Cynnal arwynebeddau chwaraeon artiffisial

URN: LANH28
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sydd yn cynnal arwynebeddau chwaraeon artiffisial.  Bydd hyn yn cynnwys cadarnhau bod arwynebeddau chwarae artiffisial/synthetig yn ddiogel ac yn bodloni'r safonau gofynnol ar gyfer y gamp.

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. bod yn ymwybodol o'r peryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni

  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas

  3. dewis, paratoi a defnyddio'r offer, y cyfarpar a'r deunyddiau sy'n ofynnol i gynnal arwynebeddau chwaraeon artiffisial yn ddiogel ac yn gywir
  4. defnyddio offer a chyfarpar yn unol â deddfwriaeth berthnasol a chyfarwyddiadau cynhyrchwyr
  5. clirio a pharatoi'r arwynebeddau chwaraeon artiffisial ar gyfer eu cynnal
  6. gwneud gwaith cynnal a chadw fel bod ansawdd ac ymddangosiad yr arwynebedd chwaraeon artiffisial yn addas ar gyfer y gamp
  7. gwneud gwaith mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos
  8. gwaredu gwastraff a deunyddiau dros ben yn ddiogel ac yn gywir yn unol â gofynion deddfwriaeth a sefydliadol perthnasol
  9. parhau i gyfathrebu gyda chydweithwyr ac eraill sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  10. adfer y safle i gyflwr priodol ar ôl cynnal a chadw arwynebeddau chwaraeon artiffisial
  11. cynnal a chadw a storio offer a chyfarpar yn ddiogel
  12. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y peryglon sydd yn gysylltiedig â chynnal a chadw gwasanaethau chwaraeon artiffisial
  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd
  3. sut i ddewis, paratoi a defnyddio'r offer, y cyfarpar a'r deunyddiau sy'n ofynnol ar gyfer cynnal a chadw arwynebeddau chwaraeon artiffisial yn ddiogel ac yn gywir
  4. y dulliau a'r technegau sy'n ofynnol i glirio a pharatoi'r chwaraeon artiffisial ar gyfer eu cynnal
  5. y ffordd y gallai arwynebeddau chwaraeon artiffisial a'r tywydd effeithio ar gynnal a chadw 
  6. sut i baratoi'r arwynebeddau chwaraeon artiffisial cyn gwneud gwaith cynnal a chadw
  7. safon ansawdd y chwarae ac ymddangosiad yr arwynebedd chwaraeon artiffisial y mae'n rhaid ei chyflawni ar gyfer gofynion y gamp
  8. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol i leihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd
  9. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  10. pwysigrwydd parhau i gyfathrebu gyda'r rheiny sydd yn gysylltiedig â'ch gwaith, neu wedi eu heffeithio ganddo
  11. pwysigrwydd adfer y safle i gyflwr glân a thaclus ar ôl y gwaith cynnal
  12. sut i lanhau, cynnal a chadw a storio offer, cyfarpar a deunyddiau sydd eu hangen ar gyfer cynnal arwynebeddau chwaraeon artiffisial yn gywir ac yn ddiogel
  13. eich cyfrifoldebau sy'n berthnasol i ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol

Cwmpas/ystod

A.       cynnal y mathau canlynol o arwynebeddau chwaraeon artiffisial:

  1. caled mandyllog wedi ei ddal gyda'i gilydd gan ddŵr 
  2. synthetig wedi ei lenwi                 
  3. synthetig heb ei lenwi

B.       defnyddio'r mathau canlynol o offer a chyfarpar wrth gynnal arwynebeddau chwaraeon artiffisial:

  1. â llaw
  2. wedi eu pweru
  3. wedi eu gosod

     C.       gwneud y mathau canlynol o waith cynnal ar arwynebeddau chwaraeon artiffisial:

  4. brwsio

  5. selio
  6. gwrteithio o'r brig 
  7. rheoli chwyn
  8. rheoli mwsogl/algae
  9. diogelu rhag rhew
  10. marcio
  11. dyfrhau
  12. adnewyddu (atgyweirio niwed) 
  13. dileu halogiad

Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Gwneud gwaith cynnal a chadw fel mater o drefn: brwsio, selio, gwrteithio o'r brig, rheoli chwyn, rheoli mwsogl/algae, diogelu rhag rhew.

Archwilio arwynebeddau: clirio a pharatoi arwynebeddau ar gyfer gwaith cynnal.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2014

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANL7

Galwedigaethau Perthnasol

Gofalwr Tir

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

cae; cae chwarae