Adnewyddu ac atgyweirio arwynebeddau caeau chwaraeon

URN: LANH27
Sectorau Busnes (Suites): Garddwriaeth
Datblygwyd gan: Lantra
Cymeradwy ar: 31 Ion 2019

Trosolwg

Mae'r safon hon ar gyfer y rheiny sy'n gyfrifol am adnewyddu ac atgyweirio arwynebeddau caeau chwaraeon ar ôl chwarae.

Os ydych yn gweithio gyda chemegau neu beiriannau dylech fod wedi cael hyfforddiant ac yn meddu ar ardystiad cyfredol lle bo angen yn unol â deddfwriaeth berthnasol.

Mae'n rhaid i chi wneud eich gwaith mewn ffordd fydd yn lleihau'r effaith ar yr amgylchedd naturiol ac yn gwella ei werth o ran natur, cadwraeth a hamdden.


Meini prawf perfformiad

Mae'n rhaid eich bod chi'n gallu:

  1. ​bod yn ymwybodol o beryglon sydd yn gysylltiedig â'r gweithgaredd i'w gyflawni

  2. gwisgo dillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) addas

  3. archwilio arwynebeddau caeau chwaraeon i nodi ac asesu'r angen i adnewyddu ac atgyweirio
  4. dewis dulliau adnewyddu ac atgyweirio sy'n briodol i'r niwed, math o arwynebedd y cae chwaraeon a'r manylebau
  5. paratoi a defnyddio offer, cyfarpar a pheiriannau ar gyfer adnewyddu ac atgyweirio arwynebeddau caeau chwaraeon yn ddiogel ac yn gywir
  6. paratoi arwynebedd y cae chwaraeon a defnyddio'r dulliau adnewyddu ac atgyweirio dethol yn ddiogel ac yn gywir
  7. adnewyddu ac atgyweirio arwynebeddau caeau chwaraeon mewn ffordd sydd yn atal niwed i'r ardal gyfagos
  8. adfer arwynebedd y cae chwaraeon er mwyn iddo fodloni gofynion y gamp a safon y digwyddiad
  9. glanhau, cynnal a chadw a storio offer, cyfarpar a pheiriannau ar gyfer adnewyddu ac atgyweirio arwynebeddau caeau chwaraeon yn ddiogel ac yn gywir 
  10. gwaredu gwastraff yn ddiogel ac yn gywir yn unol â'r manylebau
  11. gwneud eich gwaith yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, gofynion asesu risg, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol

Gwybodaeth a Dealltwriaeth

You need to know and understand:

  1. y peryglon sydd yn gysylltiedig ag adnewyddu ac atgyweirio arwynebeddau caeau chwaraeon

  2. y math o ddillad ac offer amddiffynnol personol (PPE) sydd yn addas ar gyfer y gweithgaredd 

  3. sut i archwilio arwynebeddau caeau chwaraeon i asesu a nodi'r angen i adnewyddu ac atgyweirio

  4. dulliau adnewyddu ac atgyweirio ar gyfer arwynebeddau caeau chwaraeon

  5. sut i baratoi, defnyddio, cynnal a chadw a storio offer, cyfarpar a pheiriannau sy'n ofynnol ar gyfer adnewyddu ac atgyweirio arwynebeddau caeau chwaraeon yn ddiogel ac yn gywir

  6.  pwysigrwydd paratoi addas a chywir cyn adnewyddu ac atgyweirio arwynebeddau caeau chwaraeon

  7. pam y mae'n bwysig adnewyddu ac atgyweirio arwynebeddau caeau chwaraeon i fodloni gofynion y gamp a safon y digwyddiad a chanlyniadau peidio â gwneud hynny
  8. pwysigrwydd adfer safle'r cae chwaraeon i gyflwr glân a thaclus
  9. eich cyfrifoldebau yn unol â deddfwriaeth amgylcheddol ac iechyd a diogelwch, codau ymarfer a pholisïau sefydliadol perthnasol
  10. sut i drin, cludo a gwaredu gwastraff yn unol â gofynion cyfreithiol a sefydliadol
  11. pwysigrwydd dilyn arfer gorau amgylcheddol ac ecolegol er mwyn lleihau effaith eich gwaith ar yr amgylchedd

Cwmpas/ystod

A.      defnyddio'r dulliau adnewyddu ac atgyweirio canlynol i adnewyddu ac atgyweirio arwynebeddau caeau chwaraeon: 

  • gosod hadau dros yr arwynebedd

  • codi â llaw

  • clytio neu blygio

  • fforchio i fyny

  • gwrteithio o'r brig

  • ailosod tyweirch

B.      cynnal agweddau canlynol y safon ar gyfer arwynebedd y cau chwaraeon:

  • cyflymder

  • ymateb yr arwynebedd i bêl, anifail neu chwaraewr        

  • gwlybaniaeth

  • gorchudd glaswellt

  • graddau'r cyfnerthiad

  • gwirionedd


Cwmpas Perfformiad


Gwybodaeth Cwmpas


Gwerthoedd


Ymddygiadau


Sgiliau


Geirfa

Cyfarwyddiadau: llafar neu ysgrifenedig.

Manylebau: darluniau, amserlenni, datganiadau dull, Gweithdrefnau Gweithredu Safonol (GGS), canllawiau cynhyrchwyr, polisïau sefydliadol

Adnewyddu ac atgyweirio: adnewyddu ac atgyweirio ardaloedd sydd wedi eu niweidio yn unol â graddfa'r niwed a'r math o arwynebedd trwy osod hadau dros yr arwynebedd â llaw, codi'r cae, clytio a phlygio â llaw, fforchio i fyny â llaw, gwrteithio o'r brig â llaw a defnyddio dosbarthwyr.


Dolenni I NOS Eraill


Cysylltiadau Allanol


Fersiwn rhif


Dyddiad Adolygu Dangosol

31 Ion 2024

Dilysrwydd

Ar hyn o bryd

Statws

Gwreiddiol

Sefydliad Cychwynnol

Lantra

URN gwreiddiol

LANH27

Galwedigaethau Perthnasol

Gofalwr Tir, Gofalwr y Grîn

Cod SOC

5111

Geiriau Allweddol

glaswellt; maes; cae; cwrs; golff; cae; chwaraeon