y mae'n bwysig cadw ardaloedd gwaith yn lân ac yn daclus wrth osod
- y dulliau o ganfod gwasanaethau tanddaearol
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo, a sut dylid gwneud hyn
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol ar gyfer trin, cludo a gwaredu gwastraff
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
Cwmpas/ystod
A. gwneud y gweithrediadau canlynol:
- nodi
- gosod offer allan
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Mae ardaloedd caeau chwaraeon yn cynnwys, er enghraifft: caeau pêl-droed a rygbi, caeau criced, cyrtiau tennis neu lacrosse, traciau athletau, cyrsiau golff a chaeau rasio.