Gweithredu cynlluniau ar gyfer rheoli ardaloedd caeau chwaraeon
Trosolwg
Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gweithredu cynlluniau ar gyfer rheoli ardaloedd caeau chwaraeon, yn cynnwys cynnal, adnewyddu ac atgyweirio ardaloedd caeau chwaraeon.
Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.
Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad yn unol â deddfwriaeth berthnasol.
Meini prawf perfformiad
Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:
- asesu'r risg sydd yn gysylltiedig â'r safle a'r gwaith arfaethedig
- cynnal deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol
- archwilio, asesu ac adrodd ar gyflwr ardaloedd caeau chwaraeon
- cadarnhau bod y cynlluniau ar gyfer rheoli ardaloedd caeau chwaraeon yn cyd-fynd â diben a swyddogaeth caeau chwaraeon, rheolau'r gamp a'r manylebau
- pennu'r adnoddau sy'n ofynnol i reoli ardaloedd caeau chwaraeon
- rhoi gweithrediadau wedi eu cynllunio ar waith ar gyfer rheoli ardaloedd caeau chwaraeon
- asesu'r angen i ddiogelu ardaloedd caeau chwaraeon a rhoi amddiffyniad addas yn unol â chanlyniad yr asesiad
- monitro gweithrediadau wedi eu cynllunio i sicrhau eu bod yn bodloni'r manylebau
- asesu canlyniadau gweithrediadau wedi eu cynllunio gan gadarnhau bod y cynlluniau a'r safonau y cytunwyd arnynt wedi cael eu cyflawni
- lleihau'r risg i'r cyhoedd a gweithredwyr
- sicrhau bod y dulliau gwaith wedi eu sefydlu a'u cyfathrebu'n glir gyda phawb sydd yn gysylltiedig â rheolaeth ardaloedd caeau chwaraeon, neu wedi eu heffeithio ganddynt
- cynnal perthynas waith gyda phawb sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- cadarnhau bod y safle wedi cael ei adael yn daclus ac mewn cyflwr heb ei niweidio ar ôl y gweithrediadau
- rheoli'r gwaith o waredu gwastraff a deunyddiau dros i ben i leihau risg amgylcheddol yn unol â gofynion cyfreithiol perthnasol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth
You need to know and understand:
- sut i ysgrifennu a gweithredu asesiad risg
pwysigrwydd arolygu, asesu ac adrodd ar gyflwr ardaloedd caeau chwaraeon
diben a swyddogaethau caeau chwaraeon a'r ffordd y mae'r rhain yn effeithio ar eu rheolaeth
- deall rheolau'r chwaraeon perthnasol a'r ffordd y maent yn effeithio ar reoli ardaloedd caeau chwaraeon
- yr egwyddorion a'r dulliau yn ymwneud â dewis a gweithredu peiriannau ar gyfer rheoli caeau chwaraeon
- ystyriaeth o fathau o bridd a'i gyflwr mewn perthynas â rheoli caeau chwaraeon
- yr ystyriaethau yn ymwneud ag amseriad rheoli caeau chwaraeon
- ystyriaethau yn ymwneud â dewis cyfundrefnau torri glaswellt a gweithrediadau cynnal eraill
- egwyddorion nodi diffygion patholegol a ffisiolegol caeau chwaraeon
- yr egwyddorion a'r technegau yn ymwneud ag effeithiau, dewis a chymhwyso gwrtaith
- ble i gael ffynonellau gwybodaeth am driniaethau caeau
- y ffactorau sy'n effeithio ar y math o atgyweiriadau a'u graddau
- y dulliau o fonitro ac asesu effeithiau rheoli caeau chwaraeon trwy gasglu data
- egwyddorion a dulliau diogelu atgyweiriadau ac adnewyddiadau
- pa risgiau i'r cyhoedd allai fod yn bresennol yn ystod gweithgareddau rheoli caeau chwaraeon a sut i'w lleihau
- y gofynion cyfreithiol a sefydliadol perthnasol sy'n rheoli gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben
- y problemau arferol a allai godi a'r camau i'w cymryd
- y gofynion statudol ar gyfer defnyddio plaladdwyr
- pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
- eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth iechyd a diogelwch a chodau ymarfer perthnasol
- pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i helpu i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
Cwmpas/ystod
torri
ymylu
chwynnu
rheoli plâu a chlefydau
gosod gwrtaith
awyru
gwrteithio o'r brig
cyfnewid/brwsio
crafu/torri'n fertigol
dyfrhau
rholio
gosod hadau ar yr arwyneb
atgyweirio ymylon
gosod hadau ar yr arwyneb
gosod cae
atgyweirio ymylon
Cwmpas Perfformiad
Gwybodaeth Cwmpas
Gwerthoedd
Ymddygiadau
Sgiliau
Geirfa
Bydd y cynllun cynnal yn cynnwys: torri ac ymylu, chwynnu, rheoli plâu a chlefydau, gosod gwrtaith, awyru, gwrteithio o'r brig, cyfnewid/brwsio, gosod hadau ar yr arwyneb, gosod cae, atgyweirio ymylon, crafu/torri fertigol, dyfrhau, rholio, gosod offer allan sy'n briodol i'r gamp.
Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (SOP), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.
Ardaloedd caeau chwaraeon, yn cynnwys, er enghraifft: caeau pêl-droed a rygbi, cae criced, cyrtiau tennis neu lacrosse, traciau athletau, cyrsiau golff, cyrsiau rasio.