Casglu a storio deunydd lluosogi
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn gwneud y gwaith o gasglu a storio deunydd lluosogi.
Mae'n cynnwys casglu mathau gwahanol o ddeunydd lluosogi a'r gofynion ar gyfer storio. Mae hyn yn cynnwys deunydd llystyfiant a hadau.
Byddwch yn gweithio yn unol â chyfarwyddiadau a manylebau.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- gwneud eich gwaith yn unol â'r cyfarwyddiadau a'r manylebau
gwisgo dillad addas ac offer amddiffynnol personol (PPE)
paratoi, defnyddio a chynnal a chadw offer yn ddiogel ac yn gywir
- nodi planhigion y mae deunydd lluosogi i gael ei gasglu oddi wrthynt
- cadarnhau bod y deunydd yn bodloni'r manylebau a'i fod yn addas ar gyfer lluosogi
- trin deunydd planhigion mewn ffordd sy'n lleihau niwed a gwastraff
- casglu deunydd lluosogi yn unol â'r manylebau
- labelu a storio deunydd lluosogi sydd wedi ei gasglu yn unol â'r manylebau
- cynnal lefelau hylendid a bioddiogelwch addas tra'n casglu a storio deunydd lluosogi
- prosesu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r cyfarwyddiadau
- cwblhau cofnodion casglu a storio lluosogi fel y bo angen
- gwneud eich gwaith yn unol â'r ddeddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch perthnasol, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- pwysigrwydd cwblhau'r gwaith o gasglu a storio deunydd lluosogi yn unol â'r manylebau
- y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
- y mathau o offer a chyfarpar sy'n ofynnol ar gyfer casglu a storio deunydd lluosogi, a sut i baratoi, defnyddio a chynnal a chadw'r rhain yn ddiogel ac yn gywir
- y math o blanhigion y gellir eu lluosogi
- ble a sut i gael gwybodaeth am blanhigion ac adnabod planhigion
- strwythur planhigion
- y ffyrdd y dyllid trin deunydd planhigion
- sut i gasglu deunydd lluosogi a gofynion y manylebau
- gofynion labelu a storio mathau gwahanol o ddeunydd lluosogi
- pwysigrwydd cynnal hylendid a bioddiogelwch wrth gasglu a storio deunydd lluosogi
- sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
y cofnodion y mae angen eu cwblhau mewn perthynas â chasglu a storio deunydd lluosogi
pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch perthnasol, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol
Cwmpas/ystod
Defnyddio a chynnal a chadw'r offer canlynol wrth gasglu a storio deunydd
lluosogi:
- offer torri
- cynwysyddion ar gyfer storio a chludo deunydd
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.
Dulliau lluosogi:
- toriadau (yn cynnwys toriadau pren meddal a dail)
- blaguro (yn cynnwys blagur dail)
- trawsblannu
- micro-luosogi
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol